Skip to main content
Castell Caerffili
Wedi ei gyhoeddi

Heddiw (dydd Gwener 26 Gorffennaf), gwelodd trigolion Castell Caerffili rywbeth trawiadol; yr awyr yn tywyllu, rhuo byddarol a fflachiadau o genau coch a gwyn. Wrth iddyn nhw syllu i fyny at fylchfuriau'r castell, daeth hi’n amlwg beth oedd ar waith.. roedd dreigiau Cadw yn ôl i glwydo yn y castell.  

Yn gynharach y mis hwn aeth y dreigiau ar wyliau sba byr i'w man geni yn Wild Creations lle cawson nhw eu pampro; ffeilio eu crafangau, atgyweirio eu hadenydd, ailbeintio eu cennau ac ychwanegu effeithiau mwg newydd, pob un yn eu paratoi ar gyfer haf prysur o gyfarch a diddanu ymwelwyr yng Nghastell Caerffili.

draig goch / red dragon

Efallai eich bod wedi eu gweld yn troelli o amgylch tyrau cadarn eich hoff gestyll yng Nghymru pan gyrhaeddon nhw Gymru am y tro cyntaf, neu efallai eich bod yn ddigon dewr i'w cyfarfod wyneb yn wyneb. Nawr gallwch gwrdd a chyfarch y ddau greadur chwedlonol yma yng Nghastell Caerffili dros weddill yr haf.

Mae dreigiau Cadw wedi bod yn drigolion poblogaidd yng Nghastell Caerffili ers iddyn nhw ymddangos o ochr y ffos am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi 2016. Eleni bydd ymwelwyr yn gweld y dreigiau enfawr yn dychwelyd mewn lliwiau newydd ysblennydd sy'n adlewyrchu hanes hynafol dwy ddraig o chwedl Gymreig ganoloesol a oedd yn cysgu o dan Ddinas Emrys. Roedd buddugoliaeth y ddraig goch dros yr un wen yn darogan buddugoliaeth y Cymry dros y Sacsoniaid mewnlifol ac mae’r Ddraig Goch Gymreig yn parhau i fod yn symbol cenedlaethol sy’n ymddangos yn falch ar ein baner genedlaethol. 

Profiadau newydd ar gyfer 2025

Megis dechrau ar y gwaith o atgyweirio dehongliad newydd mawr yng Nghastell Caerffili yw ailwampio'r dreigiau. Bydd arddangosfeydd dehongli newydd yn cael eu gosod ledled y castell yn barod ar gyfer gwanwyn 2025 fel rhan o'r prosiect adfywio mawr sydd ar y gweill yn y castell. Bydd hyn yn benllanw ar gam 1 y prosiect sy’n cynnwys adnewyddu’r Neuadd Fawr ganoloesol, agor y llifddorau canoloesol, gosod llwybrau a rampiau mynediad i ymwelwyr, a chreu gardd blodau gwyllt heddychlon. 
Y Neuadd Fawr yw'r ystafell fwyaf yn y castell, ystafell a ddefnyddiwyd yn draddodiadol ar gyfer gwleddoedd a digwyddiadau godidog. Wedi'i hadeiladu yn y 13eg ganrif gan Gilbert de Clare, ar hyn o bryd mae'n ofod plaen gyda waliau moel a llawr carreg. Bydd cyflwyniad newydd Cadw yn dod â moethusrwydd yn ôl i'r Neuadd - gan ei arddangos fel y gallai fod wedi ymddangos yn y 14eg ganrif, fel neuadd wledda foethus, waliau â thapestrïau cyfoethog a thanllwyth o dân, yn llawn lliw a golau.

Mae gwelliannau eraill yn cynnwys mwy o hygyrchedd trwy osod llwybrau a rampiau newydd. Bydd y rhain yn galluogi mwy o ymwelwyr i archwilio cyrtiau a thiroedd y castell a mwynhau'r straeon niferus am gymeriadau diddorol a adeiladodd ac a geisiodd weithiau ddinistrio'r castell mwyaf yng Nghymru.
Mae prosiect adfywio Caerffili yn rhan o gynllun adfywio Tref Caerffili 2035 i ddod â newid trawsnewidiol i dref Caerffili. Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Arolygydd Adeiladau a Henebion Hanesyddol Cadw: 

“Mae Castell Caerffili yn hollbwysig i’r rhanbarth a dyma’r prif atyniad sy’n denu ymwelwyr i’r dref. Mae ein prosiect adfywio uchelgeisiol yn mynd rhagddo’n dda a bydd yn trawsnewid Castell Caerffili yn atyniad o safon fyd-eang i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’r buddsoddiad mewn cadwraeth a hygyrchedd yn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu ymweld â’n henebion hanesyddol a’u mwynhau am genedlaethau i ddod.”

Cynllunio’ch ymweliad

Yn ystod y cam hwn yn y prosiect, bydd y Neuadd Fawr, y cwrt canolog a rhai o ardaloedd llawr gwaelod y ward fewnol ar gau i ymwelwyr. Bydd y lloriau uchaf a llwybrau cerdded y muriau ar agor cymaint â phosibl, ond bydd yn rhaid dringo’r grisiau troellog hanesyddol i gael mynediad atynt. Edrychwch ar y wefan i gael y manylion cyn i chi ymweld â’r safle Prosiect Adfywio Castell Caerffili | Cadw (llyw.cymru)   
Bydd toiledau i ymwelwyr ar gau trwy gydol y prosiect, ond mae toiledau ar gael ym marchnad gymunedol Ffos Caerffili gerllaw (ar gau ar ddydd Llun) sydd ond ychydig bellter o fynedfa'r castell.
Darganfyddwch fwy yn Ymweld â Castell Caerffili