Adrodd Mythau a Chwedlau
Mae oes y chwedlau’n dychwelyd!
Yr haf hwn bydd muriau Castell Harlech yn atseinio i gamau a lleisiau’r oes a fu. Am bedwar o Sadyrnau, gan gychwyn ar 26 Gorffennaf, cewch gyfle i archwilio adfeilion godidog Harlech a darganfod rhai o gymeriadau mwyaf diddorol a dirgel Cymru a’r ynys hynafol hon, pob un ohonynt yn codi’n syth o niwl ein llên gwerin a’n chwedloniaeth hynaf. Dewch i glywed straeon yn syth o gegau cewri dychrynllyd, duwiau coll, marchogion sy’n cysgu, dreigiau, beirdd y deyrnas ac, os ydych yn lwcus, efallai y byddwch hyd yn oed yn dod ar draws tylwyth teg swil a direidus Cymru.
Profiad unigryw a throchol na ddylid ei golli.
Yn addas ar gyfer plant ac oedolion.
Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 26 Gorff 2025 |
10:30 - 16:00
|
Sad 02 Awst 2025 |
10:30 - 16:00
|
Sad 09 Awst 2025 |
10:30 - 16:00
|
Sad 16 Awst 2025 |
10:30 - 16:00
|