Skip to main content

Conwy drwy’r oesoedd

Mae hanes ym mhob twll a chornel o Gonwy. Gall anturiaethwyr bach ddilyn yr Her Llwybr Teulu o gwmpas Castell cadarn Conwy, cerdded cylch o furiau’r dref a phrofi’r cyfnod Elisabethaidd yn nhŷ tref mawreddog Plas Mawr. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol adeiladau yma hefyd: Tŷ canoloesol Aberconwy, ble daw chwe chanrif o hanes Conwy yn fyw, a’r Bont Grog a’r Tolldy o’r 19eg ganrif.

Castell Conwy/Conwy Castle

Castell, tŷ a man sanctaidd

Mae Castell Cricieth, a gafodd ei adeiladu gan Gymry, mewn lleoliad prydferth iawn, ac mae’r sicr o danio’r dychymyg (mae hefyd Her Llwybr Teulu i’ch rhoi chi ar ben ffordd). Ewch yn eich blaen i dŷ canoloesol anarferol Penarth Fawr, sy’n gyfuniad hynod ddiddorol o waliau cerrig cryf a gwaith pren manwl y tu mewn, a Ffynnon Sant Cybi, safle sanctaidd sydd wedi ei gysegru i sant o’r 6ed ganrif, sy’n gallu iacháu, yn ôl y sôn.

Castell Cricieth

Profiad brenhinol

Mae Castell unig Dolbadarn yn eistedd ar fryn caregog sy’n edrych dros Lyn Padarn yn Llanberis, ac mae’n un o gaerau cynhenid mwyaf atmosfferig Cymru. Cafodd ei adeiladu gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) yn y 13eg ganrif, yn un o gyfres o gestyll a adeiladwyd gan Dywysogion Gwynedd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyn-arweinwyr Cymreig hyn ar gael yn hybiau Tywysogion Gwynedd yng Nghonwy, Betws-y-Coed, Caernarfon a Chricieth.

Castell Dolbadarn

Brwydrau a botaneg

Cewch ail-fyw brwydr enwog yng Nghastell Dryslwyn ger Llandeilo, yr ymosodwyd arno yn 1287 gan 11,000 o filwyr Lloegr a lwyddodd i daro rhan fawr o’r muriau i lawr. Yna ewch i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ychydig filltiroedd i lawr Dyffryn hyfryd Tywi. Ger y tŷ gwydr enfawr cromennog mae gardd yr apothecari, sy’n gartref i gasgliad gwych o blanhigion sy’n iacháu a ddefnyddiwyd gan y meddygon llysieuol canoloesol enwog Meddygon Myddfai.

Castell Dryslwyn

Dilyn ôl troed Dewi Sant

Ewch draw i ddinas leiaf y DU i grwydro Palas yr Esgob yn Nhyddewi – dilynwch yr Her Llwybr Teulu i gael gwybod popeth am y cartref crefyddol mawreddog hwn. Gallwch chi hefyd ymweld â’r gadeirlan enfawr a – rhyw filltir i ffwrdd ar yr arfordir – capel bychan a ffynnon sanctaidd y Santes Non. Maen nhw wedi eu henwi ar ôl mam Dewi Sant ac mae sôn mai dyma ble cafodd nawddsant Cymru ei eni, mae’r adfail godidog hwn hefyd yn fan cychwyn da i fynd am dro ar Lwybr Arfordir Penfro.

St Davids Bishop's Palace visitors in grounds

Cerrig croesi a golygfeydd godidog

Bydd anturiaethwyr bach wrth eu boddau gydag adfeilion Castell Ogwr. A, phan fo’r amodau’n addas, gall plant hyderus sy’n eu harddegau roi cynnig ar yr her o groesi’r afon oddi tano ar gyfres o gerrig croesi – sy’n llawer mwy o hwyl na hen bont ddiflas. Yna cerddwch ar hyd rhan brydferth o Lwybr Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Mae’r rhan hon yn 14 milltir o hyd (ac yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy’n 870 milltir o hyd) ac yn cynnwys amrywiaeth anhygoel o olygfeydd arfordirol, fel clogwyni calch carregog, twyni enfawr, cildraethau creigiog a thraethau euraidd.

Castell Ogwr/Ogmore Castle

Fflora, ffawna a chaer

Dewch i grwydro Castell Cilgerran, caer ganoloesol drawiadol. Mae mewn cyflwr eithaf da o ystyried ei hanes cythryblus yn cael ei symud rhwng perchnogaeth y Cymry a’r Saeson nifer o weithiau. Yna ewch draw i Ganolfan gyfagos Bywyd Gwyllt Cymru am saffari bach drwy warchodfa natur gorsiog ble gallwch weld adar, trychfilod a hyd yn oed byfflo dŵr – fyddai’n dipyn o syndod i’n cyndeidiau canoloesol!

Castell Cilgerran/Cilgerran Castle

‘Abaty Westminster’ Cymru ar dir gwyllt iawn

Mae adfeilion heddychlon Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur, ‘Abaty Westminster Cymru,’ wrth galon tirweddau mwyaf hudol a diarffordd ein gwlad, fe’i gelwir yn ‘Gymru Wyllt’ ar ôl llyfr teithio enwog o’r 19eg ganrif.  Mwynhewch yr awyrgylch cyn mynd â’ch naturiaethwr ifanc i Gors fawr Tregaron - byddan nhw wrth eu boddau’n gweld gweision y neidr disglair o rwydwaith o lwybrau pren uchel. Yna ewch am bicnic ym Mhyllau Teifi, sydd mewn rhan wyllt o dir uchel sy’n llawn llynnoedd a chronfeydd dŵr prydferth.

Abaty Ystrad Fflur/Strata Florida Abbey

Maenor fawreddog ym Mhenrhyn godidog Gŵyr

Mae Castell Weble yn esiampl brin o faenordy canoloesol caerog, ac mae’n llawn tyllau a chorneli i’w harchwilio. Saif mewn lleoliad gwych ar Benrhyn Gŵyr, tirwedd werdd a digyffwrdd sydd â rhai o draethau gorau’r DU – sy’n berffaith ar gyfer picnic, adeiladu cestyll tywod, syrffio, nofio a gweld bywyd gwyllt.

Castell Weble/Weobley Castle

Abaty anhygoel, carreg ddirgel a chastell uchel

Dewch i grwydro adfeilion eang Abaty Glyn y Groes ger Llangollen, ble gallwch chi chwilio am farciau a wnaed gan seiri maen canoloesol a dewch i weld slabiau beddau wedi eu cerfio (mae un wedi cael ei ailddefnyddio fel silff ben tân). Mae Piler Eliseg gyfagos, a gafodd ei chodi fwy na thebyg yn y 9fed ganrif, yn heneb enigmatig i arweinwyr hynafol Cymru. Twriwch yn ddyfnach i hanes yn Amgueddfa Llangollen, ble mae casgliad enfawr o arteffactau (gan gynnwys copi o Golofn Eliseg) sy’n adrodd stori’r ardal o Oes y Cerrig hyd heddiw, yna dringwch i fyny at Gastell Dinas Brân, adfail cadarn sy’n eistedd uwchben y dref.

Castell Dinas Brân