Teithiau Calan Gaeaf (gyda’r nos)
Feiddiwch chi ddod i archwilio Castell Coch ar ôl iddi nosi? Dewch gyda ni ar ein teithiau Calan Gaeaf fin nos. Cewch ddarganfod chwedlau arswyd a chyfrinachau cudd y castell - os ydych chi'n ddigon dewr!
Sylwer - bydd y teithiau hyn yn digwydd ym mhob tywydd. Ac oherwydd ein tyrau troellog Gothig, yn llawn grisiau. Bydd y tir yn anwastad mewn mannau – felly mae’n bwysig eich bod yn gwisgo esgidiau a dillad priodol.
Dewch â thortsh hefyd, oherwydd byddwn yn crwydro rhai mannau tywyll iawn o amgylch y castell.
*Oedolion yn unig, rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.
Mae Castell Coch yn cynnal gwaith cadwraeth helaeth ar hyn o bryd. Yn ystod eich ymweliad bydd sgaffaldiau yng nghwrt y castell, fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar brofiad y daith.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Gwen 31 Hyd 2025 |
18:30 - 20:00
20:30 - 22:00
|
Sul 02 Tach 2025 |
20:00 - 21:30
|
Archebwch |