Wythnos Arswyd Calan Gaeaf
Mwynhau gwrando ar straeon rhyfedd a dysgu am hen draddodiadau Cymreig?
Yna dewch draw i’r Wythnos Arswyd Calan Gaeaf yng Ngwaith Haearn Blaenafon, a chael eich diddanu gan straeon am hen chwedlau Cymreig, llên gwerin a straeon ysbryd.
A beth am roi cynnig ar ein Llwybr Arswyd Calan Gaeaf?
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.