Skip to main content

Mae dysgu Cymraeg, ein hiaith hardd, yn ffordd wych o ymgolli yn niwylliant cyfoethog a bywiog ein gwlad.

Croeso i Deg Diwrnod Diddorol, sef adnodd arloesol sydd wedi’i gomisiynu gan Cadw er mwyn galluogi’r rheini ohonoch sy’n dysgu Cymraeg i brofi rhywfaint o hanes gwych Cymru drwy ymweld â’n safleoedd, a datblygu eich sgiliau Cymraeg hefyd.

Ar hyn o bryd, mae’r adnodd hwn sydd wedi’i rannu yn gamau yn canolbwyntio ar henebion hanesyddol yn y gogledd. Gydag amser, fodd bynnag, rydym yn bwriadu cyflwyno’r adnodd fel ei fod ar gael i ddysgwyr sydd am ymweld â henebion hanesyddol yn y de a’r canolbarth, er mwyn gwella sgiliau Cymraeg yn y safleoedd hynny hefyd.

Mae’r adnoddau wedi’u creu yn arbennig er mwyn helpu oedolion sy’n dysgu Cymraeg, ac maent ar gael ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch – i’w lawrlwytho am ddim ar ffurf ffeiliau PDF yma: Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch. 

Dysgu Cymraeg / Learn Welsh

Mae Deg Diwrnod Diddorol yn defnyddio codau QR i gysylltu llyfryn â gweithgareddau ar-lein, sy’n arwain defnyddwyr drwy ddiwrnod o hanes, cwisiau, straeon a diwylliant, a’r cyfan yn rhai o leoliadau hanesyddol mwyaf trawiadol y gogledd. Mae gan bob diwrnod bwyntiau gramadegol penodol a gaiff eu hymarfer, sy’n deillio’n uniongyrchol o’r cyrsiau Dysgu Cymraeg, a fydd yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth newydd o’r ardal yr ydych yn ymweld â hi, ac adolygu’r iaith yr ydych yn ei dysgu hefyd.

Noder – Os byddwch yn cael trafferth defnyddio’r codau QR, mae pob un o’r fideos perthnasol i’w gweld ar Deg Diwrnod Diddorol - YouTube

Dyma a ysgrifennodd un defnyddiwr diweddar am adnoddau Deg Diwrnod Diddorol

Roeddwn i am gysylltu i ddweud eu bod yn rhagorol! Mae fy mhartner yn dysgu Cymraeg, ac mae e’ wir wedi mwynhau defnyddio’r llyfryn ‘canolradd’. Gwelodd ei fod wedi’i helpu i ddysgu geiriau newydd. Rydym yn aelodau o Cadw, ac mae’r llyfryn yn wych gan y bydd yn ei helpu i ddarllen y wybodaeth Gymraeg yn eich safleoedd. Byddai’n hoffi symud ymlaen i ddefnyddio’r llyfryn ‘uwch’.

Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr

Dyma strategaeth Llywodraeth Cymru ar hyfer hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Mae’r strategaeth hon a’r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn datgan bod y Gymraeg yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu, a gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith yn eu bywyd pob dydd.