Gweithdai Celf Iechyd a Lles
Gadewch bwysau a phrysurdeb bywyd wrth y drws, archwiliwch eich creadigrwydd a mwynhewch ddathlu natur yn y gweithdai celf hyn sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo iechyd a lles.
Dan arweiniad yr artist Miriam Vincent (Mini Lala Designs), mae’r gweithdy hwn yn ymwneud â'r broses, nid y canlyniad terfynol. Mwynhewch y cyfle i fod yn greadigol mewn amgylchedd diogel, heb farn na disgwyliad - dim ond cael hwyl!
Bydd cyfle i wneud llawer o archwilio creadigol gan ddefnyddio pensiliau i ddechrau, yna paent acrylig ar gynfas. Gadewch i'ch dychymyg creadigol lifo a phrofi pa mor foddhaus yw gweithdai celf ar gyfer iechyd a lles.
Bydd y sesiynau'n para 2 awr 30 munud, gyda'r holl offer a deunyddiau yn cael eu cyflenwi. Darperir diodydd poeth ond dewch â'ch byrbrydau eich hun.
Mae angen tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn a rhaid archebu ymlaen llaw. Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys mynediad cyffredinol i'r castell, fel y gallwch archwilio'r castell cyn neu ar ôl eich sesiwn.
Cyrhaeddwch 10 munud cyn i'ch sesiwn ddechrau os gwelwch yn dda.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Addas ar gyfer oedran 16+ |
£34
|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Medi 2025 |
10:00 - 12:30
13:30 - 16:00
|
Archebwch |