Gweithdai gwneud sebon
Dysgwch am hanes sebon a chreu eich pelen ymolchi Duduraidd eich hun yn y gweithdai hwyliog a diddorol hyn.
Mae cymysgedd o sesiynau addas i deuluoedd ac oedolion yn unig dros y penwythnos, felly dewch draw i gael eich dwylo yn… lân!
Mae hwn yn ddigwyddiad â thocyn a chynghorir archebu ymlaen llaw.
Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn hwn yn unig. Mae tocynnau mynediad cyffredinol i ymweld â thiroedd llawn y castell yn ddewisol a gellir eu prynu ar-lein ymlaen llaw neu ar ôl cyrraedd.
Sesiynau ar y ddau ddiwrnod yn:
11am. (Sesiwn Teulu: £8 y pen)
1pm. (Sesiwn Teulu: £8 y pen)
2:30pm. (Sesiwn Oedolion: £12 y pen)
Dylech gyrraedd 10-15 munud cyn i'ch sesiwn ddechrau.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 21 Maw 2026 |
11:00 - 16:00
|
| Sul 22 Maw 2026 |
11:00 - 16:00
|