Teithiau Caer Rufeinig Segontium
Cadarnle Rhufeinig a ddaeth yn rhan o chwedl Gymreig.
Sefydlwyd y gaer hon, gafodd ei lleoli’n strategol ar gyrion yr Ymerodraeth Rufeinig, bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, ac am dros dri chan mlynedd bu’r lle yn ferw o fywyd.
Seiliwyd Segontium gan Agricola yn OC77 wedi iddo lwyddo’n giaidd i rwystro gwrthryfel gan y llwyth brodorol a elwid yr Ordofigiaid. Roedd y gaer, a fwriadwyd ar gyfer dal catrawd o 1,000 o filwyr traed cynorthwyol, wedi’i chysylltu â'r prif ganolfannau llengol yng Nghaer a Chaerllion gan ffyrdd Rhufeinig.
Diolch i ddarnau arian a gloddiwyd, gwyddom fod y Rhufeiniaid wedi aros tan tua 394 OC – ni chafodd unrhyw gaer arall yng Nghymru ei dal am gyhyd. Roedd Segontium nid yn unig yn rheoli mynediad i Fôn ffrwythlon a mwynol gyfoethog, ond yn ddiweddarach bu’n gyfrwng i amddiffyn arfordir Cymru rhag môr-ladron Gwyddelig.
Ymhell wedi ymadawiad olaf y llengoedd, daeth Segontium yn rhan o chwedloniaeth y Cymry dan yr enw Caer aber Seint – ‘y gaer wrth geg afon Seiont' – a cheir cyfeiriad ati yn ‘Breuddwyd Macsen Wledig’, un o chwedlau hynafol y Mabinogi.
Teithiau tywys am 11am a 2pm.
Archebwch docynnau ar-lein ymlaen llaw (ni fydd tocynnau ar gael i'w prynu wrth gyrraedd).
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Oedolion |
£12.00
|
Aelod - Ymunwch rŵan |
£10.00
|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 04 Mai 2025 |
11:00 - 14:00
|
Sul 20 Gorff 2025 |
11:00 - 14:00
|
Sul 31 Awst 2025 |
11:00 - 14:00
|
Archebwch |