Mae gwreiddiau Llangar ar goll yn niwl amser.
Ond fe wyddom fod man addoli’n sefyll yma yn yr oesoedd canol. Ymhlith trysorau cudd Cymru, mae’n ysblennydd o arunig uwchben Afon Dyfrdwy. Ond beth sydd mor werthfawr amdano?
Fel Capel y Rug gerllaw, prin y mae Llangar yn awgrymu’r hyn sydd y tu mewn iddo.
Mae ei du allan plaen yn cuddio tu mewn disglair wedi’i addurno â murluniau ysblennydd o’r 14eg a’r 15fed ganrif a ddatgelwyd yn ystod gwaith adfer, yn cyfleu popeth o sgerbwd yn cario gwaywffon i’r Saith Bechod Marwol. Gallwch hefyd edmygu’r hen drawstiau, oriel y clerwyr, seddau caeedig coeth a bedyddfaen carreg.
Taith ar gael am 2 - 3pm ar:
Sad Mai 30, Sul 21 Meh, Sad 11 Gorff & Sul 30 Awst Cymraeg a Seaeneg
Teithiau ar gael am 2 - 3pm ar:
Sad 13 Meh & Sul 14 Meh a Sad 18 Gorff a Sul 19 Gorff Saesneg yn unig*
*Bydd yr hanesydd Richard Suggett yn darparu teithiau tywys o amgylch yr eglwys ar 26 a 27 Gorffennaf am 11am a 2pm. Mae hwn yn ddigwyddiad trwy bartneriaeth Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Archebwch docynnau ar-lein ymlaen llaw (ni fydd tocynnau ar gael i'w prynu wrth gyrraedd).
| Categori | Price |
|---|---|
| Oedolion |
£12
|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
£10
|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 11 Gor 2026 |
14:00 - 15:00
|
| Sad 18 Gor 2026 |
14:00 - 15:00
|
| Sul 19 Gor 2026 |
14:00 - 15:00
|
| Sul 30 Awst 2026 |
14:00 - 15:00
|
| Archebwch | |