Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Daeth Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a’i chyfres o is-ddeddfwriaeth ategol i rym yn llawn ar 4 Tachwedd 2024.

Dyma’r ddeddfwriaeth gydgrynhoi gyntaf yn rhaglen bum mlynedd ddechreuol Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae’r darn hanesyddol hwn o ddeddfwriaeth yn darparu cyfraith gwbl ddwyieithog, drefnus a hygyrch ar gyfer diogelu a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol unigryw yn effeithiol fel y gall barhau i gyfrannu at lesiant Cymru a’i phobl.

Gyda cychwyn llawn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023,, nid yw’r Deddfau a ddarparodd y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer rheoli a gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru am ddegawdau — yn bennaf Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 — yn gymwys yng Nghymru bellach. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud hi’n haws i bawb ddod o hyd i’r gyfraith, ei deall a’i rhoi ar waith, ond ni fydd yn  gwneud unrhyw newidiadau i reolaeth a diogelwch presennol amgylchedd hanesyddol Cymru.

Mae testun llawn Deddf 2023 ar gael ar wefan y Senedd ac ar legislation.gov.uk.

Hefyd ar gael ar legislation.gov.uk mae’r dogfennau ategol a fydd yn eich helpu i ddeall yn well y ddeddfwriaeth a’r ffordd y cafodd ei drafftio: