Ffynnon Gybi
Ffynnon sanctaidd gudd gyda tharddiadau paganaidd posibl
Yn swatio ynghanol coed mewn man diarffordd ar waelod Garn Bentyrch yn Eifionydd (Gwynedd) ym Mhen Llŷn, mae rhyw rin yn perthyn i’r safle sanctaidd a hynafol hwn. Wedi’i chysegru i Gybi, sant o’r 6ed ganrif yr honnir y bu’n byw yn yr ardal (mae’r eglwys yn Llangybi gerllaw hefyd yn dwyn ei enw), credwyd ers amser maith fod gan ddyfroedd y ffynnon briodweddau iachau.
Erbyn hyn, gallwch weld dwy siambr ffynnon ochr yn ochr â bwthyn gofalwr diweddaraf sy’n dyddio o’r 18fed neu’r 19eg ganrif. Er ei chysylltiad â Sant Cybi, mae’n bosibl fod statws sanctaidd y ffynnon yn tarddu o’r oes gyn-Gristnogol.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1 Ebrill – 31 Mawrth
|
Bob dydd 10am–4pm Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
---|---|
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|