Skip to main content
Caerphilly Castle

Due to the ongoing redevelopment works within the castle, venue hire and trade bookings will not be considered until further notice.

Thank you.

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Cymru, ac mae'n gofalu am 130 o henebion hanesyddol ledled Cymru, y mae llawer ohonynt ar gael i'w llogi i drydydd partïon gynnal digwyddiadau.

Rydym yn llogi ein safleoedd hudolus ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau – o gyngherddau a pherfformiadau theatr i wyliau bwyd a diwrnodau hwyliog i deuluoedd. Mae detholiad o safleoedd yn addas ar gyfer digwyddiadau dan do ac mae pob safle arall yn addas ar gyfer digwyddiadau awyr agored. Sylwch fod rhai o'r safleoedd ar gau dros y gaeaf, ac efallai na fydd yn bosibl cynnal digwyddiad yn ystod y cyfnod hwn.

Gwiriwch amseroedd agor a manylion cyswllt ein safleoedd ar y dudalen I ble hoffech chi fynd?

Beth yw digwyddiad llogi masnachol?

Trefnir digwyddiadau llogi masnachol yn ein henebion gan drydydd partïon yn unol â Thelerau ac Amodau Cadw a bydd Cadw yn codi ffi am logi'r lleoliad ac unrhyw gostau staffio ychwanegol. Gall y mathau hyn o ddigwyddiadau amrywio'n fawr o ran maint a chynnwys a gallant gynnwys:

  • heneb yn agor y tu allan i oriau agor arferol
  • llogi henebion unigryw
  • yr angen i gyfyngu mynediad i rannau penodol o'r safle
  • ddim ar gael i ymwelwyr safle, digwyddiad preifat
  • staff ychwanegol Cadw i fonitro digwyddiadau y tu allan i oriau
  • digwyddiadau sy'n gwerthu tocynnau ar gyfer masnach neu godi arian
  • digwyddiadau'n cael eu cynnal dros nifer o ddiwrnodau yn olynol
  • bydd yr holl ddigwyddiadau llogi masnachol yn codi ffi am logi lleoliad ynghyd â staff ychwanegol sydd eu hangen.

Enghreifftiau o ddigwyddiadau llogi masnachol:

  • perfformiadau â thocynnau (cyngherddau/digwyddiadau cerddoriaeth)
  • digwyddiadau chwaraeon – digwyddiadau rhedeg / marathon
  • digwyddiadau grwpiau diddordeb arbennig
  • sglefrio iâ
  • sinema dros dro (e.e. ffrwd fyw rygbi)
  • digwyddiadau bwyd a diod
  • digwyddiadau rali, clybiau perchnogion ceir ac ati
  • perfformiadau theatr sy’n gwerthu tocynnau
  • nosweithiau gala preifat.

Y broses ymgeisio

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein i ofyn am logi unrhyw heneb Cadw, a fydd yn galluogi'r tîm i benderfynu a yw'r digwyddiad yn briodol ar gyfer y safle dan sylw a rhoi arweiniad ar ffioedd yn dibynnu ar y gofynion. Mae hyn hefyd yn rhoi gwybod i ni am unrhyw ofynion arbennig sydd gan yr ymgeisydd ac yn caniatáu i ni roi gwybod i'r ymgeisydd am unrhyw bryderon.

Dylid cyflwyno'r ffurflen o leiaf bum wythnos cyn y digwyddiad, ac yn gynharach os yn bosibl.

Ni ddylai ymgeiswyr fwrw ymlaen ag unrhyw drefniadau hyd nes y byddant wedi cael cadarnhad ar ebost fod Cadw wedi cymeradwyo eu digwyddiad.

Bydd angen cyflwyno cynllun digwyddiad arfaethedig, asesiad risg a chadarnhad y bydd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gael i gwmpasu'r digwyddiad gyda'r cais.

Ymgeisio Ar-lein

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynglŷn â digwyddiad llogi masnachol, anfonwch e-bost at ein Tîm Masnachol cadwcommercial@llyw.cymru Ffôn: 03000 257 182

Digwyddiadau Cymunedol

Mae ein safleoedd yn aml yng nghalon cymunedau ledled Cymru ac felly maent yn lleoliadau delfrydol ar gyfer digwyddiadau lleol.