Skip to main content

Dyma ffaith ddiddorol: mae gan Gymru fwy o gestyll i bob milltir sgwâr nag unrhyw wlad arall yn Ewrop.

Oherwydd ei hanes, mae tirwedd Cymru’n frith o fryngaerau o’r Oes Haearn, adfeilion Rhufeinig a chestyll tywysogion Canoloesol Cymru a brenhinoedd Lloegr. Mae dros 600 o gestyll, felly ble bynnag ewch chi ar wyliau yng Nghymru, fyddwch chi ddim yn bell o safle hanesyddol. Os nad oes gennych amser i ymweld â phob un, dyma’r 10 uchaf i ymweld â nhw.

Castell Biwmares, Gogledd Cymru

Gellid ystyried Castell Biwmares yn Ynys Môn fel y castell mwyaf perffaith erioed i beidio â chael ei adeiladu! Er na chafodd ei gwblhau, y castell hwn, gyda’i gyfochredd perffaith bron, pedair cylch o furiau amddiffynnol a ffos yn llawn dŵr sy’n cynnwys cei i’r castell yn unig, yw’r mwyaf a’r olaf o gestyll Edward I yng Nghymru.

Castell Biwmares/Beaumaris Castle view of the south west corner of the castle

Castell Conwy, Gogledd Cymru

Ystyrir mai Castell Conwy yw un o gadarnleoedd canoloesol mwyaf mawreddog Ewrop. Mae gan y castell a’r 1.3km o furiau caerog, statws Treftadaeth y Byd.

Adeiladwyd y gaer ryfeddol hon mewn cyfnod anhygoel o fyr o bedair blynedd, rhwng 1283 a 1287, ac mae’n syndod o gyflawn hyd heddiw: yma y ceir yr ystafelloedd brenhinol canoloesol mwyaf cyflawn yng Nghymru. Os nad ydych chi’n cael y bendro, dringwch i ben un o wyth tŵr ysblennydd y castell i gael golygfeydd ysgubol o’r harbwr a strydoedd culion Conwy islaw.

Castell Conwy / Conwy Castle

Castell Caernarfon, Gogledd Cymru

Cadernid cyhyrog Castell Caernarfon yw un o’r golygfeydd mwyaf syfrdanol welwch chi fyth. Adeiladwyd y campwaith amlochrog hwn yn y 13eg ganrif ar ben cyn gaer Rufeinig, ac mae’n un o blith pedwar o gestyll Edward I, gyda Chonwy, Biwmares a Harlech, sy’n Safle Treftadaeth y Byd.

Tŵr yr Eryr, gyda’r tri thŵr bach a waliau 18 troedfedd o drwch yw’r uchafbwynt, a dyma ble byddai’r teulu brenhinol yn cysgu mewn ysblander urddasol.

Castell Caernarfon/Caernarfon Castle

Castell Dinbych, Gogledd Cymru

Fry ar fryn uwch y dref, nodwedd fwyaf arbennig Castell Dinbych yw’r porthdy tri-thŵr trawiadol. Arferai’r castell fod yn gartref brenhinol i Dafydd ap Gruffydd, a achosodd i frenin Lloegr, Edward I ymosod yn chwyrn ar Gymru drwy gipio castell Penarlâg gerllaw.

Yn ystod eich ymweliad, cofiwch archwilio’r cyrchborth dirgel – drws cudd oedd yn galluogi amddiffynwyr i sleifio i mewn ac allan o’r castell. A gallwch chwarae ‘beth yw’r gwahaniaeth’ gyda’r tyrrau crwn ac amlochrog, a adeiladwyd mewn dau gyfnod gwahanol, yn 1282 a 1295.

Castell Harlech, Gogledd Cymru

Ar gopa craig uchel, serth, â golygfa dros gopaon pell Eryri, lleolir Castell Harlech yn un o’r mannau mwyaf gogoneddus o holl gestyll Cymru.

Adeiladwyd hon rhwng 1282 a 1289, ynghyd â chestyll eraill Edward I, Conwy, Caernarfon a Biwmares, mae Harlech yn Safle Treftadaeth y Byd. Gall ymwelwyr fynd i’r cadarnle enfawr hwn ar yr arfordir drwy gyfrwng ‘pont droed grog’.

Castell Harlech / Harlech Castle

Castell Caerffili, De Cymru 

Castell mwyaf Cymru, a’r ail fwyaf ym Mhrydain, yw Castell Caerffili. Fe’i diogelwyd gan amddiffynfeydd dŵr pan adeiladodd y Saeson ef yn y 13eg ganrif. Tu fas i’r castell, ymhlith rhyfeddodau eraill, gellir gweld pedair injan warchae, ac mae gan du fewn y castell deimlad cysegredig, mawreddog.

Dringwch i ben to’r porthdy dwyreiniol enfawr, ble gallwch weld y cylchoedd o amddiffynfeydd carreg a dŵr a achosodd i Gaerffili fod mor drawiadol. Cadwch lygad am y tŵr de-ddwyreiniol – Tŵr Gogwyddol arbennig Cymru, ac yn fwy cam hyd yn oed nag un Pisa – dyma hoff nodwedd y Castell, siŵr o fod.

Castell Caerffili/Caerphilly Castle

Castell Cydweli, De Cymru

Mae gan Cydweli bopeth ddylai fod mewn castell: gwrthgloddiau serth, tyrrau uchel, waliau mawr a phorthdy sylweddol a gymerodd o leiaf ganrif i’w gwblhau. Gallwch fynd yn ôl drwy’r canrifoedd at y castell pridd a phren cyntaf a adeiladwyd yma gan y Normaniaid. Gallwch olrhain ei siâp hanner cylch drwy gerdded ar hyd y waliau cerrig a adeiladwyd bron i ganrif yn ddiweddarach. Peidiwch â gadael cyn archwilio’r porthdy na’r capel bach hardd sy’n edrych allan dros yr afon.

Castell Rhaglan, De Cymru

Castell Rhaglan oedd un o’r cestyll canoloesol olaf i gael ei adeiladu yng Nghymru a Lloegr – mae’n dal yn wydn ond fe’i cynlluniwyd i fod yn gysurus a moethus hefyd. Dringwch y Tŵr Mawr ar ynys a amgylchynir gan ffos ac archwiliwch y seleri o dan y castell sydd newydd gael eu hadnewyddu, ble arferid cadw rhai o winoedd gorau Ewrop i’w gweini ar y bwrdd uchaf i greu argraff ar westeion.

Gan gofio am enw da Rhaglan ar gyfer rhoi adloniant, bydd y castell yn cynnal digwyddiadau cyson gan gynnwys darllen barddoniaeth, dramâu, canu a dawnsio.

Castell Rhaglan/Raglan Castle