Skip to main content

Mae Cadw yn cynnig ymweliadau addysg hunan-dywys am ddim i safleoedd Cadw sydd â staff ble codir tâl fel arfer, i ystod eang o ddysgwyr.

I drefnu eich ymweliad Hunan-Dywys, dilynwch y camau syml hyn:
  • gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen, deall ein termau ac amodau ac yn gallu cydymffurfio â nhw. Gweler hefyd ein canllawiau i ymweliadau grŵp/ysgolion a’n hadnoddau
  • ffoniwch y safle i weld os yw ar gael ar y dyddiad yr hoffech ymweld - Trefnwch eich ymweliad o leiaf 5 diwrnod gwaith o flaen llaw; os wnewch chi ei gadael yn hwyrach na hyn, ni allwn warantu ymweliad am ddim, er y gwnawn ein gorau i brosesu eich cais. Mae pob archeb yn ddibynnol ar argaeledd a disgresiwn y safle
  • unwaith i chi gytuno ar ddyddiad ac amser gyda’r safle, llenwch y ffurflen archebu ar-lein.

Ffurflen trefnu ymweliadau addysg hunan-dywys

Mae ymweliadau addysgol a safleoedd Cadw am ddim

fodd bynnag, rydym yn croesawu cyfraniadau, gyda’r arian yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwaith cadwraeth, gan ganiatáu i genedlaethau’r dyfodol fwynhau ein hamgylchedd hanesyddol. Mae Cadw’n gofalu am 130 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru gan gynnwys cestyll, abatai, gweithfeydd haearn, bryngaerau a siambrau claddu.

Byddai cyfraniad gwirfoddol o £25 fesul dosbarth yn cael ei groesawu’n fawr, i’n helpu i ofalu am safleoedd hanesyddol y genedl, ond wrth gwrs nid yw’n orfodol.

Cyfrannwch

Angen dysgu mwy cyn eich ymweliad? Prynwch eich tywyslyfr Cadw yma i ddarganfod yr hanes y tu ôl i’ch dewis safle.