Saith Adeilad Rhestredig sydd â chysylltiadau â hanes LHDT+ balch Cymru
Mis Chwefror yw Mis Hanes LHDT+ – ac i ddathlu, rydym wedi archwilio ein harchifau i ddatgelu straeon saith o’n hadeiladau rhestredig, y mae gan bob un ohonyn nhw gysylltiadau â ffigurau blaenllaw o’r gymuned a/neu’r diwylliant LHDT+ ehangach yng Nghymru.
Efallai nad ydych chi’n gwybod hyn, ond wedi’u gwau i wneuthuriad rhai o safleoedd mwyaf poblogaidd Cadw mae straeon ysbrydoledig a dirdynnol am ffigurau LHDT+ Cymru. Dyma straeon am serch a dyfalbarhad, a pharatôdd y bobl a’r safleoedd hyn y ffordd ar gyfer cynnydd – gan adael eu marc ar hanes Cymru a’r diwylliant LHDT+ yn y cyfamser.
Edward II – cysylltiadau â Chastell Caernarfon a Chastell Caerffili
Wedi’i eni yng Nghastell Caernarfon yn 1284, gwyddys fod Edward II wedi cael perthynas agos iawn â dau ddyn: Piers Gaveston a Hugh Despenser.
Er nad yw haneswyr 100% yn siŵr p’un ai cyfeillgarwch, cariad neu frawdoliaeth oedd y perthnasoedd hyn, awgrymir cysylltiad dyfnach mewn amryw o ddarnau ffuglennol ar hyd yr oesoedd. Waeth beth oedd natur y perthnasoedd hyn, achosodd perthynas agos Edward â Despenser a Gaveston wrthdaro gyda’i farwniaid a’i wraig – ac yn y diwedd arweiniodd at farwolaethau treisgar y tri ohonyn nhw!
Daeth Hugh Despenser yn ffefryn y Brenin ac yn gariad honedig iddo tua’r flwyddyn 1317. Am flynyddoedd, bu Despenser fwy neu lai’n rheoli’r deyrnas ar ran Edward o Gastell Caerffili. Gwelir arwyddion o’u perthynas ar draws tir y Castell hyd heddiw, a thybir bod y pennau carreg addurniadol sydd i’w gweld yn Neuadd Fawr y Castell yn cynrychioli’r pâr.
Castell Caerffili: Gradd I, rhestrwyd yn 1963.
Castell Caernarfon: Gradd I, rhestrwyd gan Cadw yn 1983.
Boneddigesau Llangollen — cysylltiadau â Phlas Newydd
Er dechrau eu bywydau yn aelodau o deuluoedd Gwyddelig cyfoethog, yn ddiweddarach fe ddaeth Eleanor Butler a Sarah Ponsonby yn adnabyddus yn y llyfrau hanes am fod yn rhan o driawd o’r enw ‘Boneddigesau Llangollen’. Yn benderfynol o dreulio eu bywydau gyda’i gilydd, ceisiodd y ddwy ddianc o Iwerddon wedi’u gwisgo fel dynion – ond fe gawson nhw eu dal gan eu teuluoedd!
Yn y diwedd, fe gawson nhw adael Iwerddon ar ôl mynd yn groes i ddymuniadau eu rhieni, ac fe wnaethon nhw – ynghyd â’u morwyn, Mary Carryl – ymgartrefu ym Mhlas Newydd, Llangollen. Er gwaethaf yr holl chwilfrydedd ynghylch eu perthynas, roedd llawer o bobl yn canmol eu dewis i fyw bywydau hapus, cymharol gyffredin heb fod mewn castell Gwyddelig. Heddiw, mae Plas Newydd ei hun â statws Adeilad Rhestredig Gradd II, sy’n deyrnged addas i ddewrder Boneddigesau Llangollen wrth dorri rhwystrau a safonau cymdeithasol y cyfnod.
Plas Newydd: Gradd II*, rhestrwyd yn 1951.
Evan Morgan — cysylltiedig â Thŷ Tredegar
Fel un o bendefigion hoyw Cymru Oes Fictoria, roedd cyfoeth a braint dynion fel Evan Morgan yn caniatáu mwy o ryddid rhywiol iddyn nhw nag i eraill. Roedd rhywioldeb Morgan yn gyfrinach agored – mae’n debyg bod pawb yn ymwybodol ohono heblaw’r heddlu.
Fel ail is-Iarll Tredegar, roedd ei statws fel miliwnydd yn caniatáu iddo fyw bywyd ecsentrig a hedonistaidd yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd. Gyda chymysgedd o ddefodau goruwchnaturiol a phartïon gwyllt, roedd ei gyfarfodydd yn y seler yn chwedlonol!
Tŷ Tredegar: Gradd I, rhestrwyd yn 1952.
Tafarnau’r King’s Cross, Blue Anchor a’r Golden Cross – Canol Dinas Caerdydd
Dydy ein straeon olaf ddim yn ymwneud â phobl, ond yn hytrach dri adeilad rhestredig a ddaeth yn rhannau eiconig o’r profiad hoyw yng Nghaerdydd yr 1970au.
Yn 1972, daeth The King’s Cross yn far hoyw swyddogol cyntaf Caerdydd – ac roedd yn gwbl eiconig! Bu’r dafarn Fictoraidd — a Restrwyd gan Cadw yn 1999 — yn rhan annatod o fywydau pobl hoyw ifanc yn y ddinas, gan gynnig hafan groesawgar a lle cymunedol iddyn nhw.
Yn ogystal â chynnal disgo hoyw cyntaf Caerdydd, The Blue Anchor oedd man cyfarfod cyntaf Gay Liberation Front Caerdydd yn 1971, a drefnodd orymdaith gyntaf Cymru dros hawliau hoyw.
Wedi’i ddisgrifio fel “hen archdduges LHDT+ Caerdydd”, mae’r Golden Cross yn far hoyw chwedlonol. Yn ogystal â bod y lleoliad hoyw hynaf yn y ddinas sy’n dal ar agor, cafodd yr adeilad ei Restru yn 1975.
The King’s Cross: Gradd II, rhestrwyd gan Cadw yn 1999.
The Blue Anchor: Gradd II, rhestrwyd yn 1999.
The Golden Cross: Gradd II, rhestrwyd yn 1975.
Ynglŷn â Rhestru:
Mae Rhestru yn nodi adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol i Gymru. Gan amrywio o ran dyddiadau o adeiladau canoloesol i’r rhai a adeiladwyd mor ddiweddar â 30 mlynedd yn ôl, mae adeiladau rhestredig yn cwmpasu sawl agwedd ar ein bywydau, o lefydd i fyw a gweithio ynddyn nhw, i lefydd i addoli a chwarae ynddyn nhw. Mae’r adeiladau hyn sydd o bwys cenedlaethol yn ein cysylltu â dyheadau a sgiliau cenedlaethau ddoe – yn yr achos hwn, mae’n rhoi cipolwg i ni ar fywydau ffigurau LHDT+ yn hanes Cymru.
Mae rhestru yn ein helpu i adnabod holl rinweddau arbennig yr adeiladau hyn, a’r cymunedau yr oedden nhw’n eu gwasanaethau, wrth eu diogelu er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Os hoffech chi ddysgu mwy am Adeiladau Rhestredig Cadw, cliciwch yma.