Hen Eglwys Llangar
Rhaglen teithiau tywys yr haf newydd yn lansio gwanwyn 2025
Bydd Hen Eglwys Llangar yn rhan o'n rhaglen teithiau tywys yr haf 2025 sy'n cynnig cyfle i archwilio hanes a diwylliant cyfoethog y lleoliad treftadaeth hynod ddiddorol hwn gyda'n tywyswyr arbenigol.
Cadwch lygad am y wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyr o wanwyn 2025.
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr fel eich bod y cyntaf i gael gwybod am ein rhaglen teithiau tywys a sut i archebu tocynnau
Mae’r ysgrifen ar y mur
Mae gwreiddiau Llangar ar goll yn niwl amser. Ond fe wyddom fod man addoli’n sefyll yma yn yr oesoedd canol. Ymhlith trysorau cudd Cymru, mae’n ysblennydd o arunig uwchben Afon Dyfrdwy. Ond beth sydd mor werthfawr amdano?
Fel Capel y Rug gerllaw, prin y mae Llangar yn awgrymu’r hyn sydd y tu mewn iddo.
Mae ei du allan plaen yn cuddio tu mewn disglair wedi’i addurno â murluniau ysblennydd o’r 14eg a’r 15fed ganrif a ddatgelwyd yn ystod gwaith adfer, yn cyfleu popeth o sgerbwd yn cario gwaywffon i’r Saith Bechod Marwol. Gallwch hefyd edmygu’r hen drawstiau, oriel y clerwyr, seddau caeedig coeth a bedyddfaen carreg.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
Ar gau
|
|
---|---|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Cyfarwyddiadau
Google MapCod post LL21 9BT
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50