Tocynnau Crwydro 3 a 7 Diwrnod Cadw
Wrth gynllunio'r gwyliau perffaith, mae rhywfaint o hyblygrwydd bob amser yn beth da. Pwy a ŵyr beth fydd ar droed neu pa fath o dywydd fydd hi? Rydyn ni yng Nghymru wedi'r cwbwl.
Un peth y gallwch ddibynnu arno yw tocynnau crwydro 3 neu 7 diwrnod Cadw. Mae'r tocynnau'n cynnig gwerth gwych am arian ac yn rhoi rhwydd hynt i chi ymweld â'r cyfoeth o atyniadau hanesyddol sydd gan Gymru i'w cynnig.
Mae’r tocynnau’n eich galluogi chi i grwydro dwsinau o atyniadau hanesyddol Cadw (mae’r manylion llawn isod), a’ch helpu chi i gael y gorau o’ch ymweliad â Chymru.
Gellir defnyddio'r tocyn 3 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod a'r tocyn 7 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 14 diwrnod. Po fwyaf y defnyddir y tocyn, y mwyaf fydd yr arbedion.
Gallwch brynu Tocynnau Crwydro mewn llawer o’n hatyniadau hanesyddol (manylion llawn isod) ac maen nhw ar werth fel tocynnau i un oedolyn, dau oedolyn neu deulu.
Prisiau Manwerthu 2024
UN OEDOLYN DAU OEDOLYN TEULU*
TOCYN 3 DIWRNOD £24.20 £36.30 £58.05
TOCYN 7 DIWRNOD £36.30 £54.45 £67.70
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn/wyr neu wyres o dan 18 oed.
Atyniadau hanesyddol sy’n derbyn ac yn gwerthu Tocynnau Crwydro.
Tocynnau Crwydro’r Fasnach Deithio
Os ydych chi'n bartner masnach ac wedi cofrestru gyda Chynllun Gweithredwr Teithiau Cadw, gallwch gael tocynnau crwydro ar gyfradd ostyngol i’ch cwsmeriaid. Cysylltwch â cadwcommercial@gov.wales er mwyn cael cod i brynu’r tocynnau ar gyfraddau masnach ar-lein.
Nid oes modd cael ad-daliad am Docyn Crwydro ac nid oes dyddiad dod i ben arnynt. Bydd angen i ymwelwyr ddangos cod QR y Tocyn Crwydro wrth ymweld â safleoedd Cadw.
- Abaty Tyndyrn
- Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion
- Castell Biwmares
- Castell Caerffili
- Castell Caernarfon
- Castell Cas-gwent
- Castell Coch
- Castell Conwy
- Castell Cricieth
- Castell Cydweli
- Castell Dinbych
- Castell Harlech
- Castell Rhaglan
- Castell Rhuddlan
- Castell Talacharn
- Gwaith Haearn Blaenafon
- Llys a Chastell Tretwr
- Llys yr Esgob Tyddewi
- Plas Mawr
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 03000 252239 neu e-bostiwch cadwcommercial@llyw.cymru.
Sylwch nad yw’n bosib prynu tocynnau Crwydro ar-lein ar hyn o bryd.