Buddsoddi £5 miliwn yng Nghastell Caerffili
Bydd buddsoddiad gwerth £5 miliwn yng Nghastell Caerffili yn dod â chyfleusterau’r 21ain ganrif i’r safle canoloesol mawreddog
Fel rhan o’r buddsoddiad, bydd ymwelwyr â’r castell yn cael eu croesawu i ganolfan ymwelwyr newydd, yn cael pori o amgylch man manwerthu gwell, ac yn gallu myfyrio ar y byd canoloesol mewn caffi newydd sbon ar y safle.
Dilynwch ein llinell amser o ddatblygiadau, o ddadorchuddio’r cysyniad a’r cynlluniau ar gyfer y safle ym mis Mehefin 2021, i amrywiaeth o argraffiadau gan artist a fydd yn dangos sut fydd y cyfleusterau newydd yn edrych ar ôl eu cwblhau yn yr atyniad treftadaeth hwn sydd o’r radd flaenaf.
Edrychwch ar fanylion y prosiect, gan gynnwys argraffiadau artist
2 Awst 2022
Twitter
Contractwyr Cadw, John Weaver Ltd, yn cefnogi Ysgol y Castell i ddysgu gwerth cyfathrebu a gweithio fel tîm!
17 Mehefin 2022
Cymeradwyo cynlluniau ar gyfer gwaith cadwraeth a datblygu Castell Caerffili

14 Rhagfyr 2021
Cawr cwsg de Cymru yn dihuno: cyflwyno cynlluniau ar gyfer Castell Caerffili
Mae Cadw heddiw [14 Rhagfyr 2021] wedi cyflwyno’r cynlluniau llawn ar gyfer gwaith gwella Castell Caerffili, a fydd yn golygu bod yr heneb ganoloesol yn elwa ar waith cadwraeth, adnewyddu ac adeiladu helaeth.

Tachwedd 2021
Edrychwch ar fanylion y prosiect, gan gynnwys argraffiadau artist o’r ganolfan ymwelwyr newydd

17 Mehefin 2021
Datgelu cynlluniau mawr ar gyfer Castell Caerffili — wrth i Cadw gyhoeddi manylion buddsoddiad gwerth £5 miliwn
