Skip to main content

Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig

Ers cannoedd o flynyddoedd, mae parciau a gerddi hanesyddol wedi bod yn rhan bwysig o dirweddau Cymru. 

Heddiw maent yn rhwydwaith o fannau gwyrdd gwerthfawr, a mannau o fwynhad, harddwch a dysgu. Mae ganddynt gyfraniad i'w wneud o hyd o ran creu Cymru iachach a gwyrddach.

Cydnabyddir parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru drwy gofrestru. Maent yn cynnwys amrywiaeth eang o leoedd — er enghraifft parciau gwledig o amgylch tai gwledig, parciau ceirw, gerddi trefol, tiroedd ysbytai a pharciau cyhoeddus.

Maent yn dyddio o'r cyfnod canoloesol i'r ugeinfed ganrif. Yn yr adran hon gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanynt, ac am yr hyn y mae cofrestru'n ei olygu.