Ymunwch â Cadw am gyfres o deithiau tywys yn rhai o’n mannau hanesyddol mwyaf diddorol…
Rydym yn eich gwahodd i gamu i’r gorffennol a dadorchuddio tapestri cyfoethog hanes Cymru gyda’n rhaglen o deithiau tywys mewn naw o leoliadau Cadw ledled Cymru.
Cychwynnwch ar daith trwy amser wrth i'n tywyswyr arbenigol eich arwain trwy gestyll hynafol, eiconau crefyddol yr oes Sistersaidd a thiroedd cysegredig gwareiddiadau hynafol. P’un a ydych chi’n hoff o hanes neu’n awyddus i glywed am y straeon sydd wedi’u hysgythru ar gerrig ein gorffennol, mae ein teithiau tywys yn cynnig cyfle heb ei ail i dreiddio’n ddwfn i dreftadaeth ddiwylliannol ein byd.
Dewch i ddarganfod cyfrinachau’r oes a fu a chreu atgofion a fydd yn para am oes ar ein teithiau tywys o amgylch treftadaeth adeiledig Cymru.
Mae teithiau tywys ar gael mewn naw lleoliad Cadw ac yn rhedeg o fis Mai i fis Awst 2025:
- Barclodiad y Gawres
- Bryn Celli Ddu
- Cae’r Gors
- Castell Cilgerran
- Eglwys Llangar
- Castell Oxwich
- Capel y Rug
- Segontiwm
- Abaty Glyn y Groes
Pris y tocynnau yw £12.00 a £10.00 i aelodau Cadw.