Skip to main content

Mae’r Adran Fanwerthu yn gyfrifol am sicrhau, dosbarthu a chyflwyno amrywiaeth eang o nwyddau sy’n cael eu gwerthu ar-lein ac mewn siopau rhoddion Cadw ledled Cymru.

Gan ein bod ni’n asiantaeth fewnol i Lywodraeth Cymru sy’n gwarchod henebion hanesyddol Cymru, mae’n bwysig bod nwyddau a gwasanaethau’n cwrdd â’n gofynion ac yn cydymffurfio â’n telerau ac amodau.

Rydyn ni’n ceisio gweithio gyda chyflenwyr sy’n rhannu ein gwerthoedd ac osgoi arferion busnes sy’n niweidio’r amgylchedd neu unigolion a chymunedau. Mae hyn yn cynnwys polisi goddef dim caethwasiaeth fodern o unrhyw fath.

Os ydych chi’n fusnes neu os oes gennych chi gynnyrch yr hoffech inni ei ystyried, cysylltwch â’r Adran Fanwerthu ar cadw.sales@llyw.cymru gyda’r wybodaeth ganlynol:

  • enw cyswllt
  • enw’r cwmni
  • eich swydd
  • rhif ffôn cyswllt
  • cyfeiriad e-bost cyswllt
  • gwefan y cwmni
  • cyfeiriad y cwmni
  • ymlynwch eich catalog nwyddau, os yw ar gael
  • cyflwyniad i’ch cwmni (uchafswm o 200 gair).

Mae’r pwyntiau canlynol yn rhan o’r meini prawf i werthuso’r cynnyrch:

  • rhaid iddo fod yn fasnachol hyfyw
  • rhaid iddo fod yn berthnasol i’r heneb, i Gymru neu ei hanes
  • rhaid iddo fod o ansawdd uchel
  • rhaid iddo fod o bris cystadleuol
  • rhaid iddo weddu i nwyddau neu themâu eraill.

Caiff ceisiadau eu cadw ar ffeil am 6 mis. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnon ni, byddwn ni’n cysylltu â chi drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd yn eich ymholiad.

Gan ein bod ni’n derbyn nifer fawr o geisiadau gan gyflenwyr, yn anffodus ni allwn ni ymateb i bob ymholiad. Mae’r Amodau Cytundebu Nwyddau ar gael ar alw i gyflenwyr presennol Cadw. Cysylltwch â’r Rheolwr Manwerthu, ar cadw.sales@llyw.cymru.