Castell Dolbadarn

Castell Cymreig ac unig warcheidwad Bwlch Llanberis yn Eryri
Mewn llecyn unig, uchel uwchben dyfroedd Llyn Padarn, roedd Castell Dolbadarn, a godwyd gan frodorion, yn arfer bod yn gyswllt hanfodol yn amddiffynfeydd teyrnas hynafol Gwynedd. Fe’i hadeiladwyd, yn fwy na thebyg, gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) tua diwedd y 12fed ganrif neu ddechrau’r 13eg ganrif, a byddai’n cadw llygad ar y llwybr strategol mewndirol o Gaernarfon i Ddyffryn Conwy uchaf.
Erbyn hyn, y tŵr crwn cadarn yw prif nodwedd y safle, sy’n wahanol iawn ei olwg i’r llechi heb forter a ddefnyddiwyd i godi llenfuriau’r castell. Yn sefyll 50 troedfedd/15.2m o uchder, mae’n ddigon tebygol bod dyluniad y tŵr wedi’i ysbrydoli gan ddyluniad caerau tebyg a adeiladwyd gan wrthwynebwyr Llywelyn yng ngororau Mers y de.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am–4pm |
---|---|
Ar agor drwy'r flwyddyn yng ngolau dydd |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Maes parcio Talu ac Arddangos
Mae maes parcio cyhoeddus â thâl yr awdurdod lleol ar gael ar draws y ffordd i'r castell.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Mae'r safle tua 10–25 munud ar droed o’r man lle rydych chi'n parcio'ch car, a hynny ar hyd traciau fferm, a all fod yn fwdlyd, yn anwastad ac yn llithrig yn ystod tywydd gwael.
Mae'r llwybr i fyny i'r heneb yn mynd yn fwy serth wrth i chi gyrraedd y castell. Bydd gofyn i chi ddilyn llwybr naturiol at risiau'r castell.
Mae hen gerrig ar waelod y grisiau sy'n arwain at fynedfa'r castell. Gall fod yn anodd eu croesi pan fydd hi’n wlyb. Mae canllaw wedi'i ddarparu ar risiau’r brif fynedfa – defnyddiwch hwn a chadwch draw o ymylon allanol y grisiau.
Mae’r golau y tu mewn i'r heneb yn dibynnu ar lefelau golau naturiol a gall fod yn fwy pŵl yn ystod tywydd gwael. Bydd set o risiau adfeiliedig yn eich arwain i ben yr heneb, ac mae grisiau cyn cyrraedd y grisiau yma hefyd.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag cwympo mewn mannau penodol.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Peidiwch â dringo dros na drwy unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod. Mae hyn yn cynnwys y castelliadau. Gall y castell fod yn agored i dywydd gwael, gan gynnwys gwyntoedd cryfion, a dylech ystyried hyn wrth gynllunio'ch taith.
Fel gyda phob heneb, mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Cyfarwyddiadau
Google MapAm fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn