Cestyll Cymru
Yn aml, caiff Cymru ei galw'n 'wlad y cestyll' — mae 427 ohonynt!
Os byddwch yn ymweld â Chymru byddwch bron yn sicr o weld un ohonynt. Os ydych yn byw yma mae'n debyg y byddwch yn gyfarwydd â sawl un ohonynt. Mae Cadw yn gofalu am 44 o gestyll — gyda phob un yn unigryw.
Cliciwch ar y dolenni i ddysgu sut y datblygodd y broses o adeiladu cestyll yng Nghymru dros y blynyddoedd.
Ar ôl Brwydr Hastings yn 1066, rhoddodd Gwilym Goncwerwr dir i’r uchelwyr a oedd wedi’i gynorthwyo a gwnaeth hwy’n arglwyddi. Adeiladwyd cestyll ganddynt i ddiogelu eu tir a’i gynorthwyo i reoli Prydain.
Roedd yn bwysig adeiladu’r cestyll yn gyflym. Fe’u hadeiladwyd drwy ddefnyddio deunyddiau oedd wrth law - coed a phridd. Dewiswyd safleoedd yn ofalus a chynlluniwyd cestyll i roi’r fantais fwyaf posibl i amddiffynwyr yn erbyn ymosodwyr. Gallai lluoedd bach o ddynion fod yn garsiwn iddynt ond, mewn cyfnodau o angen, gallent gynnwys niferoedd fwy o filwyr.
Adeiladwyd dau fath o gastell yng Nghymru.
- Mae castell mwnt a beili yn cynnwys tomen enfawr o bridd (y mwnt). Yn aml adeiladwyd tŵr pren ar hwn. Rhoddodd olygfa dda o’r wlad o’i amgylch. Gerllaw iddo roedd iard (a elwir yn beili) gyda ffos, clawdd a phalisâd pren (ffens gref) o’i amgylch. Yma roedd y ceffylau, y cyflenwadau a’r arfau yn ddiogel.
- Adwaenir y math arall o gastell cloddwaith fel castell cylchfur. Roedd hwn yn cynnwys beili gyda phorthdwr cryf, ond heb fwnt. Yn aml adeiladwyd y math hwn o gastell ar y gororau rhwng Cymru a Lloegr ac yn ne a gorllewin Cymru.
Yn raddol, o ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg a thrwy gydol y ddeuddegfed ganrif, ailadeiladwyd rhai cestyll pridd a phren mewn carreg, gyda
- gorthwr carreg yn lle’r tŵr pren ar gopa’r domen
- llenfur carreg yn lle’r palisâd pren
- tŵr carreg yn lle’r glwyd yn y beili.
Fodd bynnag, adeiladwyd rhai cestyll mewn carreg o’r dechrau. Castell Cas-gwent (Sir Fynwy) oedd y castell carreg cynharaf yng Nghymru. Yn wreiddiol roedd Castell Cas-gwent yn cynnwys tŵr petryal hir, dau lawr o uchder, a oedd yn cynnwys neuadd y perchennog ac ystafelloedd preifat, ac efallai ystafelloedd i’r milwyr a storfeydd yn yr islawr. Ar lefel y llawr cyntaf yr eid i mewn i’r castell a hynny ar hyd grisiau pren allanol yr oedd modd eu symud o bosibl ar adegau peryglus.
Cafodd llawer o orthyrau carreg eraill eu codi ledled de a dwyrain Cymru yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif: mae Castell Ogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn enghraifft wych.
O bryd i’w gilydd, byddai’r palisâd pren o gwmpas y mwnt yn cael ei ailadeiladu mewn carreg, a gelwir hwn yn orthwr cragen. Ceir dwy enghraifft o orthyrau cragen yng Nghymru yng Nghastell Caerdydd (sy’n eiddo i Gyngor Dinas Caerdydd ac ar agor i’r cyhoedd) a Chastell Tre-tŵr, Powys (Cadw). O tua 1200 ymlaen, datblygwyd gorthyrau crwn. Roedd yn hawdd i fyddinoedd oedd yn ymosod ddifrodi gorthyrau petryal drwy eu tanseilio wrth gorneli gwan (gan roi ergyd i’r cerrig cornel a’u symud a chynnau tân oddi tano er mwyn gwneud twll i’r milwyr gael mynediad). Gellir gweld gorthyrau crwn a adeiladwyd rhwng 1200 a 1240 yng Nghastell Penfro, Sir Benfro (ar agor i’r cyhoedd), Castell Bronllys, Powys a Chastell Ynysgynwraidd, Gwent.
Roedd gorthwr carreg nid yn unig yn gadarnle yr oedd hefyd yn gartref, gydag ystafelloedd i’r arglwydd a’i osgordd. Prin fyddai’r dodrefn yn y gorthwr mae’n debyg. Yn y neuadd, er enghraifft, efallai y ceid bwrdd, meinciau a chadeiriau ar gyfer teulu’r arglwydd. Yn aml câi seddau eu hadeiladu i mewn i’r muriau neu’r ffenestri. Byddai’r llawr wedi’i orchuddio â brwyn. Fel rheol câi’r gorthyrau eu plastro a’u peintio a weithiau mae modd gweld olion y paent a fu unwaith yn addurno’r muriau.
Canfuwyd ffyrdd newydd o wneud amddiffynfeydd cestyll yn gryfach llenfuriau.
Gwnaed y llenfuriau carreg o amgylch y beili yn fwy trwchus, yn gryfach ac yn uwch.
Ychwanegwyd tyrau at y llenfur. Roedd y rhain yn bargodi o’r wal fel bod y milwyr yn gallu gweld yr ardal o’i amgylch yn gliriach a gallent saethu eu bwâu yn fwy cywir.
Datblygwyd y porth i ddiogelu’r fynedfa (yn aml y fan wannaf yn y castell). Yn ei ffurf gynharaf tŵr ydoedd gyda bwa syml yn y llenfur. Yn nes ymlaen cafodd dau dŵr, ar siâp D fel arfer, eu hadeiladu o boptu’r fynedfa. Fel arfer byddent yn bargodi er mwyn diogelu’r llidiart ac roedd ganddynt agennau saethu.
Weithiau ymestynnwyd y tyrau hyn tuag yn ôl i ffurfio tramwyfa drwy’r porthdy. Byddai honno’n cynnwys clwydi, porthcwlisau a thyllau llofruddio.
Fel arfer byddai’n rhaid mynd i mewn i’r castell ar draws pont neu bont godi ar draws ffos neu ddyfrffos. Roedd hon yn sefyllfa beryglus i ymosodwyr y gellid eu saethu o’r porthdy.
Cestyll consentrig
Roedd gan y castell consentrig fwy nag un llinell amddiffyn: roedd mur allanol gyda thyrau ychwanegol yn amgylchynu’r cadarnle mewnol. Roedd y mur mewnol yn uwch, er mwyn i’r saethwyr anelu dros ben y milwyr a fyddai ar y mur allanol. O bryd i’w gilydd byddai dyfrffosydd yn cael eu hychwanegu er mwyn gwneud y castell yn gryfach fyth.
Castell Caerffili oedd un o’r cestyll consentrig cyntaf i’w gynllunio’n fwriadol. Fe’i hadeiladwyd gan Gilbert de Clare III, arglwydd Anglo-Normanaidd pwerus, a dechreuwyd ei adeiladu ym 1268.
Adeiladodd tywysogion Cymru gestyll eu hunain er mwyn amddiffyn eu tiroedd ac i ddiogelu llwybrau pwysig. Roedd y cestyll cyntaf a godwyd gan y tywysogion bron yn union debyg i gestyll y goresgynwyr Normanaidd ac unwaith eto roedd y rhain o bridd a phren. Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg dechreuodd tywysogion Cymru adeiladu eu cestyll gyda charreg ond roedd y cynllun yn bur wahanol.
At ei gilydd, adeiladwyd y cestyll mewn mannau gydag amddiffynfeydd naturiol cryf (er enghraifft, ar safle ar ben bryn neu ger afon). Byddai siâp y castell yn amrywio, er mwyn manteisio ar ei safle. Y tyrau fyddai prif bwyntiau cryf y castell, gyda llenfur gysylltiol. Fel arfer byddai’r tyrau yn rhai deulawr, ac roeddent yn aml ar siap-D.
Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr, m.1240) a gododd gestyll Dolwyddelan a Dolbadarn yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg. Un petryal oedd y gorthwr yn Nolwyddelan, ond cafodd y castell diweddarach yn Nolbadarn ei gynllunio gyda gorthwr crwn.
Llywelyn ab Iorwerth oedd yn gyfrifol hefyd am gastell Cricieth (Gwynedd) tua 1230, gyda ward fewnol a phorthdy dau-dŵr ac adeiladodd Gastell Ewloe (Sir y Fflint), gyda ward fewnol a gorthwr siâp-D cryf.
Ym 1276-77 a 1282-83, arweiniodd y Brenin Edward I ddwy ymgyrch filwrol yng Nghymru i drechu tywysogion Cymru a sefydlu rheolaeth y Saeson. Er mwyn gwneud hyn, adeiladwyd neu atgyweiriwyd llawer o gestyll rhwng 1276 a 1295.
Cestyll a adeiladwyd neu a ailadeiladwyd gan Edward I: Aberystwyth, Biwmares, Llanfair-ym-Muallt, Caernarfon, Conwy, Y Fflint, Harlech, Rhuddlan.
Cestyll Cymreig a gipiwyd neu a atgyweiriwyd gan Edward I: Castell y Bere, Cricieth, Dolwyddelan a Chaergwrle.
Cestyll yr arglwyddi a godwyd neu a ailgodwyd ar eu tiroedd eu hunain ar gyfer Edward I: Y Waun, Dinbych, Penarlâg, Holt, Rhuthun.
Ar ôl pob ymgyrch, adeiladwyd cestyll i gadw’r tir a gipiwyd a theyrnasu dros y gelynion a orchfygwyd. Eryri, ardal fynyddig, oedd cadarnle’r Cymry, ac fe’i hamgylchynwyd gan gylch o gestyll gan y Brenin Edward. Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r rhain ar yr arfordir neu wrth afon er mwyn cario cyflenwadau mewn llongau. Defnyddiwyd y syniadau diweddaraf wrth adeiladu cestyll, ac roedd gan y cestyll newydd
- amddiffynfeydd consentrig.
- llenfuriau a thyrau enfawr.
- agennau saethu lluosog.
- porthdai pwerus.
Cost y gwaith adeiladu hwn oedd tua £30m yn arian heddiw. Adeiladwyd trefi â wal o’u cwmpas ochr yn ochr â’r cestyll yng Nghaernarfon, Conwy, Dinbych a’r Fflint.
Mae’r cestyll a adeiladwyd ar yr adeg hon ymhlith yr enwocaf yng Nghymru. Heddiw mae pedwar o’r rhai mwyaf cyflawn ohonynt – Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech – wedi’u dynodi’n Safle Treftadaeth y Byd.
Castell Caernarfon
Dechreuwyd codi Castell Caernarfon ym Mehefin 1283. Mae i’r castell naw tŵr a dau borthdy. Roedd yn gartref i osgordd a theulu’r brenin, ac roedd yn ganolfan weinyddol i’r ardal.
Castell Harlech
Dechreuwyd codi Castell Harlech ym 1283 yn ystod yr ail ymgyrch. Ar anterth y gwaith adeiladu yn Harlech yn haf 1286 roedd bron 950 o ddynion yn cael eu cyflogi – 227 o seiri maen, 115 o chwarelwyr, 30 o ofaint, 22 o seiri coed a 546 o lafurwyr. Daeth y cerrig eu hunain o chwareli ym Môn, Caernarfon, Egryn a’r safle ei hun.
Castell Conwy
Cymerodd bedair blynedd a hanner i gwblhau Castell Conwy a hynny ar gost o ryw £15,000 (dros £6m heddiw). Mae’r wyth tŵr anferth yn nodweddion amlwg yn yr ardal, gan edrych dros afon Conwy, a ddefnyddiwyd ar gyfer symud milwyr a chyflenwadau mewn llongau. Conwy yw’r dref â’r muriau mwyaf cyflawn yng Nghymru.
Castell Biwmares
Hwn oedd yr olaf o gestyll Edward I i’w godi yn y Gogledd. Dechreuwyd ei adeiladu ym 1295 ac mae’n gastell consentrig gyda ffos ddŵr yn amddiffynfa ychwanegol. Gallai llongau hwylio i lidiart y castell.
Ar ôl buddugoliaeth Edward I dros Gymru, lleihau wnaeth yr angen milwrol i godi cestyll. Ar ôl datblygu powdwr gwn a magnelau, roedd yn bosibl difrodi neu ddinistrio amddiffynfeydd cestyll yn haws. Câi gwrthdrawiadau rhwng byddinoedd eu setlo i ffwrdd o’r cestyll yn bennaf, ar dir agored.
Cafodd y cestyll yng Nghymru eu defnyddio eto am gyfnod byr yn ystod ymgyrchoedd Owain Glyndŵr yn erbyn y brenin. Ym 1404, cipiodd Owain Glyndŵr Gastell Harlech, a ddaeth yn bencadlys iddo am bum mlynedd ac yn gartref i’w senedd.
Yn dilyn y Deddfau Uno (1536-43) a unodd Cymru a Lloegr, daeth y wlad yn fwy heddychlon ac nid oedd angen cestyll ar gyfer amddiffynfeydd. Defnyddiwyd rhai fel canolfannau gweinyddol, lle y gellid casglu rhenti a threthi. Cynhaliwyd llysoedd barn mewn rhai cestyll, a defnyddiwyd eu dwnsiwns o hyd fel carchardai. Os byddai cestyll yn cael eu defnyddio yn y ffordd hon, addaswyd yr ystafelloedd i ddarparu swyddfeydd a llety ar gyfer y swyddogion a gynhaliodd y dyletswyddau hyn. Adfeiliodd rhai o’r cestyll eraill. Defnyddiwyd Castell Cydweli fel llys tan 1609.
Roedd rhai perchnogion wedi gwella ac ailadeiladu eu cestyll i greu cartrefi mwy cyfforddus. Yng Nghastell Rhaglan, cynhaliodd William Somerset (1549-89), trydydd iarll Caerwrangon, welliannau i ddarparu llety crand a fyddai’n addas ar gyfer bonheddwr o’i statws ef. Ailadeiladodd y Neuadd Fawr ac Adain y Swyddfeydd (gyda llety ar gyfer staff) ac ychwanegodd yr Oriel Hir (lle byddai darluniau’n cael eu dangos a byddai’r teulu a gwesteion yn gallu gwneud ymarfer corff). Yn ogystal, adeiladodd erddi prydferth.
Mae cestyll y Waun, Wrecsam a Chastell Powis, Powys (mae’r ddau yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar agor i’r cyhoedd) yn enghreifftiau o gestyll a newidiwyd yn gartrefi mawr gan eu perchnogion.
Serch hynny, nid oedd pwysigrwydd milwrol cestyll yng Nghymru wedi llwyr dod i ben. Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref rhwng y Brenin a’r Senedd ym 1642, cafodd nifer o gestyll Cymru eu hatgyfnerthu i fod yn ganolfannau ar gyfer milwyr oedd yn cynorthwyo Siarl I. Defnyddiwyd arfau newydd - gynnau a magnelau - bellach, a chryfhawyd y waliau i wrthsefyll saethu. Adeiladwyd llwyfannau y tu allan i’r waliau er mwyn rhoi magnelau arnynt.
Wynebodd Conwy, Caernarfon a Harlech i gyd warchaeau gan gefnogwyr y Senedd. Roedd yr ymladd yn galetach byth yn y de-ddwyrain, lle yr amddiffynnodd iarll Caerwrangon Gastell Rhaglan a bu ei fab Edward yn gyfrifol am amddiffyn y castell yng Nghas-gwent dros y Brenin. Yn ystod haf 1646 roedd castell Rhaglan o dan warchae gan fyddin o 3,500 o Seneddwyr o dan arweiniad Syr Thomas Fairfax, a phan ildiwyd Rhaglan i’r Seneddwyr maes o law, roedd yn orchfygiad difrifol i’r Brenin. Difrodwyd y castell yn fwriadol i atal y Brenhinwyr rhag ei ddefnyddio eto.
During the summer of 1646 a Parliamentarian army of 3,500 men led by Sir Thomas Fairfax besieged Raglan Castle and, when they finally took the castle, it was a serious defeat for the King. The castle was deliberately damaged to prevent the Royalists using it again.
O ddiwedd y ddeunawfed ganrif, dangosodd llawer o bobl ddiddordeb mewn pensaernïaeth ganoloesol. Roedd rhai pobl gyfoethog wedi ailfodelu eu tai er mwyn iddynt edrych fel cestyll, neu hyd yn oed wedi adeiladu rhai newydd. Dangosodd y cestyll hyn fod eu perchnogion yn gyfoethog, ond ni chawsant eu hadeiladu i’w hamddiffyn hwy neu eu tir.
Mae Castell Coch ger Caerdydd ac mae yng ngofal Cadw. Fe’i codwyd rhwng 1860 a 1880 ar ran ardalydd Bute, a wnaeth ffortiwn o ddociau Caerdydd. Roedd yn berchen ar adfeilion castell canoloesol a chyflogodd y pensaer William Burges i’w ailadeiladu. Roedd William Burges yn arbenigwr mewn dylunio canoloesol ac yn ogystal â’r castell ei hun, cynlluniodd y dodrefn a’r addurniad yn fanwl iawn.
Mae Castell Penrhyn, ger Bangor, Gwynedd yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae ar agor i’r cyhoedd. Fe’i hadeiladwyd tua 1820 ar gyfer teulu’r Pennant a wnaeth ffortiwn yn cyflenwi llechi ar gyfer toeon tai.