Castell Caernarfon
Cynllun Llawr — Castell Caernarfon
Esiamplau o digwyddiadau ar y safle
- Perfformiadau Shakespeare ar lwyfan yn y tiroedd
- Grwpiau ail-greu hanes
- Grwpiau dan arweiniad y gymuned
Gwybodaeth meysydd parcio
Does dim cyfleusterau parcio ar y safle. Mae maes parcio preifat gerllaw tua 200 llath o fynedfa’r safle a all gymryd 270 o geir a 10-12 o fysiau.
Mynediad i’r Safle
Does dim mynediad uniongyrchol i gerbydau i’r safle ond mae cerbydau’n cael parcio ar y stryd yn agos i bob un o’r tair mynedfa.
Mynediad i bobl sy’n chael yn anodd symud o gwmpas
Mae'r safle yn hygyrch yn gyffredinol ond bydd angen i’r ymwelwyr fod yn ymwybodol bod angen dringo grisiau troi er mwyn cyrraedd amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a'r tyrau i gyd.
Cyfleusterau
- Byrbrydau ar gael i’w phrynu yn y siop anrhegion.
- Mae cyfleusterau tŷ bach ar gael ond fyddai'r rhain ddim yn addas i ymwelwyr sy’n ei chael yn anodd symud o gwmpas.
- Mae dolen sain gludadwy a lifftiau ar gael ar y safle.
- Mae meinciau ar gael ar y safle.
- Mae'r signal symudol ar y safle yn dda ar y cyfan.
Trwydded ar y Safle?
Mae gan y safle drwydded (nid ar gyfer yfed).
Mannau o dan do
Y lle sydd ar gael yw’r Ystafell Isaf yn Nhŵr Gorllewinol Porth y Brenin, yr amcangyfrifir ei bod yn mesur 21 troedfedd x 18 troedfedd.
Trwydded ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Nac oes
Cynllun o’r safle
Oes
Power ar gael ar y safle
Oes – 23amp/6h 220-240v
Dwr ar gael ar y safle
Oes- dŵr o’r prif gyflenwad
Caniatad i osod pegiau yn y llawr
Oes - hyd at 110mm – 4 modfedd o ddyfnder
Unrhyw fannau cyfnedig?
Oes – Swyddfa’r Ceidwaid/Ystafell y Stoc a’r Siop. Bydd hefyd rhai ardaloedd cyfyngedig ar y safle yn ystod gwaith cadwraeth neu gwaith cynnal a chadw