Skip to main content

Mae Llys Tretŵr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dŷ cwrt sydd wedi ei adfer o’r Oesoedd Canol. Cafodd ei adeiladu gan Syr Roger Vaughan yn y bymthegfed ganrif, ac mae’n lle hynod rhamantus ar gyfer eich seremoni priodas sifil neu bartneriaeth sifil.

Mae’r gwaith pren godidog yn goroesi yn ardaloedd y gogledd a’r gorllewin, gyda ffenestri diweddarach yn yr arddull Clasurol yn dyddio’n ôl i’r 1630au. Mae yno hefyd ardd wedi ei hail-greu yn arddull y bymthegfed ganrif, ac mae’n lle tawel a phrydferth i gael atgofion ffotograffig o’ch diwrnod arbennig.

Priodas yn Llys Tretŵr/Wedding at Tretower Court

Mae’r tŷ cwrt yn edrych dros y castell, a sefydlwyd fel amddiffynfa bridd a phren pan orchfygwyd yr ardal gan y Normaniaid a’i ailgodi’n ddiweddarach mewn carreg.

Mae tair rhan o’r llys ar gael ar gyfer eich seremoni, a phob un yn dal hyd at 50 o bobl. Mae’r neuadd fawr ar y llawr gwaelod, ac i fynd yno byddwch yn mynd drwy’r cwrt coblog. Mae’r ddwy ystafell arall ar y llawr cyntaf.

Priodas yn Llys Tretŵr/Wedding at Tretower Court

Mae’r amseroedd yn amrywio yn ôl oriau agor y tymor. Mae Llys a Chastell Tretŵr ar gau dydd Sadwrn – dydd Mawrth, mis Tachwedd i fis Mawrth.

Gellir trefnu i logi Llys Tretŵr 13 mis cyn y dyddiad. Er enghraifft, gellir trefni unrhyw ddyddiad ym mis Mehefin 2021 oddi ar y diwrnod gwaith cyntaf ym mis Mai 2020.

Ar ôl ichi gadarnhau, bydd angen ichi lofnodi’r Cytundeb Lleoliadau, a darparu copi inni o’ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus fis cyn y digwyddiad.

 

"Hwn oedd y lleoliad perffaith ar gyfer ein priodas ym mis Mehefin 2018.  Doedd gan fy ngŵr a fi ddim syniad am ba fath o leoliad roedden ni’n chwilio, ond yr eiliad y gwelon ni Tretŵr ni fyddai unrhyw le arall yn gwneud y tro. Mae’r ardal leol mor hardd, yn hyfryd ar gyfer lluniau prydferth, ac roedd y lleoliad ei hun yn berffaith inni - lle bychan, hanesyddol ble y gallen ni ddathlu ein priodas gyda’n hanwyliaid. Roedd y staff mor gymwynasgar, o’r tro cyntaf inni fynd i weld y lle hyd at y diwrnod mawr. Roedd popeth yn berffaith!"

Sophie a Tim

Pecyn Priodasau

  • Sgwrs drwy apwyntiad gyda’r ceidwad
  • Rhagchwiliad yn rhad ac am ddim i griw’r briodas o’r ardaloedd sydd â thrwydded ar gyfer seremonïau sifil
  • Eistedd ar feinciau ar ffurf theatr, gydag eil i lawr y canol
  • Tynnu lluniau’r briodas mewn ardaloedd a drefnwyd o flaen llaw

 

"Roedden ni’n gwybod ein bod ni eisiau rhywbeth ychydig yn wahanol ar gyfer ein priodas. Roedden ni eisiau lleoliad oedd yn arbennig inni a’n gwesteion, ac fe gawson ni hyn gan Lys Tretŵr. Roedd y staff mor gyfeillgar, hyblyg a chefnogol, felly roedden ni’n gallu sicrhau ein bod ni’n cael y briodas roedden ni eisiau - nid templed roedd rhywun arall wedi ei ddatblygu. Roedd ein gwesteion wrth eu boddau’n crwydro’r castell a’r gerddi ac yn rhyngweithio gyda’r ailgrëwyr. Roedd popeth yn berffaith."

Chris a Gary

Ffioedd Llogi

Dyma’r ffioedd ar gyfer 2020:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener £570
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul £695

Os hoffech drafod y syniad o ddefnyddio’r heneb, cael gwybod a yw ar gael neu fwcio, cysylltwch â’r ceidwad yn uniongyrchol ar 01874 730279.

Mae'r prisiau yn cynnwys TAW.

Priodas yn Llys Tretŵr/Wedding at Tretower Court