Castell Casllwchwr
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Na chroeswch
Hawdd yw gweld pam adeiladwyd Llwchwr yma. Adfeilion castell sydd yma a oedd yn meddu ar fan rhydio distyll ar un adeg ar draws Moryd Llwchwr. Nid y Normaniaid yn unig a werthfawrogai ei werth strategol. Fil o flynyddoedd yn gynharach, adeiladodd y Rhufeiniaid gaer Leucarum ar y safle hwn. Cafodd castell gwrthgloddiau o’r 12fed ganrif, a losgwyd gan y Cymry ym 1151, ei ddisodli yn y ganrif nesaf â chaer garreg, ac un o’i thyrrau wedi goroesi hyd heddiw ynghyd â sylfeini murlenni.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.