Skip to main content

Nid yw ein hanes yn ymwneud â brenhinoedd, breninesau a chestyll yn unig. Mae'n cynnwys miliynau o straeon am bob math o bobl a lleoedd.

Er bod y cofnod hanesyddol yn llawn ffigurau a oedd yn bwerus ac yn gyfoethog, dim ond rhan o ddarlun llawer cyfoethocach a mwy amrywiol ydynt. Er nad oedd gan unigolyn gastell neu gerflun i’w anrhydeddu, nid yw hynny'n golygu nad yw ei stori'n werth ei hadrodd.

Mae treftadaeth Cymru yn ymwneud â'r mawr a'r bach. Mae digon o le i ddathlu ein prif drysorau cenedlaethol a'r pethau a'r lleoedd rydym yn dod ar eu traws bob dydd. Mae treftadaeth yn rhan annatod o'r dirwedd o'n cwmpas, gan adrodd hanesion cenedlaethau di-rif o bobl sydd wedi byw, gweithio a chwarae yma. Mae Cymru'n adnabyddus am ei chestyll mawreddog, ei bryngaerau urddasol a'i safleoedd diwydiannol, ond ni fyddai'r un fath heb ei thafarndai, meinciau'r parc, bythynnod bach y glowyr a ffermydd diarffordd.

Beth yw eich stori?

Mae'n bwysig ein bod yn gwybod pa rannau o dreftadaeth Cymru sy'n bwysig i chi.

Fel llawer o sefydliadau treftadaeth, un o gyfrifoldebau Cadw yw penderfynu pa rannau o'n hanes ffisegol sy'n werth eu cadw. Rydym yn defnyddio'r holl wybodaeth sydd ar gael i ni i wneud y penderfyniadau hyn, ond heb gymorth efallai y byddwn yn methu gweld darnau allweddol o dystiolaeth neu'n methu â deall pwysigrwydd neu arwyddocâd lleoliad penodol.

Gall gwahanol leoedd fod yn bwysig i wahanol bobl am wahanol resymau. Rydym am glywed gan amrywiaeth eang o bobl a chymunedau fel y gallwn ddeall yn llawn yr hyn sy'n bwysig i holl bobl Cymru. Mae treftadaeth y wlad yn eiddo i bob un ohonom a dylai pawb deimlo'n rhan ohoni. Drwy ddeall ein lle mewn hanes ac uniaethu â'n rhagflaenwyr, gallwn werthfawrogi ein presennol a'n dyfodol yn well.

Cymryd rhan

Mae dweud wrthym beth sy'n bwysig i chi yn gyfle gwych hefyd i archwilio a dysgu mwy am ble rydych chi’n byw. Gall dysgu am hanes cudd eich ardal leol fod yn broses ddifyr iawn, gan roi persbectif newydd i chi ar leoedd sy'n ymddangos yn gyfarwydd. Mae'n ffordd wych o ymwneud mwy â'ch cymuned hefyd, dod i adnabod eich cymdogion a datblygu cysylltiadau dyfnach â'ch bro.

Nod prosiect Adeiladu Stori dreftadaeth 15 Munud Cadw yw eich helpu i  archwilio a rhannu'r hanes sydd ar garreg eich drws. Fe welwch ddetholiad o Fapiau Stori ar ein gwefan, sy'n taflu goleuni ar y dreftadaeth sydd yno i’w darganfod yn eich bro. Wrth i chi ymchwilio i'r straeon diddorol hyn, efallai y cewch chi eich ysbrydoli i greu eich stori eich hun?