Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Pam ymuno â Cadw?

Mae ymuno â Cadw yn cynnig diwrnodau allan diderfyn i chi bob blwyddyn neu hyd yn oed am oes! A llawer, llawer mwy. . . .

  • Mynediad diderfyn i orffennol Cymru

Fel aelod o Cadw, gallwch ymweld â’n 130 o safleoedd mor aml ag yr hoffwch a helpu i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. O gestyll i abatai, plastai i gaerau, mae gan Cadw safleoedd a fydd at ddant pob un math o aelod. Mae gennym hyd yn oed Safleoedd Treftadaeth y Byd, UNESCO! 

  • Ar gyfer pob math o aelod

Ydych chi’n teimlo’n angerddol am dreftadaeth? Oes gennych chi ddiddordeb mewn archaeoleg? Ydych chi’n hoff o hanes? Diwrnodau da allan? Ydych chi am fod yn rhan o deulu Cadw? Os ateboch yn gadarnhaol i un o’r rhain, yna mae aelodaeth Cadw ar eich cyfer chi. Mae hefyd yn gwneud anrheg berffaith...

  • Cannoedd o ddigwyddiadau at ddant pawb

Mae aelodaeth Cadw hefyd yn cynnwys mynediad i’n rhaglen o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn fel ein gwyliau canoloesol, sesiynau hanes ar waith, sesiynau rhoi cynnig ar saethyddiaeth, ailgreadau, gweithdai ymarferol a llawer mwy. Yn ogystal â hyn i gyd, mae’n safleoedd yn dod yn fyw dros y Nadolig, y Pasg a Chalan Gaeaf gyda’n digwyddiadau tymhorol.

  • Diogelu’n treftadaeth ar gyfer y dyfodol

Mae’r holl incwm a ddaw yn sgil gwerthiant aelodaeth yn mynd yn ôl i ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol gan ganiatáu mynediad parhaus i’r mannau anhygoel hyn. Mae’ch cyfraniad wir yn gwneud gwahaniaeth.

Gallwch hefyd gyflwyno rhodd ariannol i Cadw yn unrhyw un o'n henebion.

Mynediad i dros 500 o eiddo hanesyddol a phalasau bythgofiadwy

Yn ogystal â chael mynediad i safleoedd Cadw, mae aelodaeth Cadw yn rhoi mynediad i safleoedd hanesyddol ledled Lloegr, yr Alban ac Ynys Manaw! Dyna i chi dros 500 o fannau hanesyddol i ymweld â nhw!

Mae manteision aelodaeth yn cynnwys:

  • mynediad DIDERFYN i bob un o 130 o safleoedd Cadw
  • mynediad DIDERFYN i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau hanesyddol a theuluol
  • mynediad HANNER PRIS i holl atyniadau English Heritage a Historic Scotland gan roi mynediad i chi AM DDIM os gwnewch chi adnewyddu’ch aelodaeth y flwyddyn nesaf
  • mynediad DIDERFYN i eiddo Manx National Heritage
  • cylchgrawn Arobryn Etifeddiaeth y Cymry YN RHAD AC AM DDIM, sy’n cynnwys newyddion a straeon o 130 o safleoedd Cadw
  • digwyddiadau arbennig i aelodau a chynigion arbennig i aelodau fel bod gyda’r cyntaf i weld â safleoedd cloddio a chadwraeth
  • cyfle cyntaf i brynu tocynnau ar gyfer rhai digwyddiadau unigryw a theithiau cyfyngedig
  • 10% oddi ar nwyddau yn siopau rhodd Cadw
  • 10% oddi ar nwyddau yn siop rhodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu unrhyw safle Amgueddfa Cymru*
  • 10% oddi ar gyhoeddiadau RCAHMW.*

*Amodau a thelerau ar gael ar cadw.llyw.cymru/aelodaeth

Aelodaeth oes

Dewch yn aelod oes ac ewch â phob un o’ch plant a’ch wyrion (o dan 18 oed) ac un oedolyn yn rhad ac am ddim i leoliadau Cadw, English Heritage, Historic ScotlandManx Heritage ar y diwrnod yr ymunwch. Mae aelodau oes Cadw wedi cyfrannu bron i £1 filiwn tuag at gadwraeth yn safleoedd Cadw. 

Rhoi aelodaeth yn anrheg

Mae aelodaeth Cadw hefyd yn gwneud y rhodd berffaith ar gyfer pobl sydd wrth eu bodd yn mynd ar antur. Rhowch yr allwedd i’ch ffrindiau a’ch teulu i deithio’n ôl mewn amser a mwynhau diwrnodau bythgofiadwy allan, nid yn unig yng Nghymru ond ledled Lloegr a’r Alban hefyd.

Os hoffech drafod aelodaeth Cadw ymhellach, cysylltwch â’n tîm ymroddedig ar 02920786022.

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw 
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage 
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn