Skip to main content

Dylai treftadaeth Cymru fod yn hygyrch i bawb – ac adlewyrchu'r gwahanol bobl a diwylliannau sy'n galw ein gwlad yn gartref.

Mae Cadw yn rhan o Lywodraeth Cymru, ac yn gyfrifol am ddiogelu amgylchedd hanesyddol y wlad. Mae'n dirwedd amrywiol, sy'n ymestyn o henebion cynhanes i weddillion diwydiant yr 20fed ganrif.

Mae’n dreftadaeth o bob lliw a llun, o gaerau anhygoel i leoliadau mwy cyffredin sy'n rhan o'r amgylchedd bob dydd sydd o'n cwmpas. Mae'n cynnwys popeth o dirnodau pwysig sy'n agored i'r cyhoedd, i dai preifat a gwrthgloddiau cudd ar draws caeau ffermwyr.

Yn ogystal â chynnal a dehongli ein safleoedd ein hunain, a'u cadw ar agor i bobl eu mwynhau, rydym yn rhoi cyngor a chymorth i berchnogion a rheolwyr safleoedd hefyd. Weithiau gallwn ddarparu cymorth grant hefyd, yn ogystal â chyhoeddi canllawiau i bawb sy'n rhan o'r gwaith o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar leoedd hanesyddol.  

Boed fawr neu fach, mae pob lle y mae Cadw yn ei ddiogelu yn rhan o stori genedlaethol a adroddir dros ganrifoedd. Rhan arall y stori yw pobl Cymru, casgliad amrywiol o unigolion y mae eu bywydau wedi siapio gorffennol a phresennol y wlad. Ein nod yw sicrhau bod ein treftadaeth ar gael i bawb gael blas arni a'i mwynhau. Rydym wedi llunio'r adran hon o'n gwefan i adrodd rhai o straeon llai adnabyddus ein hanes a chynnig safbwyntiau newydd ar ein gorffennol.

Yn ddiweddar, mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd canfod ffyrdd newydd o adrodd hanesion diwylliannau, treftadaeth a hanes Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Ynghyd â hynny, mae mwy o ddealltwriaeth bod angen gwell cynrychiolaeth o hanes cymunedau LGBTQ+ a grwpiau eraill ar y cyrion, a chyflwyniad mwy cytbwys o hanes menywod.

Os ewch ati i archwilio'r adran hon o'n gwefan fe welwch rai o straeon cudd hanes Cymru. Daw rhai straeon o ymchwil a chofnodion hanesyddol, a bydd eraill yn cael eu hadrodd gan bobl amrywiol Cymru o amrywiaeth o safbwyntiau o'u profiadau mewn bywyd.  Hoffem i chi rannu eich syniadau am y dreftadaeth sy'n bwysig i chi a'r pethau sy'n eich helpu chi i weld eich hun fel rhan o hanes cyfoethog Cymru.  

Nid un ffordd yn unig sydd yna o weld ein gorffennol. Mae cymdeithasau ac agweddau’n newid, gan roi cyfle i ni adrodd straeon mwy cyflawn a chynhwysol. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i ni sylweddoli bod hanes yn gymhleth ac nad yw'r bobl a'r digwyddiadau sy'n ei ysgogi’n ddrwg neu'n dda i gyd o reidrwydd.

Ni ddylem fod ofn cydnabod agweddau negyddol ein treftadaeth, yn yr un modd ag y dylem fod yn falch o ddathlu a choffáu pob unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniadau cadarnhaol iddi. Gyda'ch cymorth chi, bydd y wefan hon yn goresgyn rhwystrau ac yn gwneud ein treftadaeth yn hygyrch ac yn ystyrlon i holl bobl Cymru (a thu hwnt). Gallwch chi fod yn rhan o'r daith hon.