Y Diwydiant Teithio
O 6pm ddydd Gwener 23 Hydref, bydd holl safleoedd Cadw â staff a heb staff ar gau tan ddydd Llun 9 Tachwedd
Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyfnod atal byr a fydd yn dod i rym am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref, bydd holl safleoedd Cadw â staff a heb staff ar gau tan ddydd Llun 9 Tachwedd.
Bydd unrhyw un sydd eisoes wedi prynu tocyn i ymweld â safle Cadw yn ystod y cyfnod hwn yn cael cynnig ad-daliad llawn.
Dyma wefan Cadw ar gyfer y Diwydiant Teithio gan gynnwys gweithredwyr teithiau, asiantaethau teithio, gweithredwyr bysiau moethus a chwmnïau rheoli cyrchfannau.
Mae amrywiaeth o wybodaeth er mwyn cyfoethogi teithiau sydd eisoes yn dod i safleoedd Cadw neu i helpu cyflwyno henebion Cadw i raglenni teithio am y tro cyntaf.
Bydd pob gweithredwr teithiau sydd wedi cofrestru gyda Cadw yn cael 10% o ostyngiad ar fynediad i bob gwestai a mynediad am ddim i arweinwyr.