Skip to main content

Mae pob un ohonom yn hoffi parti, a dangosodd ein cyndeidiau’r ffordd i ni. Ac rydym yn dal i ddathlu rhai o’u partïon heddiw – gyda chaneuon i’w nodi.

Mae rhai o’r traddodiadau yn hen iawn, ond nid yw rhai ohonynt mor hen ag rydym efallai’n ei feddwl.

Dydd Gŵyl Dewi

Ar 1 Mawrth yng Nghymru, rydyn ni’n dathlu ein sant cenedlaethol, Dewi Sant.

Mae’n amser gwisgo’r wisg draddodiadol Gymreig gyda chennin a chennin pedr wedi’u pinio ar ein crysau wrth i ni ddawnsio a chanu caneuon traddodiadol Cymreig. Ond pwy yn union oedd Dewi?

Darganfyddwch stori Dewi, sut y bu’n astudio’n galed i fod yn fynach (oes, mae hyd yn oed sant yn gorfod astudio) gan rannu ei ddysg gyda phobol ledled Cymru a thu hwnt; sut y perfformiodd wyrthiau a pha mor hir y cymerodd y Pab i gydnabod ei fywyd rhyfeddol a’i waith fel Archesgob Cymru!

Gwyliwch gyda chyfieithiad ac isdeitlau BSL

Diwrnod Santes Dwynwen

Fe ddethlir Dydd Santes Dwynwen, y cyfeirir ato’n aml fel Dydd Sant Ffolant Cymru, bob blwyddyn ar 25 Ionawr.

Ond pwy oedd Dwynwen a pham mai yw hi yw nawddsant cariadon Cymru?

Darganfyddwch stori Dwynwen sy’n ymwneud â chariad a thor calon, sut y daeth yn sant a neilltuodd ei bywyd yn gofalu am eraill, gan sicrhau eu bod yn dod o hyd i obaith a chryfder i ddilyn eu calonnau ac i fod yn hapus...

Dyma gyfle i gael gwybod mwy - Arwyr ac Arwresau Cymru

A ydych chi’n nabod ein hanthem?

Mae hi’n gryf ac yn danllyd ac yn eithaf dramatig… ond a ydych chi’n gwybod o ble mae hi’n dod? Pryd gafodd hi ei geni a sut wnaeth cân o’r enw Glan Rhondda i frawd ymhell i ffwrdd, ddatblygu i fod yr anthem rydyn ni’n ei hadnabod a’i charu heddiw?

Gwyliwch gyda chyfieithiad ac isdeitlau BSL

Nadolig

Mae yna rai traddodiadau gwych o gwmpas y Nadolig, onid oes? Efallai eich bod chi’n gwybod am rai — cardiau Nadolig, coed Nadolig… a phwdinau Nadolig! Ond a wyddoch chi o ble maen nhw’n dod?

Ac a wyddoch chi rai o draddodiadau’r Nadolig yng Nghymru?

Dyma gyfle i gael gwybod pam roedd cardiau Nadolig oes Fictoria yn llai cyfeillgar na rhai heddiw, pa fath o bwdin Nadolig y gallech edrych ymlaen at ei gael yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, a mwy!

Gwyliwch gyda chyfieithiad ac isdeitlau BSL

Blwyddyn Newydd

Mae’n adeg sy’n nodi’r newid yn y flwyddyn, ac yn adeg pan allai gwestai arbennig iawn guro ar eich drws — y Fari Lwyd a’i mintai.

Ydych chi’n dathlu Nos Galan â thraddodiad y Fari Lwyd? Gwyliwch ein fideo i ddysgu popeth am y gnoc ar y drws ar Nos Galan a beth y bydd angen i chi ei wneud os byddwch yn clywed y Fari Lwyd yn galw yng Nghymru ar 31 Rhagfyr…

Gwyliwch gyda chyfieithiad ac isdeitlau BSL