Skip to main content

Arolwg

Capel preifat afradlon arch-Frenhinwr a lynai at yr hen ffyrdd 

Cerddwch drwy’r ardd brydferth o berlysiau, rhosynnau a lafant tuag at Gapel y Rug, capel carreg syml gyda’i ddrws bach bwaog – a pharatowch i gael eich rhyfeddu.  

Y tu mewn mae rhyfeddodau sy’n gwbl groes i’r tu allan plaen. Wrth i’ch llygaid addasu i’r golau atmosfferaidd, fe welwch anifeiliaid cerfiedig gwych yn addurno’r waliau a’r meinciau - dreigiau cennog, seirff ac angenfilod mympwyol rhyfedd eraill.

Uwch eich pen mae’r to cerfiedig mawreddog wedi’i beintio â dyluniad blodeuog godidog ac mae pedwar angel pren wedi’u torri allan i warchod y lle. Mae pob arwyneb fel petai’n wledd o liwiau neu addurn afradlon.   

Capel y Rug yw un o eglwysi prin yr 17eg ganrif sydd wedi osgoi ‘adferwyr’ y diwygiad Fictoraidd Gothig. Hwn oedd capel preifat y Cyrnol William Salesbury, neu ‘Hen Hosanau Gleision’ fel y’i gelwid yn annwyl.

Roedd yn Frenhinwr ffyddlon a amddiffynnodd Gastell Dinbych gerllaw am chwe mis enbyd yn ystod y Rhyfel Cartref cyn ildio’n anfodlon i luoedd seneddol. Tra bu eraill yn coleddu mathau symlach o addoli, byddai yntau’n gweddïo yma mewn ysblander eglwys uwch.

Bu farw Hen Hosanau Gleision yn 80 oed, wedi byw’n ddigon hir i weld y frenhiniaeth yn cael ei hadfer ym 1660 – felly hwyrach yr atebwyd ei weddïau. 

Rhagor o wybodaeth


Amseroedd agor


Cyfleusterau

Toiledau hygyrch icon Newid cewynnau icon Lle i gadw beiciau icon Maes parcio icon Disabled person access icon Arddangosfa icon Gardd icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Byrddau picnic icon Clyw cludadwy icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Llogi Safle icon Cadair olwyn ar gael icon

Mae cadair olwyn ar gael i ymwelwyr ei defnyddio ar y safle hwn.

Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae'r maes parcio 50 metr o'r ganolfan ymwelwyr ac mae lleoedd parcio i tua 30 o geir.

Mae un lle parcio penodol i bobl anabl ar gael.

Ceir mynediad gwastad da o'r maes parcio i'r ganolfan ymwelwyr a'r capel.

Mae llawr y capel yn wastad. Mae grisiau yn arwain i'r galeri.

Mae'r maes parcio 50 metr o'r ganolfan ymwelwyr ac mae lleoedd parcio i tua 30 o geir.

Mae un lle parcio penodol i bobl anabl ar gael.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Gardd ar y safle.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.

 

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae cadair olwyn ar gael i ymwelwyr ei defnyddio ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Capel y Rug: Oddi ar yr A494 2km/1.2mllr i’r gogledd-orllewin o Gorwen. Hen Eglwys Plwyf Llangar: Dilynwch yr A5 i’r gog-orll. tuag at y B4401. 2km/1.2 milltir i’r de-orll. o Gorwen. Mae’r eglwys 300m/330 llath ar droed oddi ar y B4401.
Rheilffordd
Capel y Rug/Hen Eglwys Plwyf Llangar: Wrecsam 35km/22mllr Llinell Caer-Amwythig.
Bws
Hen Eglwys Plwyf Llangar: 2km/1.2mllr, gwasanaeth 94 Wrecsam - Dolgellau - Y Bermo. Capel y Rug: Gyferbyn, llwybr Rhif 94, Wrecsam - Y Bermo.

Cod post LL21 9BT.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
Cadw@llyw.cymru

Cyfeiriad
Capel y Rug,
Corwen LL21 9BT

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01490 412025
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.