Caffis a bwytai Cadw
On this page
Coffi Castell a Caffi’r Porth y Brenin, Castell Caernarfon
Mae Richy Rhodes a Deborah Sagar yn adnabyddus am eu caffi poblogaidd, Bonta Deli, a agorodd yng nghanol Caernarfon yn 2018. Ers agor yng Nghastell Caernarfon ym mis Chwefror 2022, mae eu ciosg Coffi Castell, wedi cael yr un croeso gan ymwelwyr.
Gan ddefnyddio cynhwysion safonol gwirioneddol leol, gall ymwelwyr â Coffi Castell fwynhau cinio Cymreig go iawn. O gaws Snowdonia Cheese yn eu brechdanau i’r dewis o flasau hufen iâ o Fôn, maen nhw’n cynnig rhywbeth i bawb.
Yn newydd ar gyfer 2023 – mae’r tîm bellach wedi agor caffi ym Mhorth y Brenin sydd wedi’i leoli yn y tŵr mawreddog sy’n cynnwys mynediad lifft i’r to lle gellir mwynhau golygfeydd o arfordir Cymru.
Caffi Castell, Castell Coch
Daeth y bachgen o Gaerdydd a’r rheolwr stafell de, Lewys Wootten, yn rhan o brofiad ymwelwyr yng Nghastell Coch ym mis Gorffennaf 2022.
Bydd amryw’n cofio Lewys o’i gyfnod yn cadw siop goffi lwyddiannus yng Ngogledd Llandaf, Caerdydd, cyn mentro i gastell tylwyth teg Cymru.
Mae Lewys yn falch o fod yn ffenest siop i’r cynnyrch lleol gorau, o’r ffa coffi Masnach Deg a ddaw gan Hard Lines Coffee i gyflenwadau dyddiol o laeth ffresh o Castle Farm yng Nghasnewydd.
Yn y cyfamser, mae ymwelwyr yn argymell gorffen taith o amgylch y castell gyda’r frechdan grasu gig moch a bara lawr gyda Ketchup Gwymon Sir Benfro neu’r panini ham a chaws Caerffili gyda Mwstard Mêl Myglyd Halen Môn.
Caffi Castell, Castell Harlech
Agorodd y perchennog Freya Bentham fwyty Caffi Castell yn 2015 ac mae’n deg dweud, ar ôl saith mlynedd, bod y caffi yma ar ben y bryn yn un o gonglfeini cymuned Harlech.
Yn ogystal â bwydo pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, mae’r caffi hefyd wedi creu cyfleoedd gwaith gwerthfawr i bobl Gwynedd.
O frecwastau harti i brydau ysgafnach a the prynhawn, mae Caffi Castell wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cyflenwyr lleol gorau.
Daw eu coffi barista, er enghraifft, o Ffa Da ac mae’n mynd yn berffaith gyda chacennau a sgoniau cartref Freya.