Skip to main content

Lawrlwythiadau

Setiau Data GIS a gwasanaethau y we

Mae’r Setiau Data canlynol ar gael i’w lawrlwytho o MapDataCymru, sef Porth-Daear i Gymru gan Llywodraeth Cymru. 

Mae gwasanaethau’r we a dolenni i metadata hefyd ar gael.

Mae’r set ddata hon yn cynnwys Adeiladau Rhestredig yng Nghymru.

Mae adeiladau a strwythurau  o bwysigrwydd cenedlaethol yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol trwy gael eu gosod ar ‘Restr’ o Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol bwysig. O dan Adran 1 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, mae’n rhaid i weinidogion Cymru greu a chadw’r rhestr yma.

Mae dros 30,000 o adeiladau a strwythurau ar y rhestr yng Nghymru. Maent yn amrywio o Eglwysi hynafol i adeiladau masnachol modern, e.e. gall strwythurau gynnwys rheiliau, gatiau pier, waliau, cofgolofnau rhyfel, cerrig beddi, blychau postio a blychau teleffon.

Ased adeiladau rhestredig ar MapDataCymru

Mae’r setiau data yn cynnwys Henebion Cofrestredig yng Nghymru.

Mae safleoedd archeolegol o ddiddordeb cenedlaethol yn cael eu gwarchod trwy ddeddf,  trwy gael eu gosod ar ‘Gofrestr’ o Henebion.  O dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archeolegol 1979, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chadw’r rhestr. 

Yng Nghymru mae dros 4000 o wahanol esiamplau o Henebion Cofrestredig, sydd yn cynnwys olion Rhufeinig, siambrau claddu, cestyll, pontydd, gwrthgloddiau, olion pentrefi anghyfannedd, safleoedd diwydiannol a chofadeiladau milwrol o’r 20fed Ganrif ayb.

Ased henebion cofrestredig ar MapDataCymru

Mae’r set data hwn yn cynnwys Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru.

Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn lleoedd y mae Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO wedi eu harysgrifo ar restr o safleoedd rhyngwladol oherwydd eu gwerth cyffredinol eithriadol y mae eu pwysigrwydd mor fawr y mae'n rhychwantu ffiniau cenedlaethol.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru bedwar safle treftadaeth y byd – Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng  Ngwynnedd; yng Ngogledd-orllewin Cymru; Tirwedd lechi gogledd-orllewin Cymru; Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Ne-ddwyrain Cymru; a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Asedion safleoedd treftadaeth y byd yng Nghymru ar MapDataCymru

Mae’r set ddata hon yn cynnwys Llongddrylliadau a Warchodir yng Nghymru.

Mae llongddrylliadau wedi eu dynodi gan Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973.  Mae nifer o longddrylliadau yn y moroedd o amgylch Cymru.  Er bod gwerth hanesyddol i bob un ohonynt, mae chwech ohonynt yn cael eu gwarchod dan ddeddfwriaeth.  Maent yn cael eu hadnabod fel y ‘llongddrylliadau dynodedig’ neu ‘longddrylliadau a warchodir’.

Ased llongddrylliadau a Warchodir yng Nghymru ar MapDataCymru

Mae’r set ddata hon yn cynnwys Tirweddau Cofrestredig o Dirweddau Hanesyddol yng Nghymru.

Dyma gofrestr ymgynghorol anstatudol. Ei phrif nod yw darparu gwybodaeth am yr ardaloedd tirwedd hanesyddol pwysicaf a mwyaf arwyddocaol yng Nghymru, a chodi ymwybyddiaeth ohonynt, er mwyn helpu i'w diogelu a'u gwarchod. Y bwriad yw y bydd y wybodaeth hon yn helpu perchenogion, y Llywodraeth, cyrff statudol, Awdurdodau Lleol, datblygwyr ac unrhyw un sy'n rheoli ac yn diogelu tir i wneud penderfyniadau hyddysg ynghylch ardaloedd ar y Gofrestr. 

Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru ar MapDataCymru

Mae gan Gymru etifeddiaeth gyfoethog o barciau a gerddi hanesyddol.  Maent yn ffurfio rhan o ffabrig hanesyddol a diwylliannol ein gwlad. 

Mae’r gofrestr statudol o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, a gyhoeddwyd gyntaf mewn chwe chyfrol rhwng 1994 a 2002.  Cyhoeddwyd cyfrol atodol yn 2007 ac mae bron i 400 o safleoedd wedi cael eu cofrestru.

Lluniwyd y Gofrestr er mwyn cynorthwyo cadwraeth wybodus parciau a gerddi hanesyddol gan berchenogion, awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, cyrff statudol a phawb sy’n ymwneud â hwy. Mae Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ddyletswydd statudol i Weinidogion Cymru, drwy Cadw, lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru.

Ased Parciau a Gerddi Hanesyddol ar Map Data Cymru