Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Adeiladwyd Plas Mawr yng Nghonwy rhwng 1576 a 1585, ac mae yng nghanol strydoedd cul a choblog y dref ganoloesol hon.

Mae’n ddigon tebyg mai dyma’r tŷ trefol Elisabethaidd sydd yn y cyflwr gorau ym Mhrydain. Mae'r tu mewn i'r tŷ, â'i nenfydau plastr wedi'u haddurno'n gain a sgriniau pren coeth, yn adlewyrchu cyfoeth a golud uchelwyr yn oes y Tuduriaid yng Nghymru. Mae'r tŷ, y cyrtiau a'r ardd wedi cael eu hadfer yn ofalus iawn, ac maent yn cynnig cefndir unigryw i ffotograffau.

Gall pob ardal ddarparu ar gyfer uchafswm o 40 o bobl.

Pecyn Priodasau

  • sgwrs drwy apwyntiad gyda’r ceidwad
  • rhagchwiliad yn rhad ac am ddim o’r Neuadd Fawr ar gyfer criw’r briodas (trwy rag-drefniant yn unig)
  • eistedd ar feinciau igam-ogam, gydag eil i lawr y canol
  • tynnu lluniau’r briodas mewn ardaloedd a drefnwyd o flaen llaw
  • mynediad am uchafswm o 90 munud.

Ffioedd Llogi

Dyma’r ffioedd ar gyfer 2025:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener £685
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul £835

Mae gan Cadw yr hawl i godi bond amodol ad-daladwy. Telir hwn ar ôl gwneud cais. Mae'r prisiau yn cynnwys TAW.

Mae dwy ardal ar gael ar gyfer seremonïau sifil: y Neuadd Fawr ar y llawr gwaelod, a’r Siambr Fawr ar y llawr cyntaf, a gyrchir gan risiau pren cul. 

Am resymau iechyd a diogelwch, rhaid i uchafswm nifer y gwesteion gynnwys y ddau gofrestrydd, y priodfab a’r briodferch, y ffotograffydd ac unrhyw gerddorion. Mae amseroedd yn amrywio yn ôl oriau agor y tymor. Gall yr amseroedd a’r dyddiadau sydd ar gael amrywio yn dibynnu ar oriau agor tymhorol.

Sylwch fod Plas Mawr ar gau o fis Tachwedd i fis Mawrth.

Eleni Duo playing harp and flute in Plas Mawr

Sut i archebu

Gellir llogi Plas Mawr 13 mis cyn y dyddiad. Er enghraifft, gellir trefnu unrhyw ddyddiad ym mis Mehefin 2025 oddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf mis Mai 2024.

Gwiriwch fod cofrestrydd ar gael i gynnal y seremoni cyn gwneud archeb dros dro. Gellir gwneud hyn drwy Wasanaethau Cofrestru Bwrdeistref Sirol Conwy — Ffôn 01492 576624.

I archebu Plas Mawr ar gyfer eich priodas:

  1. cysylltwch â’n tîm ar y safle i wirio argaeledd ar gyfer y dyddiad o’ch dewis
  2. cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein a chytuno i’n telerau ac amodau
  3. cyflwyno blaendal o 50% ar gytundeb eich cais.

Cysylltwch â thîm Plas Mawr

Ffôn: 01492 580167

E-bost: plasmawr@llyw.cymru

Ffurflen Gais