Skip to main content

Modrwyau? Iawn.

Ffrog? Iawn.

Castell hudolus neu blasty mawreddog? Iawn!

Ydych chi erioed wedi breuddwydio am briodi mewn lleoliad ysblennydd, llawn hanes, cymeriad a diwylliant? Lle llawn breuddwydion, lle mae breuddwydion yn dod yn wir...

Priodas/Wedding

Os ydych wedi cyrraedd y dudalen hon, mae’n bosibl iawn eich bod yn cynllunio ar gyfer eich diwrnod mawr.

Llongyfarchiadau! Mae’n amser cyffrous i chi, a hoffem fod yn rhan o’r achlysur hefyd!

Mae gennym bedwar lleoliad ledled Cymru ar hyn o bryd i chi gyfnewid addunedau a gwneud diwrnod eich priodas yn fwy cofiadwy fyth.    

Yn yr adran hon, cewch fwy o wybodaeth am ein cestyll gogoneddus a’n plastai mawreddog y gallwch eu llogi ar gyfer eich seremoni. Cewch wybod beth i’w ddisgwyl, beth sydd ar gael ymhob safle, y prisiau a sut i archebu.

Gellir cynnal seremonïau priodas sifil neu bartneriaeth sifil yn yr ardaloedd a enwir yn y lleoliadau, gyda’r seremoni’n cael ei chynnal gan gofrestrydd yr awdurdod lleol.

Cliciwch ar y dolenni i gael mwy o wybodaeth am bob lleoliad.

(Castell Caerffili – gwaith ailddatblygu: oherwydd y gwaith ailddatblygu parhaus yn y castell, ni fydd llogi lleoliadau na cheisiadau gan y diwydiant masnach yn cael eu hystyried hyd nes y clywir yn wahanol).

Gellir bwcio am y tro am fis er mwyn rhoi amser ichi ystyried yr holl opsiynau.

Ewch i’r tudalen Lluniau Priodas i gael gwybodaeth ynglŷn â lluniau priodas ar safleoedd Cadw.

Priodas yn Llys Tretŵr/Wedding at Tretower Court

Ni ellir cynnal seremonïau priodas crefyddol ar Safleoedd Cadw oherwydd eu bod yn henebion cofrestredig na ellir eu cysegru. Fodd bynnag, mae gan Castell Coch, Llys a Chastell Tre-tŵr a Phlasty Trefol Elisabethaidd Plas Mawr drwyddedau ar gyfer seremonïau sifil a gellir llogi’r safleoedd ar gyfer bendithio priodasau ac ar gyfer ffotograffau.

Yn aml ni chaniateir codi a defnyddio marquee sydd heb bwysau dŵr. Trowch at yr wybodaeth ar begiau tir ar dudalennau’r safleoedd penodol i weld a yw codi marquee yn bosibl ar y safle.