Skip to main content

Paratowch i wisgo eich esgidiau cerdded — mae’n amser mynd allan i archwilio Cymru…

Ydych chi wedi bod eisiau adnabod Cymru yn seiliedig ar eich hoff gyfnodau hanesyddol?

Mae Map Hanes Cymru yn gadael i chi wneud hynny’n union, drwy ddosbarthu dros 50 o safleoedd hanesyddol gorau’r wlad yn 12 thema hanesyddol allweddol.

Mae Cymru’n llawn dop o hanes — ble fyddwch chi’n mynd ar eich antur Gymreig?

Ers canrifoedd mae artistiaid wedi rhannu eu gweledigaeth o Gymru drwy baentiadau, cerddi, storïau a chaneuon. Mae'r gweithiau celf hyn wedi chwarae rhan hollbwysig yn creu'r hunaniaeth Gymreig ac yn portreadu'r wlad a'i phobl i'r byd.

Mae themâu wedi dod i'r amlwg mewn llenyddiaeth ac yn y celfyddydau gweledol dros y blynyddoedd, yn amrywio o Gymru fel gwlad hardd ond arallfydol a chychwyn a chwymp diwydiant.

Byddai taith o amgylch y lleoliadau ysbrydoledig yng Nghymru sydd wedi eu hanfarwoli mewn celfyddyd yn gallu para oes, felly i gychwyn dyma ddetholiad bychan o safleoedd sydd wedi ysbrydoli artistiaid enwocaf Cymru (a Phrydain).

Cae'r Gors

Cae'r Gors

Beth? Cartref Kate Roberts y llenor o fri
Ble? Eryri

Efallai nad y bwthyn chwarelwr rhestredig Gradd II yw'r safle mwyaf crand yng Nghymru, ond mae ei statws fel aelwyd plentyndod y llenor Kate Roberts yn denu ymwelwyr o bell ac agos.

Bydd darllenwyr gweithiau Kate Roberts yn adnabod y tŷ fel rhan o'r byd a gonsuriodd mor fyw mewn nofelau megisTraed mewn cyffion a'r casgliad o storïau byrion Te yn y grug. 

Oeddech chi'n gwybod..? Yn 1965 prynodd Kate Roberts Gae'r Gors a'i gyflwyno i'r genedl ond nid tan 2005 y casglwyd digon o arian i adnewyddu'r tyddyn fel y byddai wedi bod yn ystod ei phlentyndod hi.

Cae'r Gors, 
Rhosgadfan, 
Caernarfon, 
Gwynedd 
LL54 7ET

Abaty Tyndyrn

Abaty Tyndyrn/Tintern Abbey

Beth? Abaty Sistersaidd o'r 12fed ganrif
Ble? Sir Fynwy

Pan oedd yn ifanc, teithiodd J M W Turner yn helaeth yng Nghymru rhwng 1792 a 1799, ac etifeddiaeth y teithiau hyn i fraslunio a phaentio yw cyfres o dirluniau syfrdanol, gyda llawer ohonynt yn cynnwys cestyll ac abatai.

Mae brasluniau a phaentiadau Turner o Abaty Tyndyrn o'r 1790au yn dal manylder a drama'r adeilad, a hefyd yn adlewyrchu mai adfail ydoedd a'r graddau yr oedd natur ar y pryd wedi dechrau ailfeddiannu'r safle.

Oeddech chi'n gwybod..? Sefydlwyd Abaty Tyndyrn yn 1131, a dyma'r mynachdy Sistersaidd cyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru.

Abaty Tyndyrn
Tyndyrn 
Gwent 
NP16 6SE

Oriel Gelf ac Amgueddfa Castell Cyfarthfa

Castell Cyfarthfa/Cyfarthfa Castle

Beth? Amgueddfa ac oriel gelf
Ble? Merthyr Tudful

Yng nghartref godidog y teulu Crawshay, y meistri haearn, mae'r safle unigryw hwn yn dal casgliad o arteffactau sy'n rhychwantu 2,000 o flynyddoedd o hanes lleol.

Mae'r castell yn nodedig hefyd am ei oriel, sy'n cynnwys paentiadau rhagorol o'r chwyldro diwydiannol yn ogystal â detholiad trawiadol o gelfyddyd fodern. 

Oeddech chi'n gwybod..? Mae'r amgueddfa'n cynnwys y chwiban ager gyntaf, y blwch pleidleisio cyntaf a ffrogiau gan y dylunwyr o Ferthyr, Laura Ashley a Julien McDonald.  

Parc Cyfarthfa, 
Heol Aberhonddu, 
Merthyr Tudful 
Morgannwg Ganol 
CF47 8RE

Castell Talacharn a Chartref Dylan Thomas

Castell Talacharn/Laugharne Castle

Beth? Safle o'r 13eg a godwyd gan y teulu de Brian
Ble? Sir Gaerfyrddin

Mae cysylltiad Talacharn â Dylan Thomas yn hysbys iawn ond rydych yn siŵr o deimlo'r wefr o eistedd yn y tŷ haf ar dir y castell – yn union lle aeth y bardd a'r llenor ati i gwblhau Portrait of the Artist as a Young Dog. 

Nid Dylan Thomas yw'r unig gysylltiad llenyddol â Thalacharn gan fod y llenor Seisnig Richard Hughes hefyd wedi ysgrifennu ei nofel In Hazard yn y castell. Gall ymwelwyr â'r castell weld tystiolaeth o'r cyfeillgarwch rhwng y ddau lenor, megis copi o Portrait of the Artist as a Young Dog wedi ei lofnodi gan Thomas a'i gyflwyno i Hughes. 

Oeddech chi'n gwybod..? Mae'r castell yn ymddangos mewn paentiad hynod atgofus gan JMW Turner, ac mae hwnnw nawr wedi ei atgynhyrchu ar un o'r paneli ar y safle.  Chwiliwch amdano pan fyddwch yn ymweld.

Stryd y Brenin,
Caerfyrddin
Dyfed
SA33 4FA

Gallwch ymweld hefyd â'r Boathouse lle bu Dylan yn byw am bedair blynedd olaf ei fywyd. Mae ei sied ysgrifennu gerllaw lle ysgrifennodd lawer o'i weithiau diweddarach.

Mae rhai o gestyll godidocaf Cymru yn ein hatgoffa o gyfnod cythryblus, pan arferai brenhinoedd Lloegr a thywysogion Cymru gystadlu am bŵer. Enghreifftiau perffaith o hyn ydy'r pedwar castell trawiadol ar hyd arfordir y gogledd orllewin. Gyda'i gilydd dyma Gestyll a Muriau Trefol y Brenin Edward yn Safle Treftadaeth y Byd Gwynedd.

Mae hanes Brenin Edward I yn hollti barn. Mae rhai yn ei weld fel hanes brenin canoloesol o Loegr a ddefnyddiodd gestyll enfawr i oresgyn tywysogion a phobl y dywysogaeth.

Mae pobl eraill yn gweld ei gaerau aruthrol fel prawf o wytnwch y Cymry; tystiolaeth ffisegol o'r ymdrech y bu'n rhaid i Edward I ei ymroi er mwyn rheoli'r rhanbarth yn ystod diwedd y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif.

Beth bynnag fo'ch barn, mae pob castell yn adrodd stori nerthol mewn carreg. Yn gryf ac yn gadarn, cafodd y cestyll eu hadeiladu i'r safonau uchaf ar y pryd ac i allu ymdopi ag ymosodiadau gan elfennau gelyniaethus a chanrifoedd o ryfel.

Bydd hi'n hollol glir i'r rheini sy'n ymweld â Chaernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares pam mae'r cestyll difyr hyn nawr yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Castell y Fflint

Castell y Fflint/Flint Castle

Beth? Castell canoloesol o'r 13eg ganrif
Ble? Y Fflint

Cafodd Castell y Fflint ei gychwyn yn 1278, a dyma'r un o'r cestyll cyntaf yng Nghymru i gael ei godi gan Edward I.

Gyda golygfeydd trawiadol dros aber yr afon Ddyfrdwy, mae'r castell unig hwn yn aml yn cael ei anghofio gan bobl sy'n mynd am y cestyll mwy Gorllewinol. Bu'n gampwaith amddiffynnol ar un adeg, a nodwedd fwyaf trawiadol y Castell yw un tŵr crwn sydd ar wahân i weddill y cwrt mewnol. 

Oeddech chi'n gwybod..? Mae Castell y Fflint yn enwog am ymddangos yn nrama Shakespeare Richard II. Bu Castell y Fflint yn lleoliad pwysig ar gyfer darn hanfodol o'r ddrama - sef y foment pryd y mae Richard II yn cael ei ddal gan Henry Bolingbroke, gan arwain yn y pen draw at ymddiorseddiad Richard ac esgyniad y Brenin Harri IV.

Castell y Fflint
Fflint
CH6 5PH

Castell Conwy a Muriau'r Dref

Castell Conwy/Conwy Castle

Beth? Amddiffynfa arfordirol ganoloesol a thref gaerog
Ble? Conwy

Mae'n anhygoel meddwl bod y castell cywrain hwn a muriau'r dref wedi cael eu hadeiladu mewn ychydig dros bedair blynedd. Sicrhaodd y brenin fod y prosiect yn cael ei oruchwylio gan James o San Siôr, pensaer maen ac adeiladwr cestyll profiadol.  

Amcangyfrifir iddi gostio £15,000 i adeiladu Castell Conwy a muriau'r dref. Mae hi'n hawdd gweld lle cafodd yr arian ei wario – mae'r castell ei hun yn cynnwys dau borth wedi'u hatgyfnerthu, wyth tŵr enfawr a neuadd fawr ar ffurf bwa, ac mae'r waliau eu hunain yn cynnwys 21 tŵr a phedwar giât.

Tra byddwch chi yma, cofiwch grwydro'r dref a'i muriau trefol canoloesol hynod. Dyma'r enghraifft fwyaf cyflawn o'r math hyn o waliau yng Nghymru. Gall ymwelwyr gerdded ar hyd y waliau ac edrych i lawr ar y patrymau stryd canoloesol sy'n dal i fodoli hyd heddiw.

Oeddech chi'n gwybod..? Adeiladwyd Conwy ar safle abaty Aberconwy – cafodd y mynaich eu symud i safle newydd i'r de o'r dref ym Maenan.

Castell Conwy
Stryd Rose Hill,
Conwy
LL32 8AY

Castell Biwmares

Castell Biwmares/Beaumaris Castle

Beth? Caer o'r 13eg ganrif
Ble? Ynys Môn

Mae Castell Biwmares yn cael ei alw yn 'gampwaith anorffenedig' Edward I ac mae'n sicr yn gaer drawiadol ac yn enghraifft gywrain o'r dyluniad cestyll 'waliau oddi mewn i waliau' consentrig. A dweud y gwir, mae Castell Biwmares wedi cael ei ddisgrifio fel y 'castell mwyaf perffaith ym Mhrydain o safbwynt technegol'.

Roedd pen-saer maen y brenin, James o San Siôr, wedi goruchwylio'r gwaith adeiladu'n bersonol wrth i'r cadarnle gwych hwn gael ei godi. Roedd angen 450 o seiri maen, 400 o chwarelwyr a dros 2,000 o labrwyr medrus i dyllu'r ffos ac adeiladu'r waliau cryf.

Oeddech chi'n gwybod..? Cafodd Castell Biwmares ei enwi ar ôl y gair Ffrangeg Normanaidd “Beau Mareys”, sy'n golygu castell ar y "gors hardd".

Castell Biwmares
Stryd y Castell, 
Biwmares, 
Ynys Môn 
LL58 8AP

Castell Caernarfon a Muriau'r Dref

Castell Caernarfon/Caernarfon Castle

Beth? Cawres ganoloesol a muriau trefol
Ble? Caernarfon

Dewisodd Edward I safle castell mwnt a beili Normanaidd ar gyfer Castell Caernarfon – ei gastell mwyaf – ac efallai ei gaer fwyaf trawiadol yng Nghymru.

Cafodd castell a muriau tref Caernarfon eu codi fel un endid. Cafodd ei ddylunio i fod yn ganolfan ar gyfer y tiriogaethau roedd Edward I newydd eu gorchfygu.

Gyda'r golygfeydd godidog dros Gaernarfon a'r Fenai, rhaid ymweld â Thŵr yr Eryrod eithriadol y Castell!

Oeddech chi'n gwybod..? Yng Nghastell Caernarfon cafodd Brenin Edward II ei eni.

Castell Caernarfon
Pen Deitsh,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 2AY

Castell Harlech

Castell Harlech/Harlech Castle

Beth? Cadarnle canoloesol o'r 13eg ganrif
Ble? Harlech

Gan sefyll ar glogwyn creigiog yn edrych i lawr dros Fae Ceredigion mae Castell Harlech yn enghraifft o gadarnle sydd wedi cael ei wneud yn unswydd ar gyfer ei amgylchedd.

Cafodd ei adeiladu'n gyflym ac yn gymharol rad (wrth gymharu â chaerau fel Caernarfon a Chonwy), ac mae'r strwythur yn defnyddio wyneb brawychus y clogwyn i'w fantais ei hun ac mae'n anorchfygol o bob ongl bron.

Tra byddwch chi yma, peidiwch â cholli'r grisiau i lawr at y môr – grisiau 200 troedfedd o hyd sy'n cysylltu'r castell â gwaelod y clogwyn oddi tanodd. Roedd y nodwedd ddeheuig hon yn golygu bod y rheini a arferai fyw yn y castell yn gallu goroesi drwy unrhyw warchae hir.

Oeddech chi'n gwybod..? Ym mis Mawrth 1647 Harlech oedd y cadarnle brenhinol olaf i ddisgyn i rymoedd y senedd; ac roedd ei gwymp yn dynodi diwedd y Rhyfel Cartref.  

Castell Harlech
Harlech,
Gwynedd
LL46 2YH

O wychder abatai Sistersaidd i symlrwydd capeli pentref, mae Cymru yn wlad sy'n meddu ar gannoedd o safleoedd crefyddol sy'n cynnwys enghreifftiau trawiadol o henebion anghydffurfiol, Anglicanaidd a mynachaidd, ymysg eraill.

Yn ganolbwynt i'r gymdeithas yng Nghymru ar un adeg, roedd y lleoedd uchel eu parch hyn yn rhannau hanfodol o fywyd y gymuned.  Mae sawl un yn parhau fel addoldai, ac mae pob un yn enghraifft ddiddorol o gysylltiad Cymru â chrefydd drwy'r oesau.

Bydd ymweld ag unrhyw un o'r safleoedd hyn yn dangos sut y mae credoau hynafol, ffigyrau hanesyddol ysbrydoledig a thraddodiadau wedi cyfrannu at siapio treftadaeth ddiwylliannol, iaith a ffordd o fyw Cymru dros y canrifoedd.

Mae'r daith hon yn cynnig cip ar ddyfnder tirlun crefyddol Cymru, ac yn rhoi golwg gyffredinol ar yr amrywiaeth o safleoedd crefyddol sydd yma, a man cychwyn ar gyfer mynd i'w gweld.

Capel y Rug a Hen Eglwys Plwyf Llangar

Hen Eglwys Plwyf Llangar/Llangar Old Parish Church

Beth? Eglwysi annisgwyl o addurniadol ar yr afon Dyfrdwy
Ble? Sir Ddinbych

Sefydlwyd Capel y Rug fel capel preifat gan yr Arch-Frenhinwr y Cyrnol William Salesbury yn yr 17eg ganrif. Yn groes i'w olwg allanol di-nod, mae'r capel ei hun wedi'i addurno'n gain â cherfiadau pren coeth a motiffau rhosod.

Gerllaw, mae Hen Eglwys Plwyf Llangar rai canrifoedd yn hŷn na Chapel y Ryg ond nid yw gwyngalch y muriau allanol yn rhoi unrhyw awgrym o'r rhyfeddodau esthetaidd o'i mewn. Y tu mewn, mae’r murluniau o’r 15fed ganrif wedi goroesi, diolch yn rhannol i’r ffaith fod yr eglwys wedi’i disodli gan addoldy newydd yng Nghynwyd yn y 1850au.

Mae llawer o ymwelwyr sy'n ymweld â'r safleoedd hyn hefyd yn mynd am dro ar hyd yr afon, lle ceir golygfeydd hardd a llawer llecyn i gael hoe a mwynhau'r tirweddau trawiadol.

Oeddech chi'n gwybod..? Er mai fel capel y mae'n cael ei adnabod, - ac mae'r rheini'n draddodiadol yn cael eu cysylltu ag Anghydffurfiaeth - eglwys Anglicanaidd yw'r Rug mewn gwirionedd.

Capel y Rug a Hen Eglwys Plwyf Llangar
LL21 9BT
01490 412025
0300 0256000

Abaty Ystrad Fflur

Abaty Ystrad Fflur/Strata Florida Abbey

Beth? Abaty Sistersaidd mawr
Ble? Ceredigion

Ystyr Ystrad Fflur, neu Strata Florida yn Lladin, yw 'Dyffryn y Blodau', ac mae mewn llecyn anghysbell yng Ngheredigion a fu unwaith yn gartref i fynachod Sistersaidd.

Gellir olrhain cynllun yr abaty gwreiddiol a does ond angen edmygu mawredd y porth gorllewinol cerfiedig i werthfawrogi mor drawiadol fyddai'r adeilad ar un adeg.

Mae rhai o'r teils addurniedig gwreiddiol o'r abaty yn dal yn gyfan ac mae llawer o offer, darnau arian ac eitemau personol eraill wedi cael eu darganfod yma yn y blynyddoedd diweddar ar ôl cloddio ar y safle. Mae'r rhain yn cael eu harddangos yn y ganolfan ymwelwyr.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae'n gyrchfan i rai sy'n caru barddoniaeth Gymraeg oherwydd credir mai dyma fan claddu'r bardd canoloesol enwog, Dafydd ap Gwilym, sydd yn ôl y sôn yn gorwedd yn y fynwent, dan yr Ywen.

Abaty Ystrad Fflur
SY25 6ES
01974 831261

Capel Tabernacl, Treforys

Beth? Capel anghydffurfiol eithriadol o Oes Fictoria
Ble? Abertawe

Codwyd cannoedd ar gannoedd o gapeli ar gyfer y diwygiad crefyddol yn y Gymru ddiwydiannol yn y 19eg ganrif. Yn ogystal â bod yn addoldai, daeth y capeli anghydffurfiol yn galon gymdeithasol ac addysgol i'w cymunedau. Yn Gymraeg y cynhelid llawer o'r gwasanaethau, a bu hynny'n gyfraniad mawr i'r defnydd o'r iaith ac i'w chynnal.

Mae'r Tabernacl yn cael ei gydnabod am ei bensaernïaeth Fictorianaidd gampus ac mae'n enghraifft eithriadol o gapel Cymreig sy'n dal ar agor i addolwyr. Cafodd ei adeiladu yn 1872 am £18,000, ac ar ei anterth yn 1910 roedd yno fil o aelodau. Ond nid yw'r adeilad mawr hwn yn gapel anghydffurfiol nodweddiadol, oherwydd mae hwnnw'n llawer symlach a diaddurn.

Bu sawl Gweinidog nodedig gan y Tabernacl, gan gynnwys Trebor Lloyd Evans a fu'n arwain yr addoli yma rhwng 1934 a 1964.  Roedd yn frwd o blaid y Gymraeg ac yn ymgyrchu dros ysgol Gymraeg yn yr ardal. Mae'r capel yn dal i gynnal gwasanaethau cyson.

Dros y blynyddoedd mae Côr Tabernacl Treforys wedi denu cantorion byd-enwog, ac mae organyddion adnabyddus wedi rhoi datganiadau ar yr organ â thri chwaraefwrdd, a adnewyddwyd yn ddiweddar gan Harrison & Harrison.

Oeddech chi'n gwybod..? Ym marn llawer Capel y Tabernacl yw'r capel mwyaf, gwychaf a drutaf a adeiladwyd yng Nghymru erioed.

Tabernacl Treforys
Stryd Woodfield
Treforys
Abertawe
SA6 8DA

Mynediad am ddim.
Ar agor i addoli ac ymarferion corau yn ogystal â thrwy apwyntiad. Edrychwch ar eu gwefan:
http://www.morristontabernacl.org

I gael enghraifft o gapel anghydffurfiol gwahanol a symlach mewn ardal wledig, ewch i Gapel Newydd yn Llanengan. Capel annibynwyr Cymreig, ac o bosib y capel anghydffurfiol cynharaf sydd wedi goroesi yng ngogledd Cymru.

Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Eglwys Gadeiriol Tyddewi/St Davids Cathedral

Beth? Eglwys gadeiriol o'r 12fed ganrif
Ble? Tyddewi, Sir Benfro

Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi'n parhau'n fan addoliad bywiog a phoblogaidd ac mae'n gyrchfan pererindod Gristnogol ers dros 800 mlynedd.

Er mai yn y 12fed ganrif y codwyd yr eglwys bresennol, mae'n sefyll ar safle mynachdy cynharach o'r 6ed ganrif a godwyd gan Dewi Sant, nawddsant Cymru.

Mae presenoldeb yr eglwys gadeiriol wedi rhoi statws dinas i Dyddewi, gan olygu mai'r lleoliad anghysbell hwn ym mhen draw Sir Benfro yw'r ddinas leiaf ym Mhrydain – a hynny o ran maint a phoblogaeth.

Dafliad carreg i ffwrdd o'r eglwys mae Plas Esgob Tyddewi. Adeiladwyd yr adfail hwn yn wreiddiol gan yr Esgob Henry de Gower, ac arferai fod yn gampwaith, gydag addurniadau helaeth, corbelau wedi'u cerfio fel pennau dynol, a gwaith maen tawlbyrddau trawiadol - oll yn brawf o gyfoeth a statws gwŷr crefyddol yr Oesoedd Canol.

Oeddech chi'n gwybod..? Goroesodd Eglwys Gadeiriol Tyddewi ddaeargryn difrifol yn y 13eg ganrif, ac mae'r difrod strwythurol a achoswyd yn dal i'w weld heddiw.  Yn wir, mae'r llawr yn amlwg ar oleddf, mae'r arcêd wedi camdroi mewn mannau, ac mae rhyw bedwar metr o wahaniaeth yn uchdwr ochrau dwyreiniol a gorllewinol yr adeilad!

Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Tyddewi,
Sir Benfro
SA62 6RD

Mynediad am ddim.

Ydych chi’n chwilio am safleoedd crefyddol difyr eraill? Mae gan Gymru gannoedd, gan gynnwys Capel a Ffynnon Sanctaidd Gwenffrewi — capel crand o’r 16eg ganrif sy’n amgylchynu ffynnon sanctaidd o’r 12fed ganrif.

O ryfeloedd gyda Ffrainc i'r Rhyfel Oer, mae sir Benfro wedi chwarae rhan bwysig drwy helpu i amddiffyn ein gwlad dros y canrifoedd.

Mae cryfder hanes milwrol a morol yr ardal yn amlwg drwy edrych ar faint meysydd y gad, y cestyll a gweddillion y systemau amddiffyn sydd ar draws y sir.
 
Drwy ddilyn y llwybr Amddiffyn y Deyrnas cewch weld sut roedd sir Benfro wedi helpu i ddiogelu Prydain rhag goresgyniad.

Tapestri Glaniad y Ffrancod

Beth? Tapestri 30m o hyd 
Ble? Neuadd y Dref Abergwaun, Sir Benfro

Mae'r gwaith celf nodedig hwn yn dangos beth ddigwyddodd pan oresgynnwyd tir mawr Prydain ddiwethaf, yn ôl ym mis Chwefror 1797.

Bydd edrych yn ofalus ar y dyluniad yn dangos sut roedd menywod sir Benfro wedi gorfodi'r fyddin oresgynnol i ildio. Ategir y tapestri gan arteffactau a byrddau dehongli, yn ogystal â chyflwyniad gweledol a chlywedol sy'n dangos sut iddo gael ei wneud.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae'r tapestri yn dangos yr arwres leol, Jemima Nicholas, a lwyddodd i arestio 12 o filwyr o Ffrainc ar ei phen ei hun, gyda dim ond picwarch i'w helpu.

Neuadd y Dref
Sgwâr y Farchnad
Abergwaun
SA65 9HA

Caer Chapel Bay

Beth? Heneb Restredig a chaer fagnelaeth arfordirol filwrol restredig Gradd II.
Ble? Angle, Sir Benfro

Mae Caer Chapel Bay yn un o'r cynharaf o'i math yn y byd hyd y gwyddom. Cafodd ei chwblhau yn 1891 a gallai ddal 96 o ddynion mewn barics, ond yn aml roedd yn dal garsiwn llai o lawer.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, byddai llongau yr oedd amheuaeth eu bod yn cludo nwyddau wedi'u gwahardd yn cael eu hangori a'u harchwilio yn fan hyn, ac roedd gynnau'r Gaer wedi'u hanelu tuag atynt!

Oeddech chi'n gwybod..? Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Roedd Caer Chapel Bay yn rheoli rhai o'r gynnau gwrth-awyrennau a oedd yn amddiffyn yr arfordir.

Caer ac Amgueddfa Chapel Bay
Angle, Sir Benfro
SA71 5BE

Doc Penfro

Beth? Tref arfordirol fach ar Afon Cleddau
Ble? Sir Benfro

Dros y canrifoedd mae Doc Penfro wedi chwarae rhan allweddol ar reng flaen Prydain. Mae Canolfan Treftadaeth Doc Penfro, Capel y Dociau Brenhinol a Gweithdy'r Awyren Fôr i gyd ar agor i ymwelwyr sy'n dymuno dysgu mwy am dreftadaeth forwrol un o drefi mwyaf gorllewinol Prydain.

Gerllaw mae Capel y Gwarchodlu, y Barics Amddiffynadwy, Waliau'r Dociau a'r Tyrrau Gynnau i gyd yn gliwiau i hanes y dref arbennig hon a'i chysylltiadau â Llynges Ei Mawrhydi.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae Doc Penfro wedi adeiladu a lansio dim llai na phum Cwch Hwylio Brenhinol.

Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6WS

Mynwent Llanion

Beth? Mynwent leol sy'n dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif
Ble? Doc Penfro, Sir Benfro

Mae Mynwent Llanion ar ochr ogleddol cefnffordd yr A477 wrth fynedfa'r dref. Y cyngor sir sy'n berchen ar y fynwent a chafodd ei hagor yn 1869.

Mae'n cynnwys nifer o feddi rhyfel - 24 o'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn ochr orllewinol y fynwent, a 54 o'r Ail Ryfel Byd, gan gynnwys 19 o forwyr o HMS Puckridge a gafodd ei bomio. Mae'r gweddill yn feddi awyrenwyr a oedd yn gysylltiedig â chanolfan Awyren Fôr yr RAF yn Noc Penfro.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae hefyd yn cynnwys beddi nifer a fu farw ar ôl y rhyfel, ac un o'r rheini oedd peilot o Wlad Pwyl, Z Bartosuk, a gafodd ei ladd ym mis Awst 1952 wrth iddo gael ei orfodi i lanio yn y maes awyr segur cyfagos yng Nghaeriw Cheriton.

Mynwent Llanion, 
Ffordd Llundain, 
Doc Penfro
SA72 4RS

Canolfan a Thŵr Rheoli Caeriw Cheriton

Beth? Cyn faes awyr yr RAF
Ble? Caeriw, Sir Benfro

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd sawl sgwadron yng Nghaeriw, i gyd yn gyfrifol am ddiogelu ochr orllewinol Prydain. Roedd y maes awyr hefyd wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan awyrennau a oedd yn cadw llygad ar lwybrau môr yr Iwerydd. Mae'r tŵr rheoli, sy'n cael ei alw'n swyddfa gwylio hefyd, wedi cael ei adfer gan Grŵp Tŵr Rheoli Caeriw Cheriton ac mae ar agor i'r cyhoedd.

Swyddfa wylio unigryw'r RAF o'r Ail Ryfel Byd sydd wrth galon y safle hwn, ond gall yr ymwelwyr hefyd weld lloches cyrch awyr wedi'i adnewyddu a dwy awyren Avro Anson wreiddiol fel rhan o'u hymweliad.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae gwreiddiau dyluniad y safle hwn yn dipyn o ddirgelwch - ni chafodd y tŵr rheoli ei adeiladu yn ôl dyluniad cymeradwy y Weinyddiaeth Awyr ac nid oes neb yn gwybod pam!

Tŵr Rheoli Caeriw Cheriton
Caeriw, Sir Benfro
SA70 8SX

Mae hanes arglwyddi'r Mers deheuol yn frith o straeon am uchelgais, cystadleuaeth, pŵer, goresgyniad a brwydrau. Ond pwy oedden nhw?

Ar ôl i'r Normaniaid feddiannu Lloegr, roedd y brenhinoedd Normanaidd cyntaf yn caniatáu i'w cefnogwyr ffyddlon feddiannu tiroedd ar hyd gororau Cymru — ymysg y rheini oedd arglwyddi cynnar y Mers deheuol. Roedd ganddyn nhw annibyniaeth lwyr bron dros eu tiriogaethau newydd, gan adeiladu cestyll mawr a chreu abatai cywrain, mae nifer ohonyn nhw'n dal i sefyll hyd heddiw.

Heddiw mae'r safleoedd hyn yn helpu i adrodd hanes yr arglwyddi, y dirwedd roedden nhw'n byw ynddi a'u rôl hollbwysig yn hanes Cymru.

Castell Penfro

Castell Penfro/Pembroke Castle

Beth? Castell Canoloesol
Ble? Penfro, gorllewin Cymru

Cafodd Castell Penfro ei sefydlu gan Roger de Montgomery, iarll yr Amwythig, ac roedd wrth galon tiroedd de-orllewin Cymru a oedd yn cael eu rheoli gan y Normaniaid. Saif ar foryd Afon Cleddau a ddaeth yn gartref i William Marshal, a oedd wedi esgyn i fod yn iarll Penfro o ganlyniad i'w wasanaeth ffyddlon i'r brenhinoedd Plantagenetaidd. Roedd yn gyfrifol am ddechrau ailadeiladu'r castell o'i gwr mewn carreg ar ddechrau'r 13eg ganrif.

Mae ymwelwyr heddiw yn cael crwydro'r ddrysfa o lwybrau a thyrrau, mwynhau'r golygfeydd o'r Tŵr Mawr 75 troedfedd o uchder neu fynd lawr i'r Wogan, ceudwll o dan y ward mewnol. 

Oeddech chi'n gwybod...? Cafodd Harri'r VII, brenin cyntaf brenhinlin y Tuduriaid, ei eni yng Nghastell Penfro yn 1457.

Castell Penfro
Penfro 
SA71 4LA

Mae cestyll Mers eraill yng ngorllewin Cymru yn cynnwys:

Castell Caeriw

Castell Llanhuadain 

Chastell Cas-wis

Castell Cydweli

Castell Cydweli/Kidwelly Castle

Beth? Cadarnle arfordirol a adeiladwyd yn y 12fed ganrif
Ble? Cydweli, sir Gaerfyrddin

Roedd y castell hardd hwn yn un o nifer o gadarnleoedd y Mers a adeiladwyd ar hyd arfordir de Cymru. Cafodd ei sefydlu gan yr Esgob Roger o Gaersallog, un o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn llys Harri'r I. Goroesodd y castell nifer o ymosodiadau dros y canrifoedd gan newid dwylo'n rheolaidd wrth i dywysogion Cymru barhau i frwydro yn erbyn arglwyddi'r Mers. 

Caiff hanes y cythrwfl rhwng y Cymry ac arglwyddi'r Mers ei ddehongli ar y safle. Mae hyn yn cynnwys hanes y Dywysoges Gwenllian a arweiniodd fyddin yn erbyn Maurice de Londres, arglwydd y castell, yn 1136. Bu brwydr waedlyd rhwng eu byddinoedd tua 2km i'r gogledd-orllewin o'r castell. Trechwyd y Cymry, a chafodd y dywysoges ryfelgar ei dal a thorrwyd ei phen i ffwrdd. 

Mae cofeb i'r Dywysoges Gwenllian y tu allan i'r castell. Cadwch lygad amdani yn ystod eich ymweliad.

Oeddech chi'n gwybod..? Byddai mab ifanc y Dywysoges Gwenllian yn tyfu i fod yn Arglwydd Rhys, llywodraethwr pwerus teyrnas y Deheubarth. Bu'n dal Castell Cydweli yn ystod un o'i gyfnodau fel cadarnle i'r Cymry.

Castell Cydweli
Heol y Castell, 
Cydweli SA17 5BQ

Mae cestyll eraill y Mers gerllaw yn cynnwys:
Castell Talacharn

Castell Llansteffan

Castell Abertawe

Chastell Ystumllwynarth

Castell Caerffili

Castell Caerffili/Caerphilly Castle

Beth? Amddiffynfa o'r 13eg ganrif
Ble? Caerffili

Cafodd Castell Caerffili ei adeiladu'n wreiddiol gan yr arglwydd Mers, Gilbert de Clare, ac mae'n dal i fod yn un o'r amddiffynfeydd canoloesol mwyaf yng Nghymru. Dechreuwyd ar y gwaith o'i adeiladu yn 1268 a dyma oedd un o'r cestyll cwbl gonsentrig llwyr cyntaf (dwy set o waliau, un y tu mewn i'r llall) ym Mhrydain.  

Gyda'i amddiffynfeydd aruthrol, roedd Castell Caerffili yn gampwaith o gynllunio milwrol ac yn rhagflaenydd i gestyll Edwardaidd gogledd Cymru. Mae nifer o'i nodweddion gwreiddiol wedi goroesi, gan gynnwys y Neuadd Fawr drawiadol. Un o'i nodweddion mwyaf enwog ydy'r tŵr de-ddwyreiniol, sy'n gwyro mwy na thŵr enwog Pisa!

Cafodd y castell ei adfer gan 3ydd a 4ydd Marcwis Bute, a wnaeth eu harian drwy ddiwydiannu de Cymru yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Mae modd archwilio straeon de Clare, y Butes a chymeriadau enwog eraill o orffennol y castell ar y safle.

Mae cestyll Mers eraill gerllaw yn cynnwys Castell Caerffili a Chastell Coch.

Oeddech chi'n gwybod..? Cafodd Iarll Gilbert de Clare, arglwydd Morgannwg, a greodd Castell Caerffili, ei lysenw 'Gilbert Goch' ar ôl ei wallt fflamgoch.

Castell Caerffili
Stryd y Castell, 
Caerffili CF83 1JD

Castell Cas-gwent

Beth? Castell Normanaidd a saif yn uchel uwchben glannau Afon Gwy
Ble? Cas-gwent, Sir Fynwy

Arferai'r tiroedd sy'n amgylchynu'r gaer hon fod yn berchen i'r Iarll William fitz Osbern, un o gyfeillion agosaf Wiliam y Concwerwr. Roedd ei gyfnod yng Nghastell Cas-gwent ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg yn dynodi dechrau concwest arglwyddi'r Mers dros dde Cymru.

Tyfodd pwysigrwydd y castell a'r dref wrth iddynt ddod yn ganolfan fasnachu rhwng Cymru a Lloegr. Saif y castell ar grib clogwyn uwchben Afon Gwy ac roedd yn diogelu man croesi pwysig rhwng Cymru a Lloegr.

Y Tŵr Normanaidd Mawr ydy'r adeilad hynaf yn y castell. Dros amser, ychwanegwyd at y castell a chafodd ei addasu er mwyn adlewyrchu'r newidiadau mewn ffasiwn bensaernïol a dulliau rhyfela newydd.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae drysau Castell Cas-gwent yn 800 o flynyddoedd oed a dyma'r drysau castell hynaf yn Ewrop. Hyd at 1962 roedd y drysau pren trawiadol yn y prif borth, ond maen nhw bellach yn cael eu cadw'n ddiogel a'u harddangos yn y castell.

Castell Cas-gwent
Stryd y Bont,
Cas-gwent,
Sir Fynwy NP16 5EY

Mae cestyll eraill y Mers gerllaw yn cynnwys:
Castell Cil-y-coed

Castell Grosmont

Castell Trefynwy

Castell Skenfrith

Castell Gwyn

Ymhell cyn iddi gael ei hadnabod fel Cymru, roedd ein tir yn gartref i olyniaeth o bobl hynafol. Ac o gyfnod y dynion Neanderthalaidd oddeutu 225,000 o flynyddoedd yn ôl hyd at ddiwedd yr Oes Haearn yn 75 OC, mae pob un wedi gadael ei ôl ar dirwedd Cymru.

Mae henebion o siambrau claddu Neolithig, carneddau'r Oes Efydd a bryngaerau'r Oes Haearn yn ein hatgoffa o'r gorffennol pell, ac yn cynnig cipolwg ar fywydau ein hynafiaid hynafol dirgel. 

Bryn Celli Ddu

Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu/Bryn Celli Ddu Burial Chamber

Beth? Siambr gladdu neolithig o ddiwedd y 3ydd Mileniwm CC
Ble? Ynys Môn

Heneb adnabyddus yng Nghymru, mae hanes hir a chymhleth i'r siambr gladdu agored ac atmosfferig hon.  

Mae Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn ac mae'n dyddio'n ôl i ddiwedd y 3ydd Mileniwm CC. Mae'r siambr gladdu yng nghanol tirwedd o lefydd cynhanesyddol ar Ynys Môn, gan gynnwys celfyddyd creigiau hynafol a meini hirion.

Daethpwyd o hyd i garreg a oedd wedi'i haddurno'n hardd yng nghefn y siambr yn ystod gwaith adfer ac mae hon bellach dan ofal Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Gall ymwelwyr weld replica o'r garreg yn ei lle.

Oeddech chi'n gwybod..? Bryn Celli Ddu ydy'r unig feddrod ar Ynys Môn sydd wedi cael ei alinio'n gywir i gyd-daro â'r haul yn codi ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn. Pan fydd hi'n gwawrio ar hirddydd haf (21 Mehefin), bydd siafftau o olau o'r haul sy'n codi yn dod drwy'r agoriad i oleuo'r siambr gladdu fewnol. Efallai fod yr heulwen i fod i ddod â gwres a bywyd i'r hynafiad a oedd wedi'u claddu yno?

Ynys Môn
LL61 6EQ

Mae safleoedd cynhanesyddol eraill ar Ynys Môn yn cynnwys:

Barclodiad y Gawres

Meini Hirion Penrhos Feilw

Cylchoedd Cytiau Mynydd Caergybi

Siambr gladdu Bodowyr

Grŵp Cytiau Din Lligwy a Siambr Gladdu Dryfol

Mwyngloddiau Copr y Gogarth

Beth? Mwyngloddiau copr o'r Oes Efydd a ddadorchuddiwyd yn 1987
Ble? Llandudno

Tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl, yn ystod yr Oes Efydd, byddai'r safle wedi cael ei lenwi gan sŵn cloddio ar raddfa ddiwydiannol. Copr oedd y wobr – elfen hanfodol i wneud efydd, yr aloi a roddodd ei enw i'r cyfnod cynhanesyddol hwn.

Ers canfod y safle yn y 1980au, mae archeolegwyr, peirianwyr ac ogofwyr wedi parhau i ddarganfod yr amrywiaeth eang o dwneli a choridorau sy'n gwneud y mwynglawdd hynafol hwn.

Mae teithiau'n caniatáu i ymwelwyr weld gwaith y mwynglawdd cynhanesyddol, gan gynnwys y Ceudwll Oes Efydd anhygoel, a gloddiwyd dros 3,500 o flynyddoedd yn ôl gan fwyngloddwyr gan ddefnyddio arfau wedi'u gwneud o garreg ac asgwrn yn unig.

Oeddech chi'n gwybod..? Mwyngloddiau Copr y Gogarth ydy'r mwyngloddiau cynhanesyddol mwyaf yn y byd.

Pen y Gogarth, 
Ffordd Pyllau, 
Llandudno 
LL30 2XG

Mae safleoedd cynhanesyddol eraill yng ngogledd Cymru yn cynnwys:

Siambr gladdu Dyffryn Ardudwy ger Abermo

Bryngaerau Bryniau Clwyd

Siambr Gladdu Capel Garmon

Amrywiol safleoedd ar lwybr Llyn Brenig

Siambr Gladdu Tinkinswood

Siambr Gladdu Tinkinswood/Tinkinswood Burial Chamber

Beth? Siambr gladdu Neolithig
Ble? Bro Morgannwg

Yn ystod gwaith cloddio yn 1914 daethpwyd o hyd i gyrff dros 50 o unigolion o'r cyfnod Neolithig yn Siambr Gladdu Tinkinswood ynghyd â darnau o grochenwaith a fflint wedi cael ei naddu.

Cafodd y safle ei adeiladu bron i 6,000 o flynyddoedd yn ôl ac fe saif ar ddyffryn eang ar osgo ym Mro Morgannwg – ychydig dros saith milltir o ganol Caerdydd.

Byddai'r ardal hon wedi bod yn ddymunol dros ben yn ystod y cyfnod Neolithig. Mae nant gerllaw, pridd da i dyfu cnydau a digon o gerrig sy'n addas ar gyfer gwneud arfau.

Gall ymwelwyr modern ryfeddu ar faen capan y feddrod, sy'n pwyso tua 40 tunnell, tua'r un faint â lori gymalog. Dyma un o’r enghreifftiau mwyaf ym Mhrydain.  

Oeddech chi'n gwybod..? Mae hen chwedl yn dweud y bydd unrhyw un sy'n treulio noson yn y safle hwn cyn Gŵyl Fai, Gŵyl Ifanc (23 Mehefin) neu Alban Arthan naill ai'n marw, yn mynd yn wallgof neu'n dod yn fardd.

Mae safleoedd cynhanesyddol eraill yn ne ddwyrain Cymru yn cynnwys:

Siambr Gladdu Llwyneliddon

Bryngaer Llanmelin

Bryngaer Caerau

Gwersyll Bwlwarcau Cas-gwent

Pentref Oes Haearn Castell Henllys

Beth? Bryngaer o'r Oes Haearn wedi'i Hailadeiladu
Ble? Meline, Sir Benfro

Castell Henllys ydy'r unig fryngaer Oes Haearn ym Mhrydain lle gallwch chi flasu sut beth oedd bywyd i'r Celtiaid dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae ymweliad yn cynnig cipolwg unigryw ar fywydau ein hynafiad, gallwch ddod at eich gilydd o amgylch tân tŷ crwn i wrando ar hen hanesion a malu blawd i wneud bara yn yr union fan lle safai Celtiaid ganrifoedd yn ôl.

Cafodd Castell Henllys, yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ei ailddatblygu yn 2014 gyda chaffi, arddangosfa, canolfan i ymwelwyr ac ardal chwarae i blant.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae tai crynion ac ysguboriau hiraethus Castell Henllys wedi cael eu hailadeiladu ar weddillion bryngaer go iawn a gloddiwyd.

Meline,
Sir Benfro
SA41 3UR

Mae safleoedd cynhanesyddol eraill yn ne orllewin Cymru yn cynnwys:

Pentre Ifan a siambrau claddu Carreg Coetan Arthur

Bryngaer Foel Drygarn

Chylch cerrig Gors Fawr

Mae Owain Glyndŵr yn un o ffigyrau hanesyddol enwocaf Cymru. Caiff ei gofio'n bennaf am arwain rhyfel annibyniaeth Cymru yn erbyn gormes y Saeson yn y 15fed ganrif.

Roedd yn benderfynol o wneud safiad yn erbyn gorthrwm y Saeson, a sbardunodd hynny wrthryfel cenedlaethol yn erbyn caledi cymdeithasol, economaidd a chrefyddol y cyfnod. Mae ei etifeddiaeth wedi goroesi mewn sawl lle hyd heddiw – o'r man y cyhoeddodd mai ef oedd 'Tywysog Cymru', i'r cestyll y brwydrodd mor galed i'w cipio. 

Mae taith Owain Glyndŵr a'i Wrthryfel yn cynnwys nifer o'r safleoedd hyn, a gellir ychwanegu llefydd megis llys Glyndŵr yn Sycharth ac Eglwys Sant Chad yn Hanmer lle y priododd, at y daith er mwyn treiddio ymhellach i fywyd y cymeriad eiconig hwn.

Gwnewch eich antur yn well fyth drwy ymweld â Phyllalai (Bryn Glas) – safle buddugoliaeth fwyaf cofiadwy'r brwydro. Gallwch ymweld â'r eglwys a'r bryn a fu'n ganolog i'r frwydr.

 

Castell Sycharth

Castell Sycharth
© Hawlfraint y Goron: CBHC / Crown copyright: RCAHMW

Beth? Un o brif breswylfeydd Owain Glyndŵr a chartref ei blentyndod, yn ôl pob tebyg, a ddisgrifir gan y bardd o’r 14eg ganrif, Iolo Goch.
Ble? Tua 1.5 milltir i’r de o Lansilin, ac yn eiddo preifat, roedd llys Owain Glyndŵr wedi’i leoli o fewn gwrthgloddiau castell mwnt a beili cynharach. Mae’r gwrthgloddiau yn dal i’w gweld ond does dim ôl o’r adeiladau mewnol a ddisgrifir mor huawdl gan Iolo Goch yn ei gerdd fawr o 1390.

Oeddech chi’n gwybod? Yn ogystal â thŷ cain wedi’i leoli ar y mwnt, a neuadd fawr o fewn y beili, mae cerdd Iolo Goch hefyd yn sôn am byllau pysgod, cwningar, parc ceirw, llety a melin.

Castell Sycharth,
Llansilin,
Sir Ddinbych,
SY10 9JZ


Mae’r heneb yn eiddo preifat, gyda mynediad caniataol.

 

Glyndyfrdwy

Glyndyfrdwy

Beth? Y man lle cyhoeddodd Glyndŵr mai ef oedd 'Tywysog Cymru' 
Ble? Sir Ddinbych

Cyhoeddiad Glyndŵr ei fod yn penodi ei hun yn 'Dywysog Cymru' a ddechreuodd y gwrthryfel 14 blynedd yn erbyn gormes Lloegr.

Mae'r safle'n eithaf cymhleth ac nid yw bob tro'n hawdd dod o hyd iddo ar y tir, ond y nodwedd amlycaf yw'r domen. Yr enw a roddir iddi'n lleol yw 'Tomen Owain Glyndŵr', adfeilion mwnt castell o'r 12fed ganrif ydyw, a adeiladwyd i arwain y llwybr drwy Ddyffryn Dyfrdwy.

Croesewir ymwelwyr i'r safle gan banel rhyngweithiol sy'n egluro beth yw arwyddocâd y safle. Mae'r safle rhwng priffordd yr A5 a Rheilffordd Llangollen ac, er ei fod ar dir preifat, mae mynediad i'r cyhoedd.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae'n debyg y byddai plas 'moethus' Glyndŵr wedi bod yn yr ardal ar draws y cae, ac wedi'i amddiffyn gan y ffos o'i gwmpas.

Glyndyfrdwy 
Corwen 
Sir Ddinbych 
LL21

Castell Harlech

Castell Harlech / Harlech Castle

Beth? Caer Ganoloesol Gref sydd hefyd yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO,   
Ble? Harlech, Gwynedd

Adeiladwyd castell Harlech yn 1283, ac roedd yn un o'r nifer o gestyll a godwyd i ddiogelu tir yr oedd Brenin Edward I wedi'i ennill yng Ngogledd Cymru.

Pan aeth gwŷr Glyndŵr i gipio castell Harlech yn 1404, roedd y Saeson yn beryglus o brin o arfau, gyda thair tarian, wyth basned, chwe phicell a phedwar gwn yn unig i'w defnyddio.

Cipiwyd castell Harlech felly, a sefydlodd Glyndŵr ei lys a'i deulu yn y castell yn fuan wedi hynny, gan gynnal ei ail lywodraeth yn Harlech yn 1405. Ail gipiwyd y safle gan fab y Brenin, Harri o Fynwy (Brenin Harri V wedyn), yn 1409. 

Oeddech chi'n gwybod..? Yn 1468, syrthiodd Castell Harlech i ddwylo’r Iorciaid, gan ysbrydoli'r gân draddodiadol, ‘Rhyfelgyrch Gŵyr Harlech’

Castell Harlech 
Gwynedd 
LL46 2YH

Canolfan Owain Glyndŵr

Senedd-dy/Parliament House, Machynlleth

Beth? Canolfan Ymwelwyr ac Arddangosfa o fywyd Owain Glyndŵr  
Ble? Machynlleth, Powys

Mae Canolfan Owain Glyndŵr yn cynnwys amrywiaeth o arddangosfeydd rhyngweithiol sydd wedi'u dylunio i adrodd hanes ei fywyd fel arweinydd y gwrthryfel.

Mae fideo, a gomisiynwyd yn arbennig, yn dangos y tywysog yn cael ei goroni, ac mae'r arddangosfeydd yn cynnwys Llythyr Pennal – y llythyr a anfonwyd gan Glyndŵr i geisio ennyn cefnogaeth Brenin Ffrainc. Mae murlun gan yr arlunydd o'r Alban, Murray Urquhart (1880-1972) hefyd yn portreadu buddugoliaeth dyngedfennol Glyndŵr dros rymoedd y Brenin ym Mrwydr Hyddgen yn 1402.

Oeddech chi'n gwybod..? Credir i'r Ganolfan gael ei hadeiladu ar safle llys enwog Glyndŵr yn 1404.

Heol Maengwyn, 
Machynlleth, 
Powys 
SY20 8EE

Castell Aberystwyth

Castell Aberystwyth/Aberystwyth Castle

Beth? Adfeilion Castell Edwardaidd a adeiladwyd ddiwedd y 13eg ganrif 
Ble? Aberystwyth, Ceredigion

Mae gan Gastell Aberystwyth hanes cythryblus braidd. Cipiwyd y castell gan y gwrthryfel yng Nghymru yn 1404, cyn dod dan warchae grymoedd o Loegr (dan orchymyn Tywysog Cymru, Dug Efrog ac Iarll Warwick) gwta dair blynedd yn ddiweddarach.

Bu bron i'r gaer ag ildio pan benderfynodd Glyndŵr ei hun arwain amddiffyniad y castell. Gwaetha'r modd, ofer fu ei ymdrechion, a blwyddyn yn ddiweddarach, fel ddisgynnodd. Roedd colli Aberystwyth yn golygu nad oedd Glyndŵr, "arwr y werin", yn ddim mwy nag arweinydd herwrol o hynny ymlaen.

Oeddech chi'n gwybod..? O ganlyniad i ddigwyddiadau diweddarach yn ystod y Rhyfel Cartref yn y 1600au, mae'r castell bellach yn adfail rhamantaidd, gyda'r waliau sy'n weddill a'r tŵr yn ffurfio silwét deniadol yn erbyn y môr.

Y Ro Fawr 
Aberystwyth 
Ceredigion 
SY23 2AU

Mae hanes tywysogion Deheubarth – llywodraethwyr rhan helaeth o dde-orllewin Cymru ar un adeg – yn gymysgedd ddiddorol o uchelgais, ymgiprys, codi cestyll a deffroad diwylliannol. Bu cymeriadau grymus fel y deddfwr Hywel Dda a'r Arglwydd Rhys yn sicrhau goruchafiaeth y deyrnas yn y rhanbarth am 300 mlynedd a mwy.

Mae etifeddiaeth Deheubarth yn parhau hyd heddiw; gall yr Eisteddfod Genedlaethol olrhain ei tharddiad i deyrnasiad yr Arglwydd Rhys yn 1176.

Bydd taith Tywysogion Deheubarth yn datgelu cyfraniad y tywysogion i stori Cymru drwy gyfres o safleoedd trawiadol ledled y de-orllewin, gan gynnwys y cestyll yn Aberteifi a Dinefwr a'r abatai yn Ystrad Fflur a Thalyllychau.

Castell Aberteifi

Beth? Castell o'r 12fed ganrif  
Ble? Aberteifi, Ceredigion

Bu castell yn Aberteifi ers goresgyniad y Normaniaid yn y 12fed ganrif. Mae'r castell Mwnt a Beili gwreiddiol filltir i lawr yr afon, ond cododd un o Arglwyddi'r Mers, Gilbert Fitz Richard de Clare, gastell ar y safle presennol yn 1110. A 55 mlynedd yn ddiweddarach, fe wnaeth yr Arglwydd Rhys gipio'r castell, ei ddinistrio a'i ailadeiladu mewn carreg.

Castell Aberteifi yw man geni'r Eisteddfod. Yn 1176, estynnodd yr Arglwydd Rhys wahoddiad i feirdd a cherddorion o bob cwr o'r wlad i ddod i berfformio mewn cynulliad mawreddog ar dir y castell. Mae arddangosfa ar hanes yr Eisteddfod ar agor i ymwelwyr sydd eisiau dysgu rhagor am darddiad yr ŵyl bwysig hon.

Oeddech chi'n gwybod..? Yn ôl cofnodion, castell Aberteifi yw'r un cyntaf o garreg a adeiladwyd gan un o dywysogion brodorol Cymru.

Castell Aberteifi
Aberteifi 
SA43 1JA

Canolfan Hywel Dda, Hendygwyn-ar-Daf 

Beth? Amgueddfa am fywyd Hywel Dda  
Ble? Hendygwyn-ar-Daf, Sir Gaerfyrddin

Mae Canolfan Hywel Dda yn dathlu bywyd a gwaith y brenin Cymreig o'r 10fed ganrif, sy'n enwog am ddatblygu cyfundrefn gyfreithiol a oedd o flaen ei hamser. Mae'r ganolfan yn cynnwys arddangosfa dan do, a baratowyd gan yr haneswyr Malcolm a Cyril Jones, yn ogystal â gwaith celf disgrifiadol mewn gwydr, brics, cerameg a dur.

Mae cyfres o erddi hefyd ar agor i'r cyhoedd eu gweld. Mae thema i bob un i adlewyrchu gwahanol ran o'r Gyfraith – Cymdeithas, Cenedl a Braint; Trosedd a Cham; Gwragedd; Contract; Eiddo; Y Brenin a'r Llys. Mae i bob gardd ei chymeriad arbennig ei hun, ac mae'n cynnwys placiau llechi enamel sy'n darlunio'r cyfreithiau ar waith.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae un plac arbennig yng Ngardd yr Helygen (sy'n darlunio cyfraith y Gwragedd) yn nodi'r tri rheswm pam y gallai gwraig adael ei gŵr yng nghyfnod Hywel Dda: 
1. Os oedd yn wahanglwyfus
2. Am beidio â chyflawni ei ddyletswyddau fel gŵr
3. Am gael aroglau cas ar ei wynt.

Canolfan Hywel Dda
Stryd y Santes Fair 
Hendygwyn-ar-Daf 
Sir Gaerfyrddin 
SA34 OPY

Castell Dinefwr

Castell Dinefwr/Dinefwr Castle

Beth? Castell canoloesol uwchben Dyffryn Tywi.
Ble? Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Ar grib naturiol gyda golygfeydd godidog o'r dyffryn o'i amgylch, mae Dinefwr yn gastell sy'n addas i frenin. Dengys cofnodion fod castell yma ers cyfnod yr Arglwydd Rhys (12fed ganrif o leiaf). Yn dilyn cyfnod o reolaeth y Normaniaid, aeth ati i ailgodi teyrnas Gymreig Deheubarth, a daeth Dinefwr yn 'brifddinas' arni. Datblygwyd y castell gan disgynyddion yr Arglwydd Rhys yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg.

Er i'r adeilad fod yn adfail dan iorwg am ganrifoedd, mae llawer o bethau i'w hedmygu yno o hyd - y dirwedd drawiadol yn eu plith.

Oeddech chi'n gwybod..? Diolch i'r to pigfain ar ben y tŵr, a godwyd i greu 'tŷ haf' pictiwrésg, roedd Dinefwr yn lle perffaith i fynd am bicnic yn y ddeunawfed ganrif.

Castell Dinefwr
Llandeilo,
Sir Gaerfyrddin
SA19 6PF

Abaty Talyllychau

Abaty Talyllychau/Talley Abbey

Beth? Gweddillion Abaty Premonstratensaidd o'r 12fed ganrif
Ble? Talyllychau, Sir Gaerfyrddin

Bu'r Arglwydd Rhys yn chwarae rhan bwysig fel noddwr urddau crefyddol, yn arbennig yn Nhalyllychau, sef abaty a sefydlodd ar gyfer canoniaid Premonstratensaidd rhwng 1184 a 1189. Roedd y 'Canoniaid Gwynion' (oherwydd eu habidau gwyn) yn arddel gwerthoedd sylfaenol eu crefydd.

Roedd gan y canoniaid uchelgais fawr ar gyfer Talyllychau, ond roedd yr adeilad terfynol yn llawer llai na'r hyn a obeithient. Er bod yr abaty'n adfail, mae'r hyn sy'n aros (yn arbennig y tŵr a'r seintwar) yn drawiadol o hyd.

Oeddech chi'n gwybod..? Roedd y Canoniaid Gwynion yn cael gwasanaethu mewn tai crefydd ac eglwysi plwyf – apeliai hyn at yr Arglwydd Rhys gan ei fod yn frwd dros ddiwygio crefyddol.

Abaty Talyllychau
Talyllychau,
Sir Gaerfyrddin

Rhai safleoedd eraill sy'n adrodd stori Tywysogion Deheubarth yw

Abaty Ystrad Fflur,

Castell y Dryslwyn,

Castell Cydweli

a Chastell Talacharn.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, yr enw am y gororau rhwng Cymru a Lloegr oedd y Mers. Am gannoedd o flynyddoedd roedd yr ardal yn safle gwrthdaro rhwng gwahanol garfannau, y tywysogion Cymreig i'r gorllewin, a'r brenhinoedd Sacsonaidd ac yna'r arglwyddi Normanaidd a Choron Lloegr i'r dwyrain.

A'r ymladd yn ffyrnig drosti, roedd y ffin yn symud yn gyson gan ddibynnu pwy a oedd â'r llaw uchaf ar y pryd.  Felly daeth y Mers yn dir ffiniol gwyllt, gyda channoedd o gestyll ac adeiladau caerog.

Deddfau Uno Harri'r VIII yn 1536 a 1543 a roddodd gychwyn ar y seilwaith gweinyddol presennol ac a gyfrannodd at ddod â heddwch i'r Mers.

Castell Dinbych

Castell Dinbych/Denbigh Castle

Beth? Amddiffynfa Seisnig glasurol a godwyd gan Henry de Lacy ar ran Edward I ar ben y cadarnle Cymreig gwreiddiol
Ble? Dinbych, Sir Ddinbych

Ar ôl cwymp Dafydd ap Gruffudd yn 1282, gofynnodd Edward I i'w gyfaill Henry de Lacy i godi'r castell a muriau'r dref a welir heddiw.  Er iddo gael ei gipio yn ystod gwrthryfel y Cymry yn 1294, roedd yn ôl yn nwylo Henry de Lacy y flwyddyn olynol ac ailgychwynnwyd ar y gwaith adeiladu.

Adeiladodd de Lacy ar raddfa enfawr, gyda thyrrau amlonglol godidog a phreswylfa a oedd fel palas gyda gwaith maen trawiadol mewn rhesi ac mewn sgwariau. Mewn byr o dro daeth Dinbych yn ganolfan fasnachol bwysig gyda bwrdeistref a oedd yn ymestyn y tu hwnt i furiau'r dref.  

Oeddech chi'n gwybod..? Yn bensaernïol, y porth mawr â thri thŵr sy'n creu argraff – a chafodd ei ddisgrifio'n "un o saith ryfeddod Cymru".

Castell Dinbych
Dinbych
LL16 3NB

Dyma rai o safleoedd Tywysogion ac Arglwyddi'r Mers sydd gerllaw:

Castell Ewlo

Castell Holt

Castell y Waun

Castell Dinas Brân

Castell Trefaldwyn 

Castell Trefaldwyn/Montgomery Castle

Beth? Castell canoloesol a gafodd ei gychwyn gan Harri'r III yn 1223.
Ble? Trefaldwyn, Powys

Datganiad o rym yn tra-arglwyddiaethu ar dirwedd yr ardal oedd castell yr Arglwydd Normanaidd Hubert de Burgh. Mae Castell Trefaldwyn yn urddasol ac yn drawiadol hyd yn oed heddiw, ac roedd yn gastell rheng flaen hanfodol ac yn ganolfan weinyddol bwysig.

Dyma le llofnodwyd Cytundeb Trefaldwyn yn 1267, a oedd yn cydnabod Llywelyn ap Gruffydd yn Dywysog Cymru. Yn eironig, dyma hefyd lle gorymdeithiodd milwyr dan orchymyn Roger de Mortimer yn erbyn y Cymry, gan arwain yn y pen draw at farwolaeth Llywelyn yn 1282.

Gyda'i olion trawiadol a'i olygfeydd anfarwol, mae'r castell yn ein hatgoffa'n amlwg o orffennol canoloesol Trefaldwyn, gan gynnwys ei muriau amddiffynnol, yr eglwys a'r farchnad.

Oeddech chi'n gwybod..? Cafodd y rhan fwyaf o Gastell Trefaldwyn ei ddymchwel ar orchymyn y Senedd ar ôl y Rhyfel Cartref yn y 1600au.

Castell Trefaldwyn
Trefaldwyn
SY15 6HN

Dyma rai o safleoedd Tywysogion ac Arglwyddi'r Mers sydd gerllaw: 

Castell Dolforwyn

Eglwys Ceri

Castell y Gelli

Beth? Castell 900 mlwydd oed sy'n rhan o brosiect atgyweirio mawr.  
Ble? Y Gelli, Swydd Henffordd 

Fel cestyll eraill ar y ffin, mae hanes y Gelli’n hir a chythryblus. Castell mwnt a beili oedd y castell cyntaf yn y Gelli, a godwyd yn 1100 ar safle arall. Yn ail hanner y 12fed ganrif adeiladodd un o Arglwyddi’r Mers – William de Braose – y castell cyntaf o garreg. Cipiwyd y castell a’i ddifrodi gan Llywelyn ap Gruffydd, y llyw olaf, yn 1233, ond cafodd ei ailgodi gan Harri’r III. Daeth y dref yn fwy heddychlon ar ôl ymgyrchoedd llwyddiannus Edward I yng Nghymru. 

Addaswyd y castell dros amser, ac erbyn 1660 roedd yn rhan o blas Jacobeaidd. Llosgwyd rhan ddwyreiniol y plas yn 1939 ac mae’n dal yn adfail. Bu tân yn y rhan orllewinol hefyd yn 1979 pan oedd yn eiddo i Richard Booth a chafodd ei adnewyddu’n rhannol yn fuan wedyn.

Oeddech chi’n gwybod..? Ers 2011 mae’r safle yng ngofal Ymddiriedolaeth Castell y Gelli, ac maent yn gweithio i achub y Castell. Eu gweledigaeth yw ei agor i bawb fel canolfan gelfyddydol, ddiwylliannol ac addysgol ar ôl cwblhau prosiect adnewyddu mawr. 

Castell y Gelli
Y Gelli
Swydd Henffordd
HR3 5DG

Ar agor i deithiau wedi'u trefnu bob dydd Iau am 11am. Codir tâl mynediad. 

Dyma rai o safleoedd Tywysogion ac Arglwyddi'r Mers sydd gerllaw: 

Maesyfed

Castell Bronllys

Castell Tre-tŵr

Castell Gwyn

Y Castell Gwyn/White Castle

Beth? Castell canoloesol – yr un sydd wedi parhau orau o 'Dri Chastell' Hubert de Burgh.  
Ble? Sir Fynwy

Dyma enghraifft o gastell Normanaidd cynnar yng Nghymru, wedi ei sefydlu o bosibl gan William FitzOsbern. Ond Hubert de Burgh a oedd yn gyfrifol am yr amddiffynfeydd a welir heddiw. Yn 1201, cipiodd reolaeth ar y Castell Gwyn ynghyd â Chastell Ynysgynwraidd a Chastell Grysmwnt gerllaw (sef ei 'Dri Chastell').

Tra oedd Ynysynwraidd a Grysmwnt yn addas i'r bendefigiaeth, roedd y Castell Gwyn yn fwy addas fel cadarnle milwrol gyda'i dyrrau crynion grymus yn gwylio'r diriogaeth o'i amgylch. Roedd yr adeiladau domestig hyd yn oed yn fwy addas i bennaeth garsiwn nag i Arglwydd mawr.

Oeddech chi'n gwybod..? Ar ôl marwolaeth Hubert de Burgh, aeth y Tri Chastell i ddwylo brenhinol, ac yn 1254 penderfynodd Harri'r III eu rhoi i'w fab hynaf, y darpar Frenin Edward I.

Castell Gwyn
Sir Fynwy
NP7 8UD

Dyma rai o safleoedd Tywysogion ac Arglwyddi'r Mers sydd gerllaw:

Castell Grysmwnt

Castell Ynysgynwraidd

Castell Rhaglan

Bu tywysogion Gwynedd yn teyrnasu am fwy nag 800 mlynedd — canrifoedd a welodd frwydrau mewnol gwaedlyd a gwrthdaro â choron Lloegr, ond hefyd dwf diwylliannol, newidiadau crefyddol a chymdeithasol a chodi nifer o adeiladau urddasol.

Gadawodd y frenhinlin ôl parhaol ar dirlun Cymru a bu'n gymorth i greu hunaniaeth genedlaethol falch sy'n dal ei thir.

Mae hanes cyffrous tywysogion Gwynedd yn cynnwys rhai o'r ffigyrau mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru — o Rhodri Mawr a orchfygodd y goresgynwyr Llychlynnaidd yn 856, i Llywelyn ap Gruffudd, a gydnabuwyd yn Dywysog Cymru gan Harri'r III o Loegr yn 1267 (ond a gafodd ei ladd wedyn gan luoedd Edward I yn 1282).

Heddiw, gallwch brofi etifeddiaeth teyrnasiad y tywysogion yn nhirwedd drawiadol y gogledd.

Castell Degannwy

Castell Degannwy/Deganwy Castle

Beth? Adfeilion castell y cyfeirir ato'n gyntaf mewn cofnodion o'r 8fed ganrif
Ble? Deganwy, Conwy

Mae Castell Deganwy wedi ei weddnewid ac wedi newid dwylo sawl gwaith dros y canrifoedd, ac mae cofnod o nifer o berchnogion Cymreig a Normanaidd. Cafodd y rhan fwyaf o'r hyn sydd i'w weld heddiw ei godi gan Harri'r III. Yn y diwedd cipiwyd y castell a'i ddymchwel gan Llywelyn ap Gruffudd — sef adeg arwyddocaol yn ymgyrch Llywelyn yn erbyn Harri.

Oherwydd gorffennol cythryblus y castell, nid oes fawr wedi goroesi. Ond mae yna rai olion, ac mae'r safle ei hun, ar ben bryn serth, yn cynnig golygfeydd uchel o aber yr afon Conwy a chastell mawreddog Edward I yng Nghonwy.

Beth am ddechrau eich taith o diriogaeth y tywysogion drwy edrych ar diroedd Maelgwn fel y byddai yntau wedi gwneud bron i bymtheg canrif yn ôl?

Oeddech chi'n gwybod..? Mae'r castell 110 metr uwchben lefel y môr, ac yn ymledu dros ddau blwg folcanaidd.

Castell Deganwy
Deganwy,
Conwy
LL31 9PJ

Llys Rhosyr 

Llys Rhosyr

Beth? Olion llys Cymreig canoloesol
Ble? Niwbwrch, Ynys Môn

Ynghudd tan 1992, mae gwaith cloddio ar y safle wedi datgelu'r unig lys Cymreig canoloesol y gallwch fynd iddo. 

Rhannodd y teulu brenhinol Cymreig eu tiriogaethau yn ardaloedd gweinyddol, a phob un â'i lys ei hun. Byddai'r tywysogion yn teithio i'r llysoedd hyn ar gyfer materion swyddogol, gan gynnwys casglu a goruchwylio materion cyfreithiol. 

Yma yn Llys Rhosyr, mae'r gwaith cloddio wedi datgelu llawer o arteffactau o'r 13eg ganrif yn ogystal ag olion cerrig tri adeilad, gan gynnwys neuadd ac ardal lle oedd poptai.  

Oeddech chi'n gwybod..? Mae tri chwarter y safle yn dal heb ei archwilio gan archeolegwyr, ond mae'r hyn a welir yn rhoi cip diddorol ar y gymdeithas Gymreig yn yr Oesoedd Canol. 

I fwynhau rhagor ar y safle, mae taith sain ar gael i'w lawrlwytho oddi ar http://www.snowdoniaheritage.info/cy/theme/29/princes-of-gwynedd/

Castell Dolbadarn

Castell Dolbadarn/Dolbadarn Castle

Beth? Adfeilion castell o'r 13eg ganrif
Ble? Llanberis

Cafodd Castell Dolbadarn ei godi gan Llywelyn ab Iorwerth (taid pwerus Llywelyn ap Gruffudd) fel symbol grymus o'i statws a'i gyfoeth.

Bwriad y castell oedd gwylio'r fynedfa i Fwlch Llanberis, ac yna daeth yn garchar brenhinol.

Roedd Llywelyn ap Gruffudd wedi brwydro'n ddiflino yn erbyn ei frawd i ddod yn Dywysog Gwynedd dros bawb.  Ond hyd yn oed o'u trechu, roedd y brodyr yn fygythiad mawr.

Ateb Llywelyn? Eu carcharu, gan gadw ei frawd hŷn, Owain Goch, yng ngharchar y castell am ddwy flynedd ar hugain – tŵr crwn 50 troedfedd sy'n dal i dra-arglwyddiaethu ar y safle hyd heddiw.

Oeddech chi'n gwybod..? Cred haneswyr fod Owain Goch wedi cael ei gadw yma oherwydd bod Hywel Foel ap Griffi wedi disgrifio Owain fel 'Gŵr ysydd yn nhŵr yn hir westai'.

Castell Dolbadarn
Llanberis LL55 4TA

Castell Cricieth

Castell Cricieth/Criccieth Castle

Beth? Castell o'r 13eg ganrif ar benrhyn creigiog
Ble? Cricieth, Gwynedd

Wedi ei godi rywbryd yn yr 13eg ganrif, mae Castell Cricieth ar benrhyn serth uwchben Bae Tremadog. Peidiwch â chael eich twyllo gan y golygfeydd hardd o'r môr - mae'r porth â dau dŵr yng Nghricieth yn adeilad arswydus.  

Cafodd ei godi'n wreiddiol gan Llywelyn ab Iorwerth, a phenderfynodd y tywysog Cymreig hwn gynnwys porth arbennig o Seisnig. Cipiwyd y castell gan luoedd Edward I ryw 50 mlynedd yn ddiweddarach, a gwnaethpwyd rhai newidiadau iddo. 

Oeddech chi'n gwybod...? Yn ystod y 13eg ganrif, bu Castell Cricieth yn gartref i nifer o garcharorion gwleidyddol megis Gruffudd ap Llywelyn a Maredudd ap Rhys Grug.

Mae canolfan ymwelwyr y castell yn adrodd stori Tywysogion Gwynedd.
Castell Cricieth
Stryd y Castell,
Cricieth
LL55 0DP

Bu'r Rhufeiniaid yn goresgyn, yn meddiannu ac yn gwladychu Cymru dros gyfnod o 360 mlynedd, rhwng 47 OC a 410 OC.

Mae tystiolaeth o'r cyfnod dramatig hwn i'w weld o hyd yn ein gwlad, ac mae'n rhoi cipolwg diddorol ar y newidiadau diwylliannol a thechnolegol a ddaeth y Rhufeiniaid gyda nhw i Gymru.

Beth wnaeth y Rhufeiniaid i ni? Fe wnaethon nhw hybu defnyddio darnau arian yn hytrach na nwyddau fel ffordd o dalu yn gyffredinol yn ogystal â chyflwyno cynhyrchu ar raddfa fawr, carthffosiaeth, llythrennedd a rhwydweithiau o ffyrdd. Bydd y llwybr Goresgyniad a Gwladychiad y Rhufeiniaid yng Nghymru yn eich helpu chi i ddarganfod mwy am yr effaith ddofn a gafodd yr ymsefydlwyr hyn ar ein cymdeithas.

Caer Rufeinig Segontiwm

Caer Rufeinig Segontium/Segontium Roman Fort

Beth? Adfeilion caer Rufeinig a adeiladwyd i amddiffyn yr Ymerodraeth rhag llwythau gwrthryfelgar. 
Ble? Caernarfon, Gwynedd

Mae Caer Rufeinig Segontiwm yn nghanol Gwynedd, ac yn llai na milltir oddi wrth safle godidog Castell Caernarfon.

Sefydlwyd Segontiwm yn y flwyddyn 77 OC a dyma oedd canolfan rheoli'r Rhufeiniaid yng ngogledd Cymru, gyda byddin o 1,000 o filwyr yma pan oedd ar ei anterth. Gall ymwelwyr ryfeddu at adfeilion y gaer gan ddychmygu sut byddai bywydau'r rheiny a oedd yn trigo yma.

Ymhell ar ôl i’r llengoedd adael am y tro olaf, daeth Segontiwm yn rhan o chwedloniaeth Cymru fel Caer Aber Seint a chaiff ei henwi ym mreuddwyd Macsen Wledig a chwedlau cynnar y Mabinogi.

Ydych chi am weld mwy? Mae arddangosfa yng Nghastell Caernarfon sy'n cynnwys hanes Macsen Wlesig, ac yn cyfeirio at gyfnodau cynnar y dref mewn ffilm ddeongliadol newydd. 

Oeddech chi'n gwybod..? Mae Cadw wedi defnyddio technoleg CGI i adlunio sut byddai Segontiwm wedi edrych ar ei anterth. Gallwch wylio'r fideo yma.

Caer Rufeinig Segontiwm
Ffordd Llanbeblig
Caernarfon
Gwynedd 
LL55 2LN

Mynediad am ddim

Mae safleoedd Rhufeinig eraill yn yr ardal, gan gynnwys anheddiad:
Brythonig-Rufeinig Din Lligwy

Caer Rufeinig Tomen y Mur

Chaeran Rufeinig Caergybi

Mwynfeydd Aur Dolaucothi

Beth? Adfeilion gweithfeydd aur a agorwyd dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl. 
Ble? Dyffryn Cothi, Sir Gaerfyrddin

Daeth y Rhufeiniaid i Brydain i chwilio am gyfoeth mewn mwynau ac amaeth, ond yn well na hynny daethant o hyd i aur yn Nolaucothi a dechrau diwydiant a barodd ar y safle hwn tan 1938.

Mae'r gweithfeydd aur yng Nghymru yn unigryw ac mae modd gweld olion y gwaith mwyngloddio, y systemau dŵr a'r draphont ddŵr, sy'n wirioneddol drawiadol. Gallwch weld lle fyddai'r Rhufeiniaid wedi bod yn hacio waliau'r twneli fesul tipyn, fel rhan o waith wedi'i drefnu a'i gynllunio'n fanwl. 

Mae modd mynd ar daith i lawr i'r safle, yn ogystal ag ymweld â safleoedd Rhufeinig eraill cyfagos - Gwersyll Gorymdeithio Rhufeinig y Pigwyn, Caer Rufeinig Aberhonddu ac Amffitheatr Caerfyrddin.

Oeddech chi'n gwybod..? Gallwch fwynhau golygfeydd anhygoel o lechweddau coediog Dyffryn Cothi o Ddolaucothi.

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion

Amffitheatr Caerllion/Caerleon Amphitheatre

Beth? Caer Rufeinig, amffitheatr a baddonau sydd mewn cyflwr arbennig o dda.
Ble? Caerllion, Casnewydd

Mae Caerllion yn ganolog i stori Rufeinig y genedl. Roedd y gaer enfawr yn gartref i Ail Leng Augusta, a cheir yno amffitheatr Rufeinig wreiddiol. Credir bod lle i o leiaf 6,000 o bobl eistedd yn yr amffitheatr, a byddai eistedd yn y seddi blaen yma wedi bod yn brofiad eithaf gwaedlyd – dychmygwch wylio dyn ac anifail yn cwffio am eu bywydau!

Mae modd i ymwelwyr ddychmygu bywyd fel milwr Rhufeinig yn y blociau barics neu, gyda chymorth digidol dewinol, weld ymdrochwyr yn mwynhau baddonau'r gaer yn y man lle bu unwaith safle hamdden o'r radd flaenaf.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig hefyd yng Nghaerllion. Mae'n adrodd hanes cadarnle eang yr Ymerodraeth Rufeinig, ac yn arddangos arteffactau y daethpwyd o hyd iddynt wrth gloddio yng Nghaerllion.

Oeddech chi'n gwybod..? Bu'r Rhufeiniaid yn preswylio yno o'r flwyddyn 75 CC ymlaen a, fesul dipyn, ail adeiladwyd y safle pren gwreiddiol mewn carreg – mae'r rhan helaeth o'r hyn a welwch heddiw'n dyddio o'r ail ganrif OC.

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion
Caerllion
NP18 1AE

Tref Rufeinig Caer-went

Tref Rufeinig Caer-went/Caerwent Roman Town

Beth? Adfeilion tref Rufeinig gyfan.
Ble? Caer-went, Sir Fynwy

Llwyddodd y Silwriaid, llwyth lleol Caer-went, i wrthsefyll y Rhufeiniaid am dros 30 mlynedd, cyn ildio iddynt yn 75 CC. Ar ôl amser, rhoddodd y Rhufeiniaid statws 'civitas' iddyn nhw – sef hunanlywodraeth leol. Sefydlwyd y dref, Venta Silurum neu “Farchnad y Silwriaid”, fel rhan o'r trefniant.

Mae'r strwythurau o'r bedwaredd ganrif yn cynnwys tai wedi'u cloddio, basilica fforwm a theml Frythonig-Rufeinig, a hyn oll wedi'i amgylchynu gan waliau enfawr y dref sy'n dal i sefyll hyd at 17 troedfedd (5.2m) o uchder mewn mannau.

Ewch i ymweld ag ardal ysguboriau Porth y Gorllewin i weld paneli dehongli difyr.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae adfeilion Tref Rufeinig Caer-went yn 'em yn nghoron' archeoleg Rhufeinig yng Nghymru, a dywedir ei bod yn cystadlu ag ansawdd Wal Hadrian.

Tref Rufeinig Caer-went
Caer-went
NP26 5AU

Mae gan Gymru lawer i’w gynnig o ran ei threftadaeth ddiwydiannol, gyda llawer o drysorau gwerth eu gweld — gan gynnwys safle o bwysigrwydd diwydiannol mor nodedig fel ei fod wedi derbyn statws Treftadaeth Byd.

Mae tirwedd Treftadaeth Byd Blaenafon, yng nghalon cymoedd de Cymru, yn cynnig atyniadau niferus, gan gynnwys y cyfle i brofi bywyd fel glöwr yn Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit, ac fel gweithiwr yng Ngwaith Haearn Blaenafon, safle a gafodd effaith arwyddocaol ar y byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw. Ymhellach i’r gorllewin mae cartref Amgueddfa Wlân Cymru, wedi’i lleoli yn yr hen felinau hanesyddol, Melinau Cambrian, ac yng nghalon mynyddoedd Eryri yng ngogledd Cymru mae Amgueddfa Lechi Cymru.

Mae gan y pedwar cwr yng Nghymru stori ddiwydiannol i’w hadrodd...

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru/National Slate Museum

Beth? Amgueddfa mewn gweithdai chwarel gwreiddiol
Ble? Llanberis, Eryri

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn adrodd hanes cymunedau llechi Cymru pan oedd y diwydiant llechi yn y wlad hon yn ‘toi’r byd’.

Yn ogystal â chyfleoedd i weld y ffowndri, y gefeiliau, y siediau a’r olwyn ddŵr weithredol fwyaf yn y DU, mae crefftwyr medrus yn cynnal arddangosfeydd byw hefyd o’r grefft o hollti a llyfnu’r llechi gyda llaw. 

Oeddech chi'n gwybod..? Mae Amgueddfa Lechi Cymru wedi’i gefeillio ag Amgueddfa Slate Valley yn Granville, Efrog Newydd, UDA, gan gadarnhau’r cyswllt rhwng cymunedau Cymreig ar ddwy ochr Môr Iwerydd.

Llanberis, 
Gwynedd
LL55 4TY

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru/National Wool Museum

Beth? Amgueddfa yng nghyn felinau hanesyddol Cambrian.
Ble? Sir Gaerfyrddin

Yng nghalon cefn gwlad gorllewin Cymru, mae Amgueddfa Wlân Cymru yn adrodd hanes y diwydiant gwlân ffyniannus a arferai fod yn Nyffryn Teifi. 

Mae’r perl hwn o amgueddfa’n rhan o felin wreiddiol, ble mae peiriannau diwydiannol ac arddangosfeydd gwehyddu byw i’w gweld, gan ddod â’r broses ‘o’r cnu i’r defnydd’ yn fyw. 

Arferai’r diwydiant mawr yma gynhyrchu dillad, siolau a blancedi ar gyfer gweithwyr Cymru a gweddill y byd.

Oeddech chi'n gwybod..? Roedd y diwydiant gwlân yn dominyddu ardal Dyffryn Teifi ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif.

Dre-fach
Felindre
Llandysul
Sir Gaerfyrddin
SA44 5UP

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru/Big Pit National Mining Museum

Beth? Amgueddfa treftadaeth ddiwydiannol
Ble? Blaenafon

Wrth galon tirwedd Treftadaeth Byd UNESCO Blaenafon, mae Big Pit, a arferai fod yn lofa brysur. Mae’r amgueddfa lwyddiannus hon yn cynnig profiad unigryw yng Nghymru a dyma un o ddim ond dau safle yn y DU ble gall ymwelwyr fynd o dan y ddaear i bwll glo gwreiddiol. 

Bydd cyn-lowyr yn arwain yr ymwelwyr wrth iddynt deithio i ddyfnderoedd y lofa a chael blas ar sut roedd bywyd i’r rhai a oedd yn gwneud eu bywoliaeth o gloddio am lo. 

Ceir rhagor o gyfleusterau i addysgu a diddanu pob oedran ar y wyneb, gan gynnwys taith rithiol aml-gyfryngol yn yr Orielau Mwyngloddio ac arddangosfeydd ym Maddonau Pen y pwll ac adeiladau hanesyddol y lofa.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae'r mwyngloddiau mae modd mynd iddyn nhw ar hyn o bryd yn Big Bit dros 90 metr o dan wyneb y ddaear.

Blaenafon, 
Torfaen 
NP4 9XP

Gwaith Haearn Blaenafon

Gwaith Haearn Blaenavon/Blaenavon Ironworks

Beth? Hen safle diwydiannol o'r 18fed ganrif
Ble? Blaenafon

Gwta awr yn y car o Gaerdydd, yng Nghymoedd enwog de Cymru, mae Gwaith Haearn Blaenafon. Roedd y gweithfeydd haearn yn garreg filltir yn hanes y Chwyldro Diwydiannol ac ar y pryd roeddent yn arloesol iawn ym maes technoleg newydd.

Ffrwynwyd pŵer stem a datblygwyd ffordd o wneud dur gan ddefnyddio mwyn haearn, a arweiniodd at gynnydd ym mhob cwr o’r byd yn y diwydiant dur, nes bod Cymru’n fwy pwerus yn ddiwydiannol nag erioed o’r blaen. Bydd ymwelwyr â’r safle’n cael cyfle i weld bythynnod Stack Square wedi’u hadnewyddu a chael blas ar sut roedd y gweithwyr yn byw drwy’r oesoedd, a siop tryciau’r cwmni sydd wedi’i hail-greu. Mae technoleg sain newydd, arloesol yn helpu i ddod â stori’r Gwaith Haearn yn fyw mewn ffordd gwbl newydd.

Mae tirwedd Blaenafon wedi ennill statws Treftadaeth Byd o ganlyniad i’w ffurf a’i swyddogaeth chwyldroadol. O fwyngloddiau i reilffyrdd, gallwch olrhain y llwybrau i mewn ac allan o’r safle o hyd, o ddeunyddiau crai i gynnyrch gorffenedig.

Oeddech chi'n gwybod..? Wedi'u hadeiladu'n wreiddiol yn 1790, roedd pobl yn byw ym mythynnod Engine Row Gwaith Haearn Blaenafon tan y 1960au.

Gwaith Haearn Blaenafon
Torfaen
NP4 9RN

Traphont Ddŵr Pontcysyllte

Traphont Ddŵr Pontcysyllte/Pontcysyllte Aqueduct

Beth? Traphont ddŵr o'r 19 ganrif
Ble? Ger Llangollen

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn cario Camlas Llangollen dros ddyffryn Afon Dyfrdwy ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Fe'i hadeiladwyd gan Thomas Telford ac fe'i cwblhawyd ym 1805. Nid yw'n ormodiaeth dweud bod y technegau a'r syniadau a ddatblygwyd ym Mhontcysyllte wedi helpu i lunio'r byd drwy eu heffaith ar beirianneg. Treuliwyd dros 10 mlynedd yn ei hadeiladu, ar gost o £38,499 - sy'n cyfateb i £38 miliwn heddiw - ac roedd Traphont Ddŵr Pontcysyllte o ddifrif yn un o ryfeddodau peirianyddol yr oes ddiwydiannol.

Dynododd UNESCO y campwaith peirianneg sifil hwn yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2009 - ynghyd ag 11 milltir o gamlas yn cynnwys Traphont Ddŵr y Waun a Rhaeadr y Bedol yn Llantysilio, ger Llangollen.

Oeddech chi'n gwybod..? Pan orffennodd Thomas Telford Draphont Ddŵr Pontcysyllte ym 1805, hon oedd y groesfan cychod camlas dalaf yn y byd.

Station Rd,
Basn Trefor,
Wrecsam
LL20 7TG

Ydy Map Hanes Cymru wedi'ch ysbrydoli i archwilio Cymru?

Pa un a ydych yn gyrru ar draws y wlad neu yn cychwyn allan i safle wrth eich ymyl, mae pob taith ar y ffordd angen rhestr chwarae i greu'r awyrgylch ar gyfer cael antur. Rydym wedi cydweithio â Trac Cymru i greu'r 'trac sain perffaith ar gyfer teithio ar ffyrdd Cymru' – rhestr chwarae o ganeuon ar YouTube gan artistiaid o Gymru.

Mae cân yn cynrychioli pob thema hanesyddol ar Fap Hanes Cymru, a gellir chwarae'r trac sain gartref neu ar y lôn.

Ewch i YouTube Cadw i fynd yn syth i'r trac sain.