Skip to main content

Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru archwiliad ac adroddiad cysylltiedig a oedd yn nodi ac yn trafod henebion cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladau sy'n gysylltiedig â'r fasnach mewn caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig.

Roedd yn cyfeirio rhywfaint hefyd at gerfluniau ac enwau lleoedd sy'n gysylltiedig â Hanes Pobl Dduon.

Canfu'r archwiliad 7 coffâd yn unig i unigolion o dreftadaeth Ddu yng Nghymru. Yn drawiadol, tan 2021, dim ond un cerflun o bobl Ddu oedd yn bodoli – a hwnnw i grŵp dienw ym Mae Caerdydd. Cerflun Betty Campbell oedd y cyntaf ar gyfer unigolyn a enwyd.

Ond mae pobl Dduon wedi bod yn cyfrannu at fywyd yng Nghymru ers canrifoedd. Daeth Affricaniaid i Gymru gyda'r fyddin Rufeinig ac yn ystod cyfnod y Tuduriaid, ar drothwy ehangu'r drefedigaeth Brydeinig. Mae Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a oedd yn forwyr, yn deuluoedd, yn weithwyr, yn fyfyrwyr ac yn bobl a oedd yn dianc oddi wrth gaethwasiaeth oll wedi bod yn rhan o'n hanes ond mae coffáu pobl croenliw wedi'i esgeuluso.

Er mwyn dechrau cywiro hyn, mae Cadw a Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o fod wedi comisiynu'r bardd Alex Wharton i ymchwilio i nifer o unigolion nodedig ac ysgrifennu amdanynt. Mae'r darnau hyn yn ddechrau taith i goffáu amrywiaeth ehangach o bobl ac i gydnabod y ffyrdd amrywiol y maen nhw wedi cyfrannu at y Gymru a welwn ni heddiw.

Wedi'r cyfan, does dim rhaid i goffadwriaeth fod ar ffurf placiau glas a cherfluniau yn unig.