Castell Cas-gwent
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Cerrig cadarnle mawreddog ar ben clogwyn yn olrhain 600 mlynedd o hanes
Mae Castell Cas-gwent, a gadwyd mewn cyflwr hardd, yn ymestyn allan ar hyd clogwyn calchfaen uwchben Afon Gwy megis gwers hanes o gerrig.
Nid oes un lle gwell ym Mhrydain i weld sut esblygodd cestyll yn raddol i ymdopi ag arfau mwyfwy dinistriol – ac uchelgeisiau mawreddog eu perchenogion. Am fwy na chwe chanrif, roedd Cas-gwent yn gartref i rai o ddynion cyfoethocaf a mwyaf pwerus y canol oesoedd ac oes y Tuduriaid.
Dechreuwyd y gwaith adeiladu ym 1067 gan Iarll William fitz Osbern, cyfaill agos i Gwilym Goncwerwr, gan ei wneud yn un o’r cadarnleoedd Normanaidd cyntaf yng Nghymru. Fesul un, gadawodd William Marshal (Iarll Penfro), Roger Bigod (Iarll Norfolk) a Charles Somerset (Iarll Caerwrangon) oll eu hôl cyn i’r castell ddirywio ar ôl y Rhyfel Cartref.
Byddai’r pendefigion a’r broceriaid pŵer hyn ar fynd o hyd. Dim ond un breswylfa yn eu hystadau helaeth oedd Cas-gwent– cragen drawiadol lle byddent yn dod â’u llestri aur ac arian, eu sidan gwych a’u dodrefn lliwgar.

Castell Gas-Gwent Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!
Prisiau a Thocynnau
Cyfleusterau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Ceir mynediad ar oleddr o'r maes parcio cyhoeddus. Mae 4 lle parcio penodol i bobl anabl ar gael ym maes parcio'r cyngor y tu blaen i'r castell. Mae lleoedd parcio penodol i fysiau.
Ceir mynediad ar oleddr o'r maes parcio cyhoeddus. Mae 4 lle parcio penodol i bobl anabl ar gael ym maes parcio'r cyngor y tu blaen i'r castell. Mae ardaloedd ar y safle yn hygyrch i bobl sy’n ei chael hi’n anodd symud o gwmpas. Mae'r toiledau cyhoeddus agosaf gan gynnwys toiled i bobl anabl mewn maes parcio y tu blaen i'r castell.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Cyfarwyddiadau
Cod post NP16 5EY
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 01291 624065
E-bost
ChepstowCastle@llyw.cymru
Bridge St, Cas-gwent NP16 5EY