Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeilaldau Hŷn a Thraddodiadol
Yr adeilad mwyaf cynaliadwy yw'r un sy'n bodoli'n barod gan amlaf. Mae cynnal adeiladau hanesyddol a thraddodiadol, a pharhau i'w defnyddio, yn lleihau'r angen cyffredinol am ddeunyddiau adeiladu newydd sy'n helpu i leihau allyriadau carbon. Ond efallai y bydd angen addasu'r adeiladau hyn fel y gallant wrthsefyll yn well effeithiau'r hinsawdd sy'n newid.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn ymdrin â'r pethau sydd angen eu hystyried wrth osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau hŷn a thraddodiadol. Mae wedi'i anelu'n bennaf – ond nid yn unswydd - at ddysgwyr sy'n ymgymryd â Dyfarniad Lefel 3 mewn Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol.
Cafodd adeiladau a adeiladwyd yn draddodiadol eu gwneud gan ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau i adeiladau modern, ac felly mae angen eu trin yn wahanol. Mae'r llawlyfr hwn yn rhoi trosolwg o sut mae adeiladau hŷn a thraddodiadol yn perfformio; addasrwydd mesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer gwahanol fathau o ddulliau adeiladu a'r ystyriaethau treftadaeth y mae'n rhaid eu hymgorffori mewn penderfyniadau ynghylch cyflwyno a gwerthuso mesurau effeithlonrwydd ynni.
Fe'i crëwyd mewn cydweithrediad â Historic England ac Historic Environment Scotland ac mae wedi'i gynllunio i ddysgwyr ei ddefnyddio fel adnodd ychwanegol ochr yn ochr â'u horiau dysgu dan arweiniad a ddarperir gan ddarparwr hyfforddiant cofrestredig. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n asesu, yn cydlynu, yn dylunio neu'n gosod mesurau effeithlonrwydd ynni ôl-osod mewn adeiladau a adeiladwyd yn draddodiadol.