Teithiau Diwrnod Treftadaeth y Byd
Ymunwch â’r tywysydd, Siân Roberts, i ddarganfod y straeon y tu ôl i gerrig y strwythur ysblennydd hwn yn ei leoliad trawiadol.
Teithiwch mewn amser o’r dyddiau cyn yr adeilad i’r 21ain ganrif a darganfod pwy a beth sydd wedi gwneud y castell hwn mor enwog ac mor deilwng o fod yn un o safleoedd Treftadaeth y Byd.
Bydd y castell a’i orffennol yn dod yn fyw gyda hanesion am fuddugoliaethau a thrasiedïau mewn taith dywys awr o hyd o amgylch llawr gwaelod y gaer chwedlonol hon.
Teithiau am 11am, 1pm a 3pm.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Gwen 18 Ebr 2025 |
11:00 - 16:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£10.00
|
Teulu* |
£32.00
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£7.00
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.00
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |