Safleoedd Cadw sy’n gyfeillgar i gŵn ar draws Cymru
Does dim angen i chi adael un o aelodau pwysicaf y teulu adref pan fyddwch chi’n mentro ar eich antur nesaf. Mae gennym ni gestyll, abatai a thai anhygoel y gallwch ymweld â nhw gyda digonedd o le i bawb fwynhau ychydig o ymlacio wedi teithio.
Beth am gymryd cipolwg ar ein safleoedd sy’n gyfeillgar i gŵn o’r rhestr isod? Os byddwch angen mwy o wybodaeth am y cyfleusterau yn ein safleoedd yna cysylltwch â’n ceidwaid yn uniongyrchol i dderbyn gwybodaeth benodol ar gyfer safle hwnnw.
Cofiwch:
Er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb o’n hymwelwyr yn cael diwrnod i’w gofio cofiwch gadw eich ci ar dennyn pob amser a glanhau ar eu hol gan ymweld â’r lloriau isaf yn unig.
Mae manylion cyswllt a gwybodaeth bellach am ymweld â safle sy’n gyfeillgar i gŵn i’w weld ar ein tudalennau sy’n rhestru’r henebion. Ewch i’r Adran Ymweliadau i weld y manylion llawn.
Llety gwyliau Cadw sy’n gyfeillgar i gŵn
Llety Gwyliau CadwFaint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn