Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Gadewch i Myfanwy, menyw o’r canoloesoedd, eich tywys o gwmpas un o gestyll tywysogion Cymru ar y diwrnod arbennig hwn. 

Cymeriad dychmygol yw Myfanwy, ac mae hi’n hen ffrind ac yn gefnogwr i’r ffigwr hanesyddol, Mared (Margaret), gwraig Owain Glyndŵr, a fu’n gwrthryfela’n ffyrnig yn erbyn brenin Lloegr, Harri IV, am dros ddegawd yn y 15fed Ganrif.

Gadewch i Myfanwy yn ei gwisg ganoloesol adrodd stori'r gwrthryfelwr annhebygol hwn wrth iddi eich tywys o gwmpas lleoliad un o’i ymosodiadau enwocaf, yr ochr draw i’r aber o’i bencadlys yn Harlech.

Cewch glywed am ei lwyddiannau, ac am ei dranc, tra’n crwydro adfeilion Castell Cricieth, pan fydd ein tywysydd Siân Roberts yn egluro pam fod ei hanes yn parhau i fod mor gryf yn yr oes fodern.

Teithiau tywys: 

11am (Saesneg) 

1pm (Cymraeg) 

3pm (Saesneg)

Does dim rhaid archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sul 14 Medi 2025
11:00 - 16:00
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£7.90
Teulu*
£25.30
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr**
£5.50
Pobl hŷn (Oed 65+)
£7.10

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

**Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Cricieth