Skip to main content

Mae Cadw yn gweithio mewn partneriaeth â Casgliad y Werin Cymru – People’s Collection Wales — i gasglu a rhannu cynnwys a grëwyd gan unigolion, ysgolion, grwpiau addysg a grwpiau cymunedol sy'n ymweld â safleoedd Cadw.

Trwy gyhoeddi eich eitemau a'ch casgliadau eich hun ar Casgliad y Werin Cymru – People’s Collection Wales, byddwch yn cyfrannu at wefan a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n ymroddedig i ddod â ffotograffau, dogfennau, recordiadau sain, fideo a straeon diddorol ynghyd. Mae’r rhain i gyd yn adrodd straeon am hanes, diwylliant a phobl Cymru.

Os hoffech chi rannu lluniau, ffotograffau, fideos, neu recordiadau sain a grëwyd neu a ysbrydolwyd gan ymweliad ag un o'n safleoedd, gallwch ddilyn y canllawiau Sut i ... Cofrestru, Uwchlwytho a Chyhoeddi i'w huwchlwytho i Casgliad y Werin Cymru – People’s Collection Wales, a defnyddiwch y tag 'Cadw' i'n helpu i ddod o hyd i'ch cynnwys a'i rannu drwy wefan Cadw.

Mae Casgliad y Werin Cymru — People’s Collection Wales hefyd yn gallu cynnig hyfforddiant, cefnogaeth ac offer i ysgolion a grwpiau cymunedol. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn ar y wefan.

Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth am y ffyrdd y gallwch ryddhau eich creadigrwydd cyn, yn ystod neu ar ôl ymweliad â safle Cadw, mae llwyth o syniadau, enghreifftiau ac adnoddau ar gael ar ein tudalennau Celf, Crefftau a Chreadigrwydd. Peidiwch ag anghofio defnyddio'r tag 'cadw'.