Castell Caerffili
![](/sites/default/files/styles/banner_image/public/2019-05/SCX-KC01-1415-0026.jpg?h=08b5ab38&itok=zg93iZiS)
Hysbysiad Ymwelwyr
Dydd Llun10–Dydd Sul 23 Chwefror 2025
Oherwydd y mynediad cyfyngedig o amgylch y castell tra bod ein timau'n parhau i ailddatblygu'r ardal, bydd pob ymwelydd yn cael mynediad am ddim.
Prosiect Adfywio Castell Caerffili
Yn ystod y cam hwn o’r prosiect, bydd y Neuadd Fawr, y cwrt canolog a rhai ardaloedd llawr gwaelod y ward fewnol ar gau i ymwelwyr. Bydd lloriau uwch a llwybrau’r waliau ar agor fel arfer ond bydd angen defnyddio grisiau troellog hanesyddol er mwyn eu cyrraedd.
Bydd ein toiledau ymwelwyr ar gau drwy gydol y prosiect, ond mae toiledau ar gael ym marchnad gymunedol Ffos Caerffili gerllaw (ar gau ar ddydd Llun), nepell o fynedfa’r castell.
Oherwydd y gwaith ailddatblygu sy’n digwydd, bydd llwybr y pysgotwr o gefn y castell ar gau o ddydd Llun 22 Ebrill wrth i ni barhau i weithio yn yr ardal hon.
Oherwydd gwaith ailddatblygu yng Nghastell Caerffili, bydd ceisiadau am logi’r safle ac archebion gan y diwydiant teithio yn cael eu hystyried, ond efallai y bydd rhaid cau’r safle ar y funud olaf o dro i dro.
Bwriadu ymweld â Chastell Caerffili? Defnyddiwch ein map defnyddiol i wneud y mwyaf o’ch ymweliad!
Arswyd rhag tywysog Cymru wedi ysbrydoli castell canoloesol grymusaf Cymru
Ni adeiladodd Llywelyn ap Gruffudd Gastell Caerffili. A dweud y gwir, ceisiodd ei ddymchwel ddwywaith cyn iddo gael ei gwblhau. Ond ef, yn sicr, a’i hysbrydolodd.
Yn sgil esgyniad nerthol Dywysog Cymru, argyhoeddwyd Arglwydd y Mers, Gilbert de Clare, fod angen caer arno a honno ar frys. Ac roedd yn well iddi fod yn gwbl aruthrol.
Felly o 1268 adeiladodd de Clare y castell mwyaf yng Nghymru – a hwnnw’n ail yn unig i Windsor ym Mhrydain oll. Cyfunwyd waliau, tyrau a phorthdai enfawr ag amddiffynfeydd dŵr helaeth i orchuddio 30 erw i gyd.
Mae hynny deirgwaith cymaint â chadarnle Cymru gyfoes, sef cartref rygbi Cymru, Stadiwm y Principality.
Pan fu farw Llywelyn, trawsnewidiwyd y gaer flaenaf hon yn gartref gwych a chanddo barc hela a llyn gogleddol. Fe’i trosglwyddwyd i ddwylo ffefryn creulon a barus Edward II, Hugh Despenser, a ailwampiodd y neuadd fawr mewn modd addurniedig.
Erbyn hynny, rhaid bod Caerffili yn ymddangos fel rhyw gastell chwedlonol yn arnofio mewn llyn hudol, effaith a gryfhawyd yn rhyfedd gan bowdwr gwn y Rhyfel Cartref a adawodd tŵr y de-ddwyrain ar ongl ansicr.
A dweud y gwir, mae’n siŵr mai Tŵr Cam Cymru – sy’n gwyro mwy na thŵr Pisa hyd yn oed – yw nodwedd anwylaf y castell.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am–5pm |
---|---|
1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am–6pm |
1st Medi - 31st Hydref | 9.30am–5pm |
1st Tachwedd - 29th Chwefror | 10am–4pm |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Dydd Llun10– Dydd Sul 23 Chwefror 2025Oherwydd y mynediad cyfyngedig o amgylch y castell tra bod ein timau'n parhau i ailddatblygu'r ardal, bydd pob ymwelydd yn cael mynediad am ddim. |
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£10.90
|
Teulu* |
£34.90
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£7.60
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£10.40
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). Nid yw tocynnau ar-lein i’w cael ar hyn o bryd – os gwelwch yn dda, prynwch eich tocynnau pan fyddwch yn cyrraedd y safle. |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
I gael gwybodaeth hygyrchedd, cysylltwch â’n tîm castell yn: CaerphillyCastle@llyw.cymru
Maes parcio Talu ac Arddangos
Mae meysydd parcio talu ac arddangos arhosiad byr a hir ar gael; mae’r maes parcio arhosiad byr tua 110m i ffwrdd. Mae’r maes parcio arhosiad hir tua 500m i ffwrdd. Mae lleoedd parcio penodol ar gael ar gyfer pob anabl. |
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar lefelau gwaelod y castell pan fyddant ar dennyn. Gall rhai ardaloedd fod ar gau pan fyddwch yn ymweld gan fod gwaith adnewyddu yn digwydd ar hyn o bryd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm os gwelwch yn dda.
Ffôn: 02920 883143
E-bost: CaerphillyCastle@llyw.cymru
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Trwydded seremoni sifil
Noder: Nid yw Neuadd Fawr Castell Caerffili ar gael ar gyfer priodasau tan 2025.
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llogi Safle
Nid yw Castell Caerffili ar gael ar hyn o bryd i’w logi ar gyfer digwyddiadau, ffilmio ac arddangosfeydd oherwydd y gwaith ailddatblygu parhaus.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Cyflwyniad fideo
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Castle St, Caerffili CF83 1JD
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 02920 883143
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost CaerphillyCastle@llyw.cymru
Cod post CF83 1JD
what3words: ///peiriannau.gofalus.cymharu
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50