Skip to main content

Arolwg

Y safle mwyaf ysblennydd o holl gaerau arfordirol cadarn Edward I   

Castell Harlech sy’n coroni clegyr creigiog serth fry uwchben y twyni tywod – yn aros yn ofer i’r llanw droi ac i’r môr pell lepian wrth ei droed unwaith eto. 

Nid oes angen rhagor o ddrama a dweud y gwir ond, rhag ofn, mae copaon garw Eryri yn codi y tu ôl iddo. Yn erbyn cystadleuaeth frwd gan Gonwy, Caernarfon a Biwmares, mae’n siŵr mai hwn yw’r safle mwyaf ysblennydd i unrhyw un o gestyll Edward I yng Ngogledd Cymru. Dynodwyd y pedwar i gyd yn Safle Treftadaeth y Byd.  

Cwblhawyd Harlech o’r ddaear i’r bylchfuriau mewn saith mlynedd yn unig o dan arweiniad y pensaer dawnus James o San Siôr. Mae ei ddyluniad ‘waliau o fewn waliau’ clasurol yn gwneud y mwyaf o amddiffynfeydd naturiol brawychus. 

Hyd yn oed pan gafodd ei ynysu’n llwyr gan wrthryfel Madog ap Llewelyn, ni ildiodd y castell – diolch i’r ‘Ffordd o’r Môr’. Roedd y llwybr hwn o 108 o risiau a ddringai’r graig serth yn golygu bod modd bwydo a dyfrio amddiffynwyr dan warchae o long.  

Haws yw trechu Harlech erbyn hyn. Cewch gerdded ar hyd pompren ‘arnofiol’ anhygoel i mewn i’r castell gwych hwn yn ôl bwriad James y pensaer - am y tro cyntaf mewn 600 mlynedd.

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

Rhagor o wybodaeth


Amseroedd agor

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–6pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 10am–4pm

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

 


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£8.70
Teulu*
£28.20
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.10
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.10

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd
 


Cyfleusterau

Access guide icon Lle i gadw beiciau icon Pay and Display car park icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Tywyslyfr icon Llety gwyliau icon Siop roddion icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Newid cewynnau icon Lluniaeth icon Llogi Safle icon Gorsaf Ail-lenwi â Dŵr icon Wi-Fi icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Harlech — Canllaw Mynediad

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae maes parcio sy’n codi tâl ar gael.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Mae llety gwyliau Cadw ar gael i’w logi yn agos i’r safle hwn.

Castell Harlech — Fflatiau Gwyliau Harlech.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Darganfyddwch ein gweithgareddau addysgol am ddim.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.

Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.

O frecwastau harti i brydau ysgafnach a the prynhawn, mae Caffi Castell wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cyflenwyr lleol gorau.

Caffis a bwytai Cadw

 

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.

Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
A496 o’r Bermo, A487/A496 o Borthmadog.
Rheilffordd
200m/220llath, llwybr Amwythig- Machynlleth/Pwllheli.
Bws
150m/170llath, llwybr Rhif 38 + 39 (Rhif 2 Dydd Sul), y Bermo-Harlech/Porthmadog.
https://www.visitharlech.wales/harlech-hoppa
Beic
RBC Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr.

Cod post LL46 2YH

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
HarlechCastle@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Harlech
Harlech LL46 2YH

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01766 781339.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.