Teithiau Capel y Rug
Safleoedd crefyddol hardd yn holl liwiau'r enfys.
Nid yw golwg allanol plaen y capel a'r eglwys yn rhoi unrhyw awgrym o'r rhyfeddodau o'u mewn. Camwch i mewn i Gapel y Rug o'r 17eg ganrif a chewch eich synnu gan y gwaith addurniadol. Os ydych yn un sy'n hoff o finimaliaeth, efallai y dylech gymryd anadl ddofn cyn camu i mewn.
Creodd ei sylfaenydd, y brenhinwr Cyrnol William Salesbury, gapel preifat a oedd yn adlewyrchu ei safbwyntiau crefyddol 'uchel eglwysig' gan ddefnyddio arddull gwahanol iawn a oedd yn groes i syniadau piwritanaidd y cyfnod.
Teithiau tywys mewn Cymraeg a Saesneg am 11am ar:
Sad 30 Mai
Sul 21 Meh
Sad 11 Gorff
Sul 30 Awst
Teithiau tywys mewn Saesneg un unig ar*:
Sad 13 & Sul 14 Meh 11am
Sad 18 & Sul 19 Gorff 11am
Sad 15 Awst 11am a 2pm
*Bydd yr hanesydd Richard Suggett yn darparu teithiau tywys o amgylch yr eglwys. Mae hwn yn ddigwyddiad trwy bartneriaeth Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Archebwch docynnau ar-lein ymlaen llaw (ni fydd tocynnau ar gael i'w prynu wrth gyrraedd).
Mae tocynnau ar gyfer y daith a'r sgwrs yn cael eu gwerthu ar wahân.
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
| Oedolion |
£12.00
|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
£10.00
|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 30 Mai 2026 |
11:00 - 12:00
|
| Sad 13 Meh 2026 |
11:00 - 12:00
|
| Sul 14 Meh 2026 |
11:00 - 12:00
|
| Sul 21 Meh 2026 |
11:00 - 12:00
|
| Sad 11 Gor 2026 |
11:00 - 12:00
|
| Sad 18 Gor 2026 |
11:00 - 12:00
|
| Sul 19 Gor 2026 |
14:00 - 15:00
|
| Sad 15 Awst 2026 |
11:00 - 12:00
14:00 - 15:00
|
| Sul 30 Awst 2026 |
11:00 - 12:00
|
| Archebwch | |