Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir
Cadw yw Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru ac rydym yn gyfrifol am dros 130 o leoedd hanesyddol ledled Cymru.
Mae dros 100 o'r safleoedd treftadaeth hyn ar agor a gellir ymweld â nhw am ddim, ond rydym yn codi tâl mynediad ar gyfer safleoedd eraill, ac yn ailfuddsoddi’r arian a godir er mwyn gofalu am ein heiddo.
Yn rhan o fenter arbrofol i ehangu mynediad i dreftadaeth, mae tocyn Credyd Cynhwysol Cadw am £1 bellach ar gael i’w archebu ar gyfer tri lle hanesyddol: Gwaith Haearn Blaenafon, Castell Caernarfon a Chastell Cas-gwent. Mae tocyn Credyd Cynhwysol Cadw am £1 ar gael i bawb sy'n derbyn budd-daliadau cymwys: Credyd Cynhwysol
- Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Cymorth Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
Gellir prynu'r tocyn Credyd Cynhwysol am £1 ymlaen llaw ar wefan Cadw. Nid yw tocynnau £1 ar gael i'w prynu yng nghanolfannau ymwelwyr Cadw.
Sut i archebu ar-lein
- Darllenwch ein telerau ac amodau isod i sicrhau eich bod yn gymwys cyn archebu eich tocyn
- Dewiswch yr heneb Cadw yr hoffech ymweld â hi o'r lleoliadau hanesyddol a restrir isod
- Dewiswch Archebu tocynnau a pharhau i'n tudalen docynnau
- Dewiswch docynnau Mynediad Cyffredinol a Tocyn Credyd Cynhwysol am £1
- Dewiswch ddyddiad ac amser i ymweld
- Archebwch eich tocyn Credyd Cynhwysol am £1 a mynd i’r fasged (nid oes angen taliad ar y cam hwn).
- Byddwch yn cael cadarnhad ar e-bost gyda chod QR
- Ewch â'ch cadarnhad o docyn ar e-bost a'ch cod QR i'r lleoliad rydych wedi ei ddewis
Rhaid i chi gyflwyno prawf o'ch cymhwysedd wrth gyrraedd (gweler y rhestr isod) i ddilysu eich archeb ar-lein a bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod ychwanegol i gadarnhau'r enw ar y dogfennau ategol. Nid oes angen i’r ddogfen hon fod yn ddogfen adnabod â llun: bydd cerdyn banc, datganiad banc, bil cyfleustodau neu gerdyn adnabod ar gyfer eich swydd yn iawn.
Pan fydd ein tîm wedi dilysu eich archeb, codir tâl o £1.00 arnoch.
Os na allwch brynu tocynnau ar-lein, ffoniwch Cadw ar 02920 7860222 a gofynnwch iddynt anfon tocyn £1 gyda chod QR atoch yn y post.

Gwaith Haearn Blaenafon
Tocyn Credyd Cynhwysol am £1
Trefnwch eich ymweliad â'r Safle Treftadaeth y Byd hwn ac archebwch eich tocynnau ar-lein.

Castell Caernarfon
Tocyn Credyd Cynhwysol am £1
Trefnwch eich ymweliad â'r Safle Treftadaeth y Byd hwn ac archebwch eich tocynnau ar-lein.

Castell Cas-gwent
Tocyn Credyd Cynhwysol am £1
Trefnwch eich ymweliad â'r gaer wych hon ar ben clogwyn ac archebwch eich tocynnau ar-lein.
Gall unrhyw un sy'n gymwys brynu hyd at chwe thocyn i bob aelwyd fesul ymweliad. Dim ond un person o bob aelwyd sy’n gorfod dangos dogfennau ategol.
Rhaid i bob unigolyn sy'n prynu tocyn ddangos dogfen adnabod Credyd Cynhwysol a phrawf o’u hunaniaeth.
Nid oes angen tocynnau ar gyfer: Plant o dan 5 oed, pobl anabl a’u cymdeithion.
Mae'r tocyn £1 yn ddilys ar gyfer un person yn unig, naill ai oedolyn 18 oed neu drosodd neu blentyn 5-17 oed.
Rhaid i ymwelwyr ddod â’r pethau hyn i'r safle:
- Eu tocyn ar-lein, ynghyd â’r cod QR. Bydd tocynnau papur neu ddigidol yn cael eu derbyn.
- Prawf eu bod yn gymwys - un o'r rhestr isod:
- Credyd Cynhwysol - Datganiad Credyd Cynhwysol, naill ai ar ap ffôn symudol neu gopi papur
- Credyd Pensiwn - Llythyr cadarnhau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Credyd Treth Gwaith - Llythyr gan CThEF yn cadarnhau Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant - Llythyr gan CThEF yn cadarnhau Credyd Treth Plant
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - Llythyr cadarnhau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Cymorth Incwm - Llythyr cadarnhau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Lwfans Ceisio Gwaith - Llythyr cadarnhau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
3. Eitem ychwanegol i ddangos pwy ydych chi er mwyn cadarnhau'r enw ar y dogfennau ategol. Nid oes angen i’r ddogfen hon fod yn ddogfen adnabod â llun: bydd cerdyn banc, datganiad banc, bil cyfleustodau neu gerdyn adnabod ar gyfer eich swydd yn iawn.
Rhaid i bob person sy'n prynu tocyn ddangos prawf eu bod yn gymwys. Gall unrhyw un sy'n gymwys brynu hyd at chwe thocyn i bob aelwyd fesul ymweliad. Dim ond un person o bob aelwyd sy’n gorfod dangos dogfennau ategol ond rhaid i bob
- unigolyn sy'n prynu tocyn ddangos dogfen adnabod Credyd Cynhwysol.
- Ni ellir defnyddio'r tocynnau £1 ar y cyd ag unrhyw ostyngiadau eraill. Mae person anabl a’u cydymaith yn parhau i gael mynediad am ddim.
- Ni fydd y tocyn £1 yn newid yn ei bris yn unol â phrisiau tymhorol neu ostyngiad ar-lein. Nid oes unrhyw gyfraddau consesiwn ar gyfer tocynnau £1. Mae'r tâl o £1 yn ffi yr un fath i bawb sy'n gallu profi eu bod yn gymwys.
- Ni ellir defnyddio tocynnau £1 ar ddiwrnodau digwyddiadau lle mae’n rhaid talu am docyn.
- Mae pob tocyn £1 yn ddilys am un diwrnod yn unig.
- Nid yw tocynnau £1 yn gymwys am ad-daliad nac i gael eu hailwerthu - nid yw Cadw yn gallu gwneud unrhyw newidiadau i archebion.
- Ni chaniateir cynnig tocynnau i'w hailwerthu trwy drydydd parti. Os gwneir hyn, bydd y tocyn yn annilys.
- Os nad oes gennych dystiolaeth eich bod yn derbyn budd-daliadau, gallwch ofyn am lythyr gan y llywodraeth Get a proof of benefit letter - GOV.UK
Os ydych wedi prynu tocynnau ar gyfer mynediad cyffredinol neu ddigwyddiad, anfonir y rhain drwy e-bost.
Os ydych yn rhoi eich cyfeiriad e-bost, anfonir arolwg ôl-ymweliad atoch i ofyn am adborth am eich ymweliad.
Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu na'i storio ar blatfform ein harolwg oni bai eich bod yn dewis cwblhau'r arolwg a chymryd rhan yn ein raffl i gael cyfle i ennill gwobr.
Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo tocynnau mynediad i'r safle i ddyddiad, amser na lleoliad arall.
Os na chaiff tocynnau eu defnyddio ar y safle ar y dyddiad a'r amser penodedig byddant yn cael eu defnyddio’n awtomatig ac yn dod yn annilys.
Dylech gyrraedd gyda'ch tocynnau wedi'u hargraffu ymlaen llaw NEU ar eich dyfais symudol i gael mynediad.
Weithiau mae rhai safleoedd ar gau am resymau y tu hwnt i'n rheolaeth, neu efallai y byddant yn cynnal diwrnodau mynediad am ddim a / neu ddigwyddiadau arbennig. Rydym yn argymell i chi edrych ar wefan Cadw neu ffonio’r safle cyn eich ymweliad arfaethedig i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gynlluniau i gau.
Am unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â thocynnau, cysylltwch â: cadw@tfw.wales