Skip to main content

Mae tystiolaeth bendant o bob rhan o’r byd yn dangos bod cynhesu byd eang a newid hinsawdd yn cymryd lle o ganlyniad i’r nwyon tŷ gwydr ers y chwyldro diwydiannol.

Eisoes rydym yn gweld effeithiau hyn yma yng Nghymru. Mae’r tymheredd yn codi ac mae lefelau’r môr yn codi yn ogystal â newidiadau mewn glawiad a mwy o dywydd eithafol yn fwy cyffredin.

Bydd canlyniadau newid hinsawdd yn effeithio’n arw ar ein treftadaeth hanesyddol gan beryglu ein hetifeddiaeth hanesyddol amhrisiadwy yn ogystal ag yn effeithio ar bobl Cymru.

Rydym wedi gweld effeithiau’r newid hwnnw wrth i ni gael ein heffeithio fwy a mwy gan lifogydd ac erydiad o’n harfordir. Mae hyn yn ei dro yn cael effaith ar rai o safleoedd hanesyddol Cymru, y boblogaeth a’r economi leol. Mae’n debygol hefyd y bydd cynnydd yn yr effeithiau hirdymor yn ogystal ag effeithiau hirdymor eraill ac effeithiau eraill na allwn eu rhagweld nag eu deall yn llawn ar hyn o bryd.

Bydd angen i ni ymateb i’r sialensiau hyn ac ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud yn awr ac ar gyfer y dyfodol i ymateb i’r hyn sy’n achosi newid hinsawdd a sut mae’r newidiadau hyn mewn hinsawdd yn effeithio arnom.

Treftadaeth yn ymateb!

Ers 2011 mae sefydliadau treftadaeth o bob cwr o Gymru wedi bod yn cydweithio â’i gilydd fel Is-grŵp Newid Hinsawdd y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol. Mae'r fideo byr hwn yn archwilio'r gwaith y maent yn ei wneud a'i ganlyniadau.

Astudiaethau Achos

Addasu i newid hinsawdd

Mae addasu yn golygu newid y ffordd rydym yn rheoli ac yn gofalu am safleoedd, llefydd a thirweddau er mwyn ystyried newidiadau yn yr hinsawdd i'r dyfodol. Proses yw hon o addasu i newid hinsawdd gwirioneddol neu newid a ragwelir a'i effaith.